Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rydyn Ni'n Caru Ein Hanefeiliaid Anwes!

Annog y plant i weld pa mor bwysig yw ein hanifeiliaid anwes, a sylweddoli ei bod yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom i ofalu amdanyn nhw’n iawn.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y plant i weld pa mor bwysig yw ein hanifeiliaid anwes, a sylweddoli ei bod yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom i ofalu amdanyn nhw’n iawn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi pump o blant i ddarllen y rhannau.
  • Mae cyfle yma i chi ddedefnyddio ‘props’ os dymunwch chi (tennyn ci, teganau anifeiliaid anwes, bwyd pysgod, ac ati).

Gwasanaeth

  1. Mae llawer o bobl ym Mhrydain yn berchen ar anifeiliaid anwes.  Faint ohonoch chi sydd ag anifeiliaid anwes? Gofynnwch i’r plant godi eu dwylo i ddangos hynny.  Mae dros 8 miliwn o gwn a thros 8 miliwn o gathod yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes ym Mhrydain.  Efallai bod gennych chi gi neu gath. Neu efallai bod gennych chi anifail anwes mwy anghyffredin. Un peth sydd gennym yn gyffredin. Rydym i gyd yn caru ein hanifeiliaid anwes.

    Jack: Mae gen i gi o’r enw Troy. Dalmatian yw’r ci ac mae bron mor fawr â fi.  Mae’n gi cyfeillgar iawn ac wrth ei fodd yn chwarae efo fi.

    Cain: Mae gennym ni acwariwm gyda physgod trofannol ynddo. Maen nhw’n lliwgar iawn. Fy ffefryn i yw’r pysgodyn clown sy’n debyg iawn i Nemo. Rydw i’n ei alw’n Bubbles oherwydd ei fod yn chwythu swigod aer.

    Lewis: Mae fy nghath Jess yn lliw sinsir ac mae’n flewog iawn. Pan fyddaf yn agor drws cefn y ty a galw arni, bydd yn rhedeg ataf bob amser.

    Georgia: Mae gen i bedwar gerbil. Rydw i wrth fy modd yn edrych arnyn nhw’n chwarae. Benywod ydyn nhw i gyd. Mae ganddyn nhw gynffonau hir ac maen nhw’n gallu rhedeg yn gyflym iawn.

    Samira: Cwningen ddu a gwyn sydd gen i. Gizmo yw ei henw. Mae hi’n bwyta moron.

  2. Rydym yn cadw anifeiliaid anwes oherwydd ei fod yn hwyl, ond mewn gwirionedd mae anifeiliaid anwes yn dda i ni. Mae sawl rheswm da paham y dylem gadw anifeiliaid anwes.

    Jack: Pan fyddaf yn mynd â fy nghi am dro, rydw i’n cael digon o ymarfer. Mae’n rhoi llawer o nerth i mi a’r ci. Rhaid i ni fynd allan i’r awyr agored hyd yn oed pan mae’n oer neu’n bwrw glaw. Mae’n beth da cael digon o awyr iach.

    Cain: Mae’n beth da dysgu sut i ofalu am anifail anwes. Rhaid i’n pysgod ni gael yr union faint o fwyd ar yr union amser bob dydd. Os na fyddaf yn eu bwydo, fe fyddan nhw’n marw. Rydw i wedi gorfod dysgu sut i ofalu am fy mhysgod.

    Lewis: Fy nghath, Jess, yw fy ffrind gorau yn y byd. Pan fyddaf yn drist, mae hi’n dod ataf a byddaf yn rhoi mwythau iddi. Fe fydd hynny’n gwneud i mi deimlo’n well. Mae’n cysgu ar fy ngwely, felly fydda i byth yn unig. Fe fydda i’n adrodd fy holl gyfrinachau wrthi hi.

    Georgia: Fe allwch chi gael llawer o hwyl gyda’ch anifeiliaid anwes.  Rydw i’n hoffi cynllunio a gwneud pethau newydd i’m gerbil gael chwarae gyda nhw. Rydw i’n teimlo mor falch pan fyddaf yn gwneud rhywbeth y maen nhw’n mwynhau chwarae gydag ef. 


    Samira: Rhaid i chi fod yn garedig gyda’ch anifeiliaid anwes a pheidio â’u brifo. Fe fydda i’n ceisio bod yn dyner gyda’m cwningen. Fydda i ddim yn hoffi ei dychryn. Trwy fod yn garedig gyda’ch anifeiliaid anwes, rydw i’n credu bod yn hynny’n eich helpu i fod yn garedig gyda phobl hefyd.

  3. Mae anifeiliaid anwes yn dda ar ein cyfer, ond fe ddylen ninnau fod yn garedig wrth ein hanifeiliaid anwes hefyd. Mae’r RSPCA (Cymdeithas Frenhinol er atal creulondeb tuag at anifeiliaid - Royal Society for the Prevention of Cruelty to Animals) yn addysgu pobl sut i ofalu am anifeiliaid.  Yn ôl yr RSPCA, mae gan bob anifail anwes bum angen y mae’n rhaid i ni ofalu amdanyn nhw, er eu lles.

    Rhif 1 yw Amgylchfyd. Eich cyfrifoldeb chi yw bod gennych chi le diogel i’ch anifail anwes fyw a chysgu ynddo.

    Jack: Ar y dechrau, pan gawsom ni’r ci, bu’n rhaid i ni ofalu bod yr ardd yn saff a gofalu na fedrai Troy ddianc. Mae ganddo fasged yn y gegin i gysgu ynddi.

    Arweinydd: Rhif 2 yw Diet. Eich cyfrifoldeb chi yw gofalu bod gan eich anifail anwes y bwyd a’r ddiod addas ar ei gyfer.

    Cain: Pan oeddwn i’n fach, roedd gen i bysgodyn aur. Un diwrnod, fe feddyliais i y byddai fy mhysgodyn aur yn hoffi cael tamaid o siocled i’w fwyta.  Fe wnes i ollwng y siocled i’r dwr. Pan wnes i fynd yn ôl yn ddiweddarach, roedd y pysgodyn aur wedi marw. Nawr rydw i’n gwybod fod yn rhaid i mi fwydo fy mhysgodyn yn y ffordd briodol. 

    Arweinydd: Rhif 3 yw Ymddygiad. Eich cyfrifoldeb chi yw addysgu eich anifail i ymddwyn yn briodol.

    Lewis: Pan ddaeth Jess atom fel cath fach. Roedd yn rhaid i ni ei haddysgu i ddefnyddio’r hambwrdd.  Mae hi hefyd bellach yn gwybod nad yw hi’n cael cripio’r soffa na dod â llygod i mewn i’r ty.

    Arweinydd: Rhif 4 yw Cwmnïaeth.  Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau nad yw eich anifail anwes yn unig.

    Georgia: Mae fy gerbils i angen ei gilydd i gyd-chwarae. Ac maen nhw fy angen i wneud teganau diddorol iddyn nhw fel nad ydyn nhw byth yn diflasu. Oherwydd fy mod i yn eu codi nhw i’m dwylo bob dydd, maen nhw’n ymddiried ynof fi ac maen nhw’n hoffi cael eu trafod yn fy nwylo.

    Arweinydd: Rhif 5 yw Iechyd a Lles.  Eich cyfrifoldeb chi yw gofalu bod eich anifail anwes yn cael ei gadw mewn iechyd da.

    Samira: Pan fyddwn yn meddwl bod fy nghwningen yn wael, byddwn yn mynd â hi at y milfeddyg. Weithiau bydd y milfeddyg yn rhoi moddion iddi, neu’n rhoi pigiad iddi.  Mae’r milfeddyg yn credu bod Gizmo yn gwningen iach iawn.

  4. Mae llawer o bobl yn credu bod Duw wedi creu’r anifeiliaid er mwyn i ni gael eu mwynhau, a bod Duw eisiau i ni ofalu am yr anifeiliaid.

Amser i feddwl

Meddyliwch am yr anifeiliaid anwes sydd gennych chi, neu sydd gan eich ffrindiau a’ch teulu.
Faint maen nhw’n ei roi i ni!

Gweddi

Diolch i ti, Dduw, am yr holl anifeiliaid rhyfeddol yn y byd.
Rydym yn diolch i ti’n arbennig am ein hanifeiliaid anwes.
Maen nhw’n gwneud i ni deimlo’n hapus.
Maen nhw’n addysgu cymaint i ni.
Helpa ni i ofalu am ein hanifeiliaid anwes.
Helpa ni i fod yn garedig a chariadus tuag at dy holl greaduriaid.
Rydym yn diolch i ti am yr RSPCA sy’n achub llawer o anifeiliaid oddi wrth berygl. 

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon