Parch
Edrych ar y thema ‘pobl sy’n ein helpu’, ac ystyried sut roedd Iesu’n trin pawb a pharch, beth bynnag oedd eu gwaith neu eu rôl yn y gymdeithas.
gan Manon Ceridwen Parry
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Edrych ar y thema ‘pobl sy’n ein helpu’, ac ystyried sut roedd Iesu’n trin pawb a pharch, beth bynnag oedd eu gwaith neu eu rôl yn y gymdeithas.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fyddwch angen rhai lluniau o bobl mewn iwnifform yn gwneud gwahanol waith, yn cynnwys arolygydd treth (bydd llun o berson mewn siwt yn iawn, ond mae lluniau o bobl gyda bathodyn Cyllid y Wlad i’w gweld ar Google 'Delweddau' neu ‘Images’ Inland Revenue).
Gwasanaeth
- Dangoswch rai delweddau i’r plant o bobl mewn iwnifform, pobl sy’n cyflawni rhyw rôl gyhoeddus, e.e. plismon, glanhawr, warden traffig, ymladdwr tân, ficer.
- Trafodwch y delweddau yn eu tro, a thrafodwch a ydym ni yn ‘hoffi’ y rôl sy’n cael ei chyflawni neu beidio. Er enghraifft, beth ydym yn ei feddwl o’r rhai sy’n ymladd tân? Rydym yn eu hoffi oherwydd eu bod yn bobl allai ein helpu ni pe byddem ni mewn argyfwng tân.
- Ystyriwch gyda’r plant pa mor ‘bwysig’ yw pob rôl. Er enghraifft, mae glanhawr yn cyflawni gwaith pwysig, ond nid yw’n swydd sy’n talu’n rhy dda. Fel mater o ffaith, mae pob un o’r rolau hyn yn bwysig, ac mae’r bobl sy’n eu cyflawni yn haeddu ein parch. Mae rhai swyddi yn amhoblogaidd, ond mae’n rhaid i rywun eu gwneud. Er enghraifft, nid yw ein rhieni bob amser yn hoff iawn o wardeniaid traffig, ond pe byddai pobl yn parcio ble bynnag y bydden nhw’n dymuno, yna byddai hynny’n beryglus iawn.
- Yn olaf, dangoswch y darlun o’r Arolygydd Trethi. Eglurwch sut y gellid meddwl bod y swydd neilltuol hon yn un amhoblogaidd. Mae oedolion yn gorfod talu treth ar gyfran o’u henillion. Dydyn ni ddim yn hoffi rhoi’r arian y byddwn ni’n ei ennill i’r llywodraeth, ond rhaid i ni gofio bod yr arian gaiff ei gasglu mewn trethi yn cyfrannu at dalu am ysgolion ac ysbytai.
- Trafodwch pam yr oedd casglwyr trethi yng nghyfnod Iesu yn bobl amhoblogaidd iawn. Roedd hynny oherwydd eu bod yn tueddu i fod yn bobl anonest. Roedden nhw’n aml yn codi mwy o dreth ar bobl nad oedd rhaid, ac yn pocedu’r gwahaniaeth eu hunain. Roedden nhw’n wrthodedig - pobl oedd wedi cael eu ‘taflu allan’ o gymdeithas, pobl oedd ddim yn cael cynnwys mewn un dim. Roedden nhw’n cael eu casáu a’u bychanu. Nid yw bod yn wrthodedig yn deimlad braf.
Weithiau, fe fyddwn yn teimlo’n wrthodedig, os na fyddwn yn cael ein cynnwys mewn gemau neu pan fydd ein ffrindiau yn cweryla â ni. Ond doedd Iesu ddim yn ystyried unrhyw un yn wrthodedig. Roedd ef am i bawb deimlo bod rhywun eu hangen a bod rhywun yn eu caru. - Darllenwch y stori am Iesu yn galw Mathew (o Mathew 9.9-13) neu dywedwch y stori yn eich geiriau eich hun:
Wrth i Iesu fynd yn ei flaen, gwelodd ddyn o'r enw Mathew yn eistedd yn y swyddfa dollau lle'r oedd yn gweithio. "Tyrd, dilyn fi," meddai Iesu wrtho; a dyma Mathew yn codi ar unwaith a'i ddilyn.
Yn nes ymlaen aeth Iesu a’i ddisgyblion i dy Mathew am bryd o fwyd. Daeth criw mawr o'r rhai oedd yn casglu trethi i Rufain, a phobl eraill roedd y Phariseaid yn eu hystyried yn 'bechaduriaid', i’r parti hefyd. Wrth weld hyn, dyma'r Phariseaid yn gofyn i'w ddisgyblion, "Pam mae eich athro yn bwyta gyda’r bradwyr sy’n casglu trethi i Rufain a phobl eraill sy’n ddim byd ond pechaduriaid?"
Clywodd Iesu nhw, ac meddai, "Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy'n sâl. Mae'n bryd i chi ddysgu beth ydy ystyr y dywediad: 'Trugaredd dw i eisiau, nid aberthau.' Dw i wedi dod i alw pechaduriaid, dim rhai sy’n meddwl eu bod nhw heb fai." (dyfyniad allan o www.beibl.net)
Roedd Iesu eisiau i Mathew ei ddilyn er mwyn iddo gael bod yn ffrind iddo a’i helpu. Gofynnodd i Mathew roi pob un o’r darnau arian yr oedd wedi eu dwyn oddi wrth bobl yn ôl iddyn nhw, a rhoddodd gyfle iddo gael llechen lân, sef dechrau o’r newydd. Roedd Iesu bob amser yn parchu pobl ac yn rhoi ail-gynnig iddyn nhw.
Amser i feddwl
Rhowch gyfle i’r plant feddwl sut deimlad yw hi i fod yn wrthodedig. Tynnwch sylw at y ffaith bod Iesu yn dysgu y dylid cynnwys pawb, eu parchu a’u caru, pwy bynnag ydyn nhw, a pha bynnag swydd sydd ganddyn nhw.
Gweddi
Iesu ein ffrind,
Helpa ni i garu pawb, pwy bynnag ydyn nhw,
i gynnwys pawb, pwy bynnag ydyn nhw,
ac i fod yn ddiolchgar am yr hyn y mae pobl yn ei wneud i’n helpu ni.
Dyddiad cyhoeddi: Mai 2010 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.