Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Enwau: Beth Sydd Mewn Enw?

Helpu’r plant i feddwl am arwyddocâd enwau.

gan John Fryer

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i feddwl am arwyddocâd enwau.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ofyn i’r plant ddyfalu beth yw’r enwau mwyaf poblogaidd ar fechgyn a merched y flwyddyn hon. (edrychwch ar y wefan i gael atebion). Gofynnwch a oes unrhyw un sy’n bresennol gydag un o’r enwau hynny.

    Gofynnwch iddyn nhw paham y cawson nhw’r enw sydd ganddyn nhw – ydyn nhw’n gwybod fod eu henw wedi cael ei ddewis am ryw reswm arbennig? Ydyn nhw’n gwybod beth yw ystyr eu henwau?

  2. Os yw’r amser yn caniatáu, rhowch ystyr enwau rhai o’r athrawon sydd yn y gwasanaeth gyda chi. Ceisiwch ddewis rhai doniol os gallwch chi (oeddech chi’n gwybod mai ystyr Julie yw ‘barfog’!)

  3. Dywedwch wrth y plant rywbeth am eich enw eich hun, a sut y cawsoch chi yr enw hwnnw – neu, efallai fod gennych enw canol doniol neu anghyffredin …

  4. Unwaith y byddwch chi wedi sefydlu’r testun trafod hwn, ewch ymlaen i sôn am storïau o’r Beibl. Er enghraifft:

    Iesu: mae ei enw’n golygu ‘Gwaredwr’ neu ‘Duw yn achub’. Dyma i chi gyfle i egluro pam fod y Nadolig yn bwysig i Gristnogion, a’r Pasg hyd yn oed yn bwysicach fyth.

    Ioan Fedyddiwr: mae ei enw’n golygu ‘yn cael ei garu gan Dduw’. Adroddwch stori Sechareias (Luc 1.5-20 a 57-64) am y modd y cafodd ei daro’n fud am iddo beidio â choelio gair Duw, nes iddo enwi ei fab yn Ioan, a doedd Ioan ddim yn enw yn nheulu Sechareias cyn hynny.

    Y disgyblion: mae ystyr eu henwau fel a ganlyn: Simon (Pedr) = un sy’n clywed (y graig); Andreas = dynol; Iago (ac Iago fab Alffeus) = un sy’n baglu un arall; Ioan = bendithiwyd gan Dduw (gyda’i gilydd roedd Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, yn cael eu hadnabod fel Meibion y Daran); Philip = yn caru ceffylau; Bartholomeus = mab sy’n atal y dyfroedd; Mathew = anrheg oddi wrth Dduw; Thomas = yr efail; Thadeus = anrheg Duw; Simon (y Cananead) = un sy’n clywed; Jwdas = yr un sy’n cael ei ganmol. A oedden nhw’n gweddu i’w henwau?

    Abraham: Abram oedd ei enw cyn i Dduw gadarnhau ei Gyfamod ag ef, pryd y cafodd y newid bach arwyddocaol yn ei enw. Ar ôl hynny roedd ei enw’n golygu ‘yn dad i lu o genhedloedd’ (Genesis 17.1-22).

    Isaac: ystyr yr enw yw ‘chwerthiniad’. Ymwelodd yr angylion ag Abraham a Sara i ddweud wrthi hi y byddai’n cael mab, ac fe wnaeth hi chwerthin (Genesis 18.1-15).

    Pedr: yn wreiddiol ei enw oedd Simon. Newidiodd Iesu enw Simon i Pedr, enw a oedd yn golygu ‘craig’, oherwydd ef fyddai’r ‘graig’ y byddai Iesu’n adeiladu ei Eglwys arni (Mathew 16.17-19).

Amser i feddwl

Gorffennwch y gwasanaeth trwy ddweud, er bod gennym enwau gwahanol, wedi eu dewis am resymau gwahanol, mae Duw yn ein hadnabod i gyd wrth ein henwau ac yn ein gwerthfawrogi. Mae Cristnogion yn credu ein bod yn arbennig yng ngolwg Duw ac mae hyd yn oed ôl ein bysedd yn dangos ein bod yn arbennig - nid oes neb erioed o’r blaen wedi cael eich ôl bys chi, ac na fydd neb yn ei gael yn y dyfodol chwaith.

(Gofynnwch i’r plant edrych ar bennau eu bysedd fel y byddwch chi’n adrodd y weddi hon.)

Gweddi
Diolch i ti, O Dduw, am ein bod yn arbennig yn dy olwg di, a diolch dy fod ti yn ein caru ni.
Diolch fod y Beibl yn dweud wrthym dy fod ti yn gwybod popeth amdanom,
Hyd yn oed faint o wallt sydd gennym ar ein pen – wel, dyna dda!
Helpa ni i gofio bod pawb yn arbennig ac y dylem ni eu trin yn dda.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon