Coesau Da I Gerdded
Meddwl am y mwynhad sydd i’w gael wrth gerdded, a pha mor werthfawr yw gallu cerdded, ac ar yr un pryd gefnogi’r mentrau ‘Cerdded i’r Ysgol’ (Wythnos Cerdded i’r Ysgol: 17-21 Mai 2010).
gan The Revd Alan M. Barker
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Meddwl am y mwynhad sydd i’w gael wrth gerdded, a pha mor werthfawr yw gallu cerdded, ac ar yr un pryd gefnogi’r mentrau ‘Cerdded i’r Ysgol’ (Wythnos Cerdded i’r Ysgol: 17-21 Mai 2010).
Paratoad a Deunyddiau
- Mae’n bosib i’r gwasanaeth yma gael ei gyflwyno gyda chymorth arddangosfa neu gyflwyniad ar PowerPoint, yn defnyddio delweddau o olion traed mawr, ynghyd â:
Glôb neu ddelwedd o’r ddaear.
Arwydd yn dwyn enw eich ardal leol, neu ddarlun lleol.
Pwysau llaw (offer codi pwysau) neu ddelwedd o berson yn ymarfer.
Potel o gymysgedd hylif i wneud swigod (i chwythu swigod meddwl!) neu ddelwedd o swigod.
Blodyn mewn fâs neu ddelwedd o harddwch. - Efallai y byddwch yn dymuno gofyn i’r plant gymryd rhan yn yr ‘Amser i Feddwl’.
Gwasanaeth
- Gwnewch arolwg brys o’r modd y mae’r plant wedi teithio i’r ysgol. Faint sydd wedi teithio ar y bws? Faint sydd wedi dod mewn car? Faint sydd wedi dod ar gefn beic? Faint sydd wedi cerdded?
(Gall un dosbarth gwblhau’r arolwg cyn y gwasanaeth a chyflwyno’r canlyniadau ymlaen llaw.)
Cyflwynwch fenter ‘Cerdded i’r Ysgol’. Fe fydd Wythnos Cerdded i’r Ysgol yn cael ei chynnal fel arfer yn ystod mis Mai – eleni rhwng 17–21 Mai. (Fe fydd mis Rhyng-genedlaethol Cerdded i’r Ysgol yn cael ei gynnal ym mis Hydref.) - Ystyriwch y ffaith bod plant yn cerdded pellteroedd maith iawn, mewn ardaloedd gwledig ledled y byd, lle nad oes lawer o drafnidiaeth a ffyrdd o deithio. Fe fydd llawer o bobl hyn yn gallu cofio cerdded pellter mawr, rhai milltiroedd efallai, i’r ysgol ac adref wedyn ym mob tywydd mewn ardaloedd gwledig yn ein gwlad ni.
(Gall rhai plant drefnu i recordio cyfweliad byr rhyngddyn nhw ag aelod hyn yn y gymuned.) - Awgrymwch, er nad yw hi’n ymarferol i bawb gerdded i’r ysgol, y byddai’n fuddiol iawn pe byddai mwy yn gwneud hynny. Trwy ddefnyddio cyflwyniad PowerPoint, neu drwy adeiladu’n raddol arddangosfa weledol, rhowch sylw i’r pethau canlynol:
Mae cerdded yn llesol i’r blaned. Mae’r tanwydd gaiff ei losgi gan geir a bysiau yn cyfrannu at gynhesu byd eang. Y mwyaf o gamau ar droed a gymerwn ni, y lleiaf fydd ein ‘ôl-troed carbon’. Mae cerddwyr hefyd yn fwy ymwybodol o’r amgylchfyd. Maen nhw’n sylwi ar wahanol blanhigion a chreaduriaid, ac yn gallu sylwi ar y gwahanol dymhorau wrth iddyn nhw newid o un i’r llall.
Mae cerdded yn beth da i gymunedau. Gall ceir sy’n parcio o flaen giât yr ysgol fod yn beryglus a gallant fod yn niwsans i bobl sy’n byw gerllaw. Pan fyddwn yn cerdded, fe fyddwn yn cyfarfod â phobl eraill, yn dweud ‘helo’ ac yn dod i adnabod ein cymdogion. Gall cerdded fod yn fodd i wneud trefi a phentrefi yn fwy cyfeillgar ac yn lleoedd saffach i fyw ynddyn nhw.
