Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae Pob Un Yn Enillydd

Meddwl am brofiadau o ennill a cholli, yng nghyd-destun diwrnod mabolgampau’r ysgol, cystadlaethau eraill, a bywyd yn gyffredinol.

gan Manon Ceridwen Parry

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am brofiadau o ennill a cholli, yng nghyd-destun diwrnod mabolgampau’r ysgol, cystadlaethau eraill, a bywyd yn gyffredinol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Unrhyw dystysgrif, bathodyn neu fedal rydych chi wedi ei hennill, i’w dangos i’r plant.
  • Darlleniad o’r Beibl: Ioan 3.16.
  • Tystysgrifau i bawb, os hoffech chi, gyda’r geiriau ‘Mae pob un yn enillydd’ arnyn nhw, gyda lle i nodi enw’r plentyn ar y dystysgrif.
  • Cannwyll ar gyfer yr Amser i feddwl.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy sgwrsio am brofiad cystadleuol diweddar ym mywyd yr ysgol, e.e. diwrnod mabolgampau, diwrnod chwaraeon, neu unrhyw weithgareddau eraill lle’r oedd y plant yn cystadlu â’i gilydd.

  2. Eglurwch eich bod wedi dod â rhywbeth gyda chi sy’n dangos eich bod chi wedi bod yn enillydd ryw dro (Roedd gen i dystysgrif roeddwn i wedi ei hennill yn yr ysgol ers talwm am ysgrifennu barddoniaeth). Sgwrsiwch am eich atgofion - roeddech chi’n dda am wneud rhai pethau, ond yn anobeithiol am wneud rhai pethau eraill - fuoch chi yn olaf mewn ras ryw dro?

    Trafodwch y syniad fod bywyd yn aml yn ymwneud ag ennill a cholli. Rydyn ni’n dda am wneud ambell beth, ond ddim cystal am wneud rhywbeth arall. Mae gan bob un ohonom ni ein cryfderau a’n gwendidau mewn gwahanol feysydd.

  3. Holwch y plant am eu profiad personol o ennill a cholli.

    Holwch nhw am rai o’u llwyddiannau: ydyn nhw wedi ennill medalau, tystysgrifau ac ati? Sut roedden nhw’n teimlo? Yn nerfus, wedi cyffroi, yn llawen, yn fodlon, neu wedi eu plesio?

    Holwch sut deimlad yw peidio ennill. Soniwch am sut roeddech chi’n teimlo ryw dro pan wnaethoch chi ‘golli’. Gofynnwch i’r plant nodi’r emosiynau sy’n mynd law yn llaw â cholli: teimlo’n drist neu’n siomedig, gofidio tipyn neu efallai deimlo rhywfaint o embaras, weithiau efallai eich bod yn teimlo i chi gael cam neu fod rhywbeth wedi bod yn annheg (ond cofiwch fod rhywun bob amser yn gorfod colli).

  4. Disgrifiwch ein bod i gyd, yn ein bywyd o ddydd i ddydd, weithiau’n ennill gyda rhai pethau ac weithiau’n colli gyda phethau eraill. Pan fydd y plant wedi tyfu’n hyn, fe fyddan nhw’n cynnig am swyddi, neu’n ceisio am le mewn coleg neilltuol, neu wneud cais am fynd i rywle arall, ond fyddan nhw ddim bob tro yn cael eu derbyn. Neu, efallai y byddan nhw’n hoffi cwmni rhywun arbennig, ond y bydd yn well gan hwnnw neu honno fynd gyda rhywun arall. Ambell waith, fe fyddwch chi’n gweld pethau’n mynd yn dda, ac fe fyddwch chi’n llwyddo i gael eich derbyn i’r coleg o’ch dewis neu i gael eich penodi i’r swydd rydych chi’n ceisio amdani. Dro arall, fydd pethau ddim yn dod yn rhwydd. Mae bywyd yn ymwneud ag ennill ar brydiau a cholli weithiau hefyd.

  5. Eglurwch fod un maes yn ein bywyd lle rydyn ni i gyd yn enillwyr, bob amser - gyda Duw.

    Darllenwch yr adnod o’r Beibl o Efengyl Ioan 3.16: ‘Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.’

  6. Pwysleisiwch fod y ffydd Gristnogol yn ein haddysgu bod Iesu wedi dod er mwyn pawb (ledled y byd) a bod Duw’n caru pob un ohonom . Gyda Duw, does neb yn colli, mae pob un yn enillydd.

    Os oes gennych chi dystysgrifau wedi eu paratoi ar gyfer pawb, fe allwch chi eu cyflwyno yma.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll, a gofynnwch i’r plant feddwl am sut maen nhw’n teimlo ynghylch ennill a cholli.
Beth maen nhw’n debygol o allu llwyddo wrth ei wneud, a pha weithgareddau sy’n anodd iddyn nhw?
Sut gallwn ni helpu ein gilydd pan fydd pethau ddim yn digwydd yn y ffordd yr hoffem ni iddyn nhw ddigwydd?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch ein bod ni i gyd yn enillwyr yn dy olwg di.
Rydyn ni’n diolch dy fod ti’n ein caru ni i gyd,
A dy fod ti wedi rhoi doniau gwahanol i bob un ohonom ni.
Helpa ni i beidio bod yn rhy siomedig pan fyddwn ni ddim yn ennill,
ond yn hytrach, gwna i ni gofio am yr holl bethau da sydd gennym ni,
ac am yr holl bethau rydyn ni’n dda am eu gwneud.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon