Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Adeiladu'n Dda

gan Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad o adeiladu’ch bywyd yn dda, ar sylfeini cadarn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Briciau bach fel Lego, neu rai bach pren fel briciau ‘jenga’.
  • Rhywbeth sigledig i sefyll arno, fel pêl a phlanc.
    (Peidiwch ag anghofio’r rheolau ‘iechyd a diogelwch’ yn rhan 4 y gwasanaeth yma.)
  • Cysylltiad â’r rhyngrwyd (dewisol).

Gwasanaeth

  1. Wrth i’r plant ddod i mewn i’r gwasanaeth, gofynnwch i rai ohonyn nhw ddod i’r tu blaen i dreulio ychydig funudau yn adeiladu model o dy gyda’r briciau bach yn gyflym - fe fydd hyn yn creu diddordeb.

  2. Yna, adroddwch y stori yma:

    Roedd dyn a oedd wedi bod yn adeiladydd da ar hyd ei oes yn nesáu at ymddeol, ond roedd wedi blino ar y gwaith erbyn hynny. Aeth at ei feistr a dweud wrtho ei fod yn awyddus i roi’r gorau i’w waith.


    ‘Popeth yn iawn,’ meddai’r meistr, ‘ond fe hoffwn i ti adeiladu un ty arall i mi, os gweli di’n dda, cyn i ti orffen yn gyfan gwbl.’

    Braidd yn anfodlon oedd yr hen adeiladydd, ond fe gytunodd i godi’r ty olaf yma i’w feistr cyn iddo ymddeol, er doedd ganddo fawr o awydd nac amynedd i wneud y gwaith.

    Fe ddefnyddiodd y coed rhataf a’r brics rhataf, beth bynnag oedd ar gael roedden nhw’n gwneud y tro.

    Fe dyllodd y sylfeini, ond ddim yn ddwfn iawn.

    Doedd y waliau ddim yn syth iawn, ond doedd yr adeiladydd ddim yn poeni rhyw lawer am hynny.

    Roedd y ffenestri a’r drysau ychydig yn gam, ond doedd yr adeiladydd ddim am dreulio rhagor o amser i’w hailosod.

    Roedd rhai o’r llechi ar goll ar y to, ond wnaeth o ddim chwilio am ragor.

    Brysiodd i baentio tu mewn y ty, a chollodd baent ar y carpedi newydd.

    Cyn hir roedd wedi gorffen y gwaith ac fe aeth i ddweud wrth ei feistr ei fod yn barod i ymddeol.

    ‘Ardