Mae'n Ddrwg Gen I!
gan Helen Redfern
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Herio’r plant i feddwl am sut y gallan nhw ddangos ei bod hi’n wir ddrwg ganddyn nhw am y pethau maen nhw’n eu gwneud o’i le.
Paratoad a Deunyddiau
- Paratowch bedwar plentyn i ddarllen y rhannau yn y rhan lle mae’r cyfweliad.
Gwasanaeth
- Mae’r gwasanaeth hwn yn ymwneud ag un gair y bydd pawb ohonom yn ei ddefnyddio bob dydd. Allwch chi ddyfalu beth yw’r gair hwnnw? Byddwn yn dweud y gair hwnnw pan fyddwn wedi gwneud rhywbeth sydd ddim yn iawn.
Ydi, mae’r gwasanaeth hwn yn ymwneud â’r gair ‘sori’. Mae sawl ffordd o ynganu’r gair yma (defnyddiwch oslef wahanol wrth ddweud y gair). Weithiau, wrth ambell ffrind, fe fyddwn ni’n dweud rhywbeth fel ‘Soz!’ Weithiau byddwn yn dweud y gair o ddifrif; weithiau fyddwn ni ddim. - Allwch chi feddwl pryd y gwnaethoch chi ddweud sori wrth rywun yn ddiweddar? Pam y gwnaethoch chi ddweud sori? Oeddech chi’n ei ddweud o ddifrif ? Os felly, sut y gwnaethoch chi ddangos eich bod o ddifrif wrth ddweud hynny? Trowch at y person agosaf atoch a dywedwch wrtho ef neu hi am y tro diwethaf i chi ddweud sori wrth rywun. (Rhowch funud neu ddau i’r plant gael cyfle i wneud hyn.)
- Byddwn yn clywed pobl yn dweud sori pob dydd. Ar y newyddion, bydd pobl swyddogol yn ymddiheuro am y trychinebau sydd wedi digwydd o ganlyniad i gamgymeriadau dynol; bydd pêl-droedwyr yn ymddiheuro am gamymddwyn ar, ac oddi ar, y maes chwarae; bydd pobl enwog yn ymddiheuro am fod eu perthynas â phobl eraill wedi chwalu. Mae gwleidyddion hyd yn oed yn ymddiheuro weithiau am y camgymeriadau y maen nhw wedi eu gwneud neu am yr addewidion na chafodd eu cadw ganddyn nhw. Mae llawer o enghreifftiau o hyn i’w weld ar y teledu ac yn y papurau newydd bob dydd.
Ond sut rydyn ni’n gwybod mai dim ond gair yw sori? Sut rydyn ni’n gwybod pan fydd pobl o ddifrif pan maen nhw’n dweud sori? Gwrandewch ar y cyfweliadau hyn, a cheisiwch ddyfalu pwy sydd o ddifrif pan fyddan nhw’n dweud sori. - Cyfweliad 1
Holwr: Helo Rachel! Diolch i ti am gytuno i siarad efo fi. Felly, pa bryd oedd y tro olaf i ti orfod dweud sori?
Rachel: Fe wnaeth fy mam wneud i mi ddweud sori wrth fy chwaer fach bore heddiw. Roeddwn i wedi cael llond bol arni, ac fe wnes iddi grio trwy dynnu ei gwallt. Fe aeth hi i ddweud wrth mam, ac fe wnaeth mam fy ngorfodi fi i ddweud sori.
Holwr: Oeddet ti’n teimlo fel dweud sori wrth dy chwaer?
Rachel: Ddim o gwbl. Roedd hi’n ceisio cymryd fy mrwsh gwallt ac rydw i wedi cael digon arni yn cymryd fy mhethau i a’u colli nhw.
Holwr: Felly, pam y gwnest ti ddweud sori?
Rachel: Fe wnes i ddweud sori am fod mam wedi dweud wrtha i am wneud. Roeddwn i’n gwybod y byddwn mewn trwbl os na fyddwn i’n ufuddhau. Ond os aiff y g’nawes fach yn agos at fy mhethau i eto, mi gaiff hi yr hyn mae hi’n ei haeddu!
Holwr: (wrth y gynulleidfa) Felly, ydych chi’n credu bod Rachel wedi dweud sori o ddifrif? (Caniatewch amser ar gyfer awgrymiadau) Na, wnaeth hi ddim.
Cyfweliad 2
Holwr: Felly, Ewku, rwyt ti newydd ddod allan o swyddfa’r prifathro. Wyt ti’n fodlon dweud wrtha i beth ddigwyddodd?
Ewku: Fe anfonodd fy athrawes fi at y prifathro oherwydd fy mod yn gwrthod stopio siarad, ac roeddwn yn ddigywilydd iawn gyda hi.
Holwr: Felly, beth wyt ti’n gorfod ei wneud?
Ewku: Rydw i’n gorfod mynd yn ôl ati hi rwan i ddweud sori wrthi hi. Rydw i am ofyn iddi a wnaiff hi fy symud i eistedd i rywle arall fel na chaf fy nhemtio i siarad efo fy ffrindiau. Rydw i hefyd yn credu y dylwn aros i mewn dros yr awr ginio a gwneud y gwaith wnes i ddim ei wneud am fy mod i wedi bod yn siarad drwy’r amser.
Holwr: Ai dyna ddywedodd y prifathro wrthyt ti am ei wneud?
Ewku: Na, Fi feddyliodd am y pethau yna i gyd. Rydw i’n hoff iawn o fy athrawes, ac rydw i’n gwybod fy mod wedi mynd dros ben llestri y tro yma. Wnaiff o ddim digwydd eto.
Holwr: (wrth y gynulleidfa) Felly, ydych chi’n credu bod Ewku wedi dweud sori o ddifrif? (Caniatewch amser ar gyfer awgrymiadau) Do, rydw i’n credu ei fod wedi gwneud hynny.
Cyfweliad 3
Holwr: Wel, Sonja, beth wyt ti wedi bod yn ei wneud?
Sonja: Rydw i wedi bod yn cymryd arian o bwrs fy mam ar adegau i brynu melysion yn y siop. Ond heddiw, fe welodd ffrind i fy mam fi’n prynu fferins yn y siop, ac rydw i’n gwybod y bydd hi’n dweud wrth mam ei bod wedi fy ngweld i yn y siop
Holwr: Felly, beth wyt ti am wneud?
Sonja: Rydw i am gyfaddef wrth mam a dweud sori. Rydw i’n credu y dylai hi beidio â rhoi arian poced i mi nes y byddaf wedi talu’r cyfan o’r arian yn ôl. Rydw i am wneud cerdyn iddi i ddweud sori.
Holwr: Wyt ti’n gwneud hyn yn unig oherwydd dy fod wedi cael dy ddal?
Sonja: Efallai, ond roeddwn i’n arfer credu nad oedd beth wnes i yn ddrwg. Yn awr rydw i’n gweld nad oedd hynny’n iawn. Dydw i ddim eisiau gwneud peth fel yna eto.
Holwr: (wrth y gynulleidfa) Felly, ydych chi’n credu bod Sonja wedi dweud sori o ddifrif? (Caniatewch amser ar gyfer awgrymiadau) Ydyw, rydw i’n credu ei bod hi wedi gwneud hynny.
Cyfweliad 4
Holwr: Ac yn olaf, rydym yn dod atat ti, Paul. Pam y bu raid i ti ddweud sori?
Paul: Dydi o ddim byd mawr rywsut. Fe gefais fenthyg gêm FIFA 10 PS3 gan fy ffrind a rwan rydw i’n methu cael hyd iddi. Fe wnes i ddweud sori, ond mae fy ffrind wedi digio yn ofnadwy efo fi.
Holwr: Rydw i’n gallu deall pam. Beth wyt ti’n mynd i wneud am hyn?
Paul: Dim. Rydw i wedi dweud sori. Faint mwy alla i ei wneud?
Holwr: Wel, sut y byddet ti’n teimlo pe byddet ti yn yr un sefyllfa â fo?
Paul: Fe fyddwn i ychydig yn flin, o bosib, ond fe fyddwn i’n anghofio am y peth yn fuan. Beth ydw’r holl ffwdan? Dim ond gêm ydi hi!
Holwr: (wrth y gynulleidfa) Felly, ydych chi’n credu bod Paul wedi dweud sori o ddifrif? (Rhowch gyfle i’r plant ateb) Na, wnaeth o ddim. - Rydym wedi gwrando ar bedair enghraifft o blant yn dweud sori. Roedd dau ohonyn nhw’n ymddiheuro o ddifrif; ond doedd y ddau arall ddim mor ddidwyll.
Gallwn ddangos ei bod hi’n ddrwg gennym yn y ffordd y byddwn yn ymddiheuro. Fe allwn ni ddangos ein bod ni’n ymddiheuro trwy beidio â gwneud y weithred ddrwg eto. Neu, fe allwn ni ddangos ein bod yn ymddiheuro trwy wneud rhywbeth neilltuol fel ein bod yn gwneud iawn am y drwg a wnaethom ni.
Y tro nesaf y byddwn yn dweud sori, gadewch i ni feddwl a ydym yn ei ddweud o ddifrif, a meddwl am ffordd y gallwn ni ddangos ein bod o ddifrif wrth i ni ymddiheuro.
Amser i feddwl
Bydd llawer o bobl yn dewis ymddiheuro wrth Dduw am eu camweddau. Yn Eglwys Loegr ac yn yr Eglwys yng Nghymru, bydd pobl yn defnyddio math o weddi sy’n cael ei galw’n Gyffes er mwyn edifarhau. Gwrandewch ar y geiriau hyn o Gyffes a defnyddiwch y geiriau fel rhai i chi eich hun os dymunwch. Efallai y byddwch yn hoffi ymuno â mi pan fyddaf yn dweud: ‘Arbed ni a chynorthwya ni’.
Dduw ein Tad,
Deuwn atat yn benisel oherwydd ein pechodau.
Am i ni droi ein cefnau arnat,
ac anwybyddu dy ewyllys di ar gyfer ein bywydau;
Dad, maddau i ni:
Arbed ni a chynorthwya ni.
Am ymddwyn fel y mynnwn,
heb feddwl amdanat ti,
Dad, maddau i ni:
Arbed ni a chynorthwya ni.
Am dy siomi di trwy’r hyn a wnawn,
a’r hyn a feddyliwn ac a ddywedwn;
Dad, maddau i ni:
Arbed ni a chynorthwya ni.
Am bellhau ein hunain oddi wrthyt
oherwydd temtasiynau yn y byd o’n cwmpas;
Dad, maddau i ni:
Arbed ni a chynorthwya ni.
Am fyw ein bywydau fel pe byddem â chywilydd
o fod yn perthyn i’th Fab;
Dad, maddau i ni:
Arbed ni a chynorthwya ni.
(trosiad o’r Saesneg)