Mae cerdded yn beth da i’n cyrff. Mae ymarfer yn ein helpu ni i gadw’n heini ac yn iach. Mae’n fodd i ymestyn ein cyhyrau, yn cryfhau ein calon a’n hysgyfaint, ac yn gwneud i ni deimlo’n well.
Mae cerdded yn dda i’n meddyliau. Gall cerdded i’r ysgol fod yn ffordd dda o ddeffro’n iawn a chanolbwyntio ar y dydd newydd sydd o’n blaen. Yna, yn yr un modd, gall cerdded adref o’r ysgol ein helpu i ymlacio a thawelu. Gall cerdded hefyd fod yn fodd o ymarfer ein hymennydd a’n helpu ni i feddwl yn gliriach!
Mae cerdded yn dda i’n hysbryd. Mae yna adegau pryd y dylem arafu tipyn a gwerthfawrogi harddwch y byd sydd o’n cwmpas, a sylweddoli ei bod hi’n dda bod yn fyw! Mae ein bywyd cyfan fel taith, i’w cherdded gam wrth gam. - Mae’r Beibl yn dweud wrthym sut y cerddodd Iesu gyda’i ddisgyblion. Er enghraifft, y stori am y ddau ddisgybl ar y ffordd i Emaus (Luc 24.13–32) pryd y cerddodd Iesu atgyfodedig gyda dau o’i ddilynwyr a oedd yn drist iawn ac yn ofidus. Roedd yn daith hir a blinedig i gyrraedd y pentref lle roedden nhw’n byw ond, pan wnaethon nhw gyrraedd adref, fe gawson nhw’r profiad llawen o wybod bod Iesu wedi bod yn cyd-gerdded gyda nhw.
- Terfynwch trwy awgrymu y gall ein coesau ni ein galluogi i fod yn bobl ‘pob math o dir’. Gall cerdded fynd â ni i leoedd rhyfeddol na all ceir gyrraedd atyn nhw! Oes unrhyw un wedi mwynhau cerdded i leoedd ar wahân i’r ysgol? Efallai y byddai un o’r plant hynaf neu aelod o’r staff yn hoffi son wrth weddill y gynulleidfa am y mwynhad y maen nhw’n ei gael wrth gerdded. Mae llwybrau diarffordd, bryniau uchel, a lleoedd heddychol (yn ogystal â’r ysgol!) i gyd yn gyraeddadwy os gwnawn ni gofio bod ein coesau wedi eu gwneud i gerdded!
Amser i feddwl
Llais 1: Mae gan gwn a chathod bedair.
Llais 2: Chwilod chwech.
Llais 3: Pryfed cop wyth.
Llais 4: Nadroedd cantroed? … Gormod i’w rhifo!*
Gyda’i gilydd: Llawer o goesau!
Llais 1: Dwy yn unig sydd gennym ni, fodau dynol – ac mae dysgu cerdded yn gyflawniad mawr.
Llais 2: Fyddwn ni ddim yn fabanod wedyn - fe ddeuwn yn blant bach, ac fe allwn ni archwilio’r byd o’n cwmpas.
Llais 3: Ar lwybr bywyd mae yna bethau newydd bob amser i’w darganfod… wrth gerdded!
Llais 4: A’r cam cyntaf ar y daith ran amlaf yw’r un anoddaf i’w gymryd!
Llais 1: Mae gan gwn a chathod bedair.
Llais 2: Chwilod chwech.
Llais 3: Pryfed cop wyth.
Llais 4: Nadroedd cantroed? … Gormod i’w rhifo!
Llais 1 a 2: Dwy yn unig sydd gennym ni fodau dynol –
Gyda’i gilydd: Coesau, sydd wedi eu gwneud i gerdded!
(* Nodwch: Ychydig iawn o nadroedd cantroed sydd â chant o goesau mewn gwirionedd. Ym Mhrydain, tri deg o goesau sydd gan y neidr gantroed gyffredin, y Lithobius forficatus!)