Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Does Neb Fel Ynys Ar Ben Ei Hun!

Annog plant i feddwl am gynnal perthynas ehangach na’r un sydd ganddyn nhw gyda’r teulu agosaf a meddwl gymaint yr ydym ni angen pobl eraill.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog plant i feddwl am gynnal perthynas ehangach na’r un sydd ganddyn nhw gyda’r teulu agosaf a meddwl gymaint yr ydym ni angen pobl eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen cylchgrawn clecs, eitem siâp calon (clustog?), meicroffon, tywel bach neu orchudd gobennydd mewn lliw brown, gwyrdd neu felyn i gynrychioli ynys, llyfr, teclyn rheoli teledu o bell, ac ychydig o siocled.

Gwasanaeth

  1. Mae’r gwasanaeth hwn yn ymwneud â pherthnasoedd. Pan ydw i’n dweud ‘perthnasoedd’, tybed faint ohonoch chi sy’n meddwl am y math o berthnasoedd yr ydym yn eu gweld eu hanes mewn cylchgronau fel hyn (dangoswch y cylchgrawn): pwy sydd mewn cariad â phwy, pwy sy’n canlyn pwy, pwy sy’n priodi pwy, pwy sydd yn cael babi pwy, pwy sydd ddim mewn cariad mwyach.  Mae’n hawdd iawn meddwl bod perthnasoedd i gyd yn ymwneud â CHARIAD (dangoswch y siâp calon).

  2. Felly faint ohonoch sydd ‘mewn cariad’? ‘Pawb sydd mewn cariad rhowch eich dwylo i fyny’ (Os ydych chi’n gyfarwydd â’r gan ‘Everybody in love put your hands up’ gan JLS, canwch ran fach o gân gyda’r meicroffon - bydd y plant o bosib yn ymuno gyda chi ac yn chwifio eu dwylo yn yr awyr!). Oes gennych chi gariad?

  3. Wel, rydw i’n siwr y byddwch chi’n falch o ddeall, dydi’r gwasanaeth yma ddim yn ymwneud â pherthnasoedd o’r math yna (taflwch y cylchgrawn o’r neilltu). Dydi o ddim ychwaith yn ymwneud â chariad rhamantaidd (taflwch y galon o’r neilltu). Ac fe fyddwch chi’n falch o glywed nad ydw i am fentro canu dim rhagor! (taflwch y meicroffon o’r neilltu).

  4. Ar ddechrau’r gair ‘perthnasoedd’ mae’r elfen ‘perthyn’.  Mae llawer o bobl yr ydym yn cynnal perthynas gyda nhw bob dydd – pobl y byddwn yn siarad â nhw, gwenu arnyn nhw, a phobl na allen ni byth fyw hebddyn nhw.

    Ond, efallai eich bod yn adnabod ambell un sydd ddim am fod mewn perthynas â phobl eraill; pobl sy’n dweud nad oes angen neb arall arnyn nhw:

    ‘Edrychwch, dyma fy lle i (sefwch ar y tywel neu’r gorchudd gobennydd yn dal yr eitemau eraill sydd gennych chi), ac rydw i am i bawb ohonoch chi gadw draw! Dydw i ddim angen neb, ac yn sicr dydw i ddim eich angen chi.  Mae gen i lyfr da, teclyn i reoli’r teledu o bell, ac ychydig o siocled – beth arall ydw i ei angen? Mi alla i edrych ar ôl fy hun.  Fe alla i gadw fy hun i mi fy hun.  Dydi perthnasoedd yn ddim byd ond trafferth.’

  5. Dros 400 mlynedd yn ôl, fe ddywedodd bardd o’r enw  John Donne nad oes unrhyw un yn ynys. Dyma’r geiriau enwog a ddywedodd: ‘No man is an island entire of itself’. Meddyliwch pa mor wir yw’r geiriau yma. Does neb fel ynys ar ben ei hun. Dim dyn, dim gwraig, dim merch na bachgen, does neb yn ynys. Does neb yn gallu goroesi heb gwmni pobl eraill. Rydyn ni i gyd angen pobl eraill i’n gwneud ni’n gyflawn. (Rhowch yr eitemau rydych chi’n gafael ynddyn nhw i lawr a chamwch oddi ar y tywel. Plygwch y tywel a’i gadw.) Mae ar bawb ohonom ni angen pobl eraill o’n cwmpas. Rydyn ni i gyd mewn perthynas â phobl eraill.  

  6. Fedrwch chi feddwl am bobl yr ydych chi’n cynnal perthynas â nhw o ddydd i ddydd?  Gyda phwy y byddwch chi’n siarad? Pwy ydych chi ei angen? Derbyniwch awgrymiadau’r plant: aelodau ein teulu, ffrindiau, anifeiliaid anwes, athrawon, y gyrrwr bws, y siopwr …. Yn y bôn, mae gan bob un ohonom gymaint o berthnasoedd neu bobl yr ydym mewn perthynas â nhw.

Amser i feddwl

Mae bod mewn perthynas â  rhywun yn beth gwerthfawr.  Mae angen i ni gymryd gofal o’r math yma o berthynas.

Meddyliwch am y perthnasoedd sydd gennych chi. Treuliwch funud i fod yn ddiolchgar ohonyn nhw, ac i feddwl sut yr ydych yn ymwneud â phobl yr ydych mewn perthynas â nhw.

Gwrandewch ar eiriau’r weddi hon a gwnewch nhw’n eiriau i chi eich hun os dymunwch chi:

Gweddi
Dduw Dad,
Rydym yn ddiolchgar am y perthnasoedd sydd gennym:
Ein teulu a’n ffrindiau; ein hathrawon a’n cynorthwywyr;
Ein hanifeiliaid anwes; ein cymdogion; ein hyfforddwyr a’n cyfarwyddwyr.
Helpa ni i gofio bod perthnasoedd yn werthfawr.
Helpa ni i ofalu amdanyn nhw. 

Cân/cerddoriaeth

‘Everybody In Love’ gan JLS

‘We’re All In This Together’ allan o’r sioe gerdd High School Musical

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon