Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae A Wnelo Hyn A Fi

Archwilio’r syniad bod anghenion pobl eraill yn anghenion i ninnau hefyd, a bod arnom ni angen ein gilydd.

gan Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad bod anghenion pobl eraill yn anghenion i ninnau hefyd, a bod arnom ni angen ein gilydd.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Wrth i’r plant ddod i mewn i’r gwasanaeth, fe allech chi chwarae’r gerddoriaeth ‘Better Together’ gan Jack Johnson. Yna, dywedwch eich bod yn mynd i ddangos clip oddi ar  YouTube a dechreuwch trwy holi’r plant beth maen nhw’n ei wybod am y pengwiniaid ymerodrol (emperor penguins). Eglurwch fod y clip yn dangos sut mae’r pengwiniaid yn helpu ei gilydd.

    Dangoswch y clip. (Yn achos plant Cyfnod Allweddol 2, efallai y byddai’n syniad dangos y lluniau’n unig heb y sain, a siarad am beth sy’n digwydd.)

  2. Pwysleisiwch y ffordd y mae’r pengwiniaid yn cadw’i gilydd yn gynnes trwy gymryd eu tro yn barhaus i fod yn y canol. Dangoswch hyn yn gweithio gyda phedwar grwp o bump o blant, gan symud un grwp o’r canol i’r tu allan yn eu tro. Fe fyddai un pengwin ar ei ben ei hun yn marw yn yr oerni, ond gyda’i gilydd maen nhw’n goroesi.

  3. Rydyn ni wedi cael ein gwneud i helpu ein gilydd, ond weithiau fyddwn ni ddim yn gweld bod ar bobl eraill ein hangen ni. Adroddwch y stori ganlynol wrth y plant:

    Edrychodd llygoden fach, o dwll yn y wal, a gwelodd y ffermwr a’i wraig yn agor parsel. ‘Tybed beth sydd yn y parsel?’ meddyliodd y llygoden. “Efallai mai caws sydd ynddo.”  Na, nid caws oedd yn y pecyn. Teimlodd y llygoden yn drist iawn wrth weld mai trap dal llygod oedd ynddo.

    Rhedodd y llygoden i fuarth y fferm gan weiddi ar yr anifeiliaid eraill oedd yno: ‘Mae trap llygod yn y ty! Mae trap llygod yn y ty!’

    Clwciodd yr iâr, gan ddal ati i grafu a phigo, ac wedyn cododd ei phen a dweud, ‘Mistar Llygoden, fe alla i weld bod hyn yn achos pryder i ti, ond dydi hynny’n effeithio dim arnaf fi. Felly dydw i ddim yn poeni am y peth, mae’n ddrwg gen i.’

    Trodd y llygoden at y mochyn a dweud wrtho, ‘Mae trap llygod yn y ty! Mae trap llygod yn y ty!’

    Cydymdeimlodd y mochyn â’r llygoden, gan ddweud, ‘Mae’n ddrwg iawn gen i glywed hynny, Mistar Llygoden, ond does dim llawer y gallaf fi ei wneud am y peth, dim ond gweddïo efallai! Ie, dyna beth wnaf fi, fe wna i weddïo drosot ti os hoffet ti.’

    Trodd y llygoden at y fuwch a dweud wrthi, ‘Mae trap llygod yn y ty! Mae trap llygod yn y ty!’

    Dywedodd y fuwch, ‘Wel, Mistar Llygoden, mae hynny’n newydd drwg i ti, ond wnaiff o ddim llawer o wahaniaeth i mi!’

    Felly, fe aeth y llygoden yn ei hol i’r ty, yn benisel iawn ac yn teimlo’n hollol ddigalon i wynebu trap llygod y ffermwr a’i wraig ar ei phen ei hun.

    Y noson honno fe glywodd pawb swn clec yn y ty - swn fel swn trap yn dal rhywun neu rywbeth. Rhedodd gwraig y ffermwr i weld beth roedden nhw wedi’i ddal yn y trap. Yn y tywyllwch, doedd gwraig y ffermwr ddim yn gallu gweld mai neidr oedd wedi cael ei dal yn y trap, gerfydd ei chynffon. Neidr wenwynig!  Brathodd y neidr fraich gwraig y ffermwr. Aeth y wraig yn wael iawn ar unwaith ac fe fu’n rhaid i’r ffermwr fynd a hi i’r ysbyty. Cafodd ddod adref wedyn, ond roedd hi’n dal yn sâl iawn am hir gyda’i gwres yn uchel iawn.

    Pan fydd rhywun â gwres uchel neu dwymyn arno, yr unig beth y byddan nhw’n gallu ei fwyta yw rhywbeth fel cawl. A’r cawl gorau mewn achos fel hwn yw cawl iâr! Felly, fe laddodd y ffermwr yr iâr er mwyn cael gwneud cawl i’w wraig ei fwyta fel y byddai’n gwella.

    Ond roedd y wraig yn hir iawn yn gwella, roedd hi’n dal yn sâl am wythnosau. Felly, roedd ffrindiau a chymdogion yn dod i helpu’r ffermwr, ac i eistedd wrth ymyl gwely ei wraig i’w helpu os byddai hi eisiau rhywbeth. Wrth gwrs, roedd yn rhaid i’r ffrindiau a’r cymdogion gael bwyd, gan eu bod yn aros yno yn eu tro trwy’r dydd a thrwy’r nos. Er mwyn cael bwyd iddyn nhw, beth wnaeth y ffermwr, ond lladd y mochyn er mwyn cael digon o gig i fwydo’r bobl.

    O’r diwedd, gyda help pawb, fe ddaeth y wraig yn well. Ac ymhen ychydig roedd hi’n hollol iach unwaith eto. Roedd y ffermwr a’i wraig mor hapus fel y gwnaethon nhw benderfynu cael parti mawr i ddathlu bod ei wraig, a oedd wedi bod mor wael, yn iach o’r diwedd. Fe wnaethon nhw farbeciw mawr ryw noson, ac er mwyn cael digon o gig i fwydo pawb eto, fe laddodd y ffermwr y fuwch.

    Edrychai’r llygoden ar hyn i gyd yn digwydd, o’r twll yn y wal, yn teimlo’n drist iawn.

Amser i feddwl

Weithiau, mae anghenion pobl eraill yn angen i ninnau hefyd. Daeth Iesu i sefydlu cymuned neu deulu, lle mae pawb yn teimlo dros ei gilydd. Pan fydd un yn cael dolur mae pawb yn cael dolur, pan fydd un yn llawenhau mae pawb yn llawenhau.

Os oes rhywun rydych chi’n ei adnabod mewn trwbl ac arno eich angen chi, byddwch fel y pengwin, peidiwch â bod fel yr iâr, y mochyn a’r fuwch.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch bod arnom ni angen ein gilydd.
Gad i anghenion pobl eraill fod yn fodd i mi allu gwneud rhywbeth er mwyn eu helpu.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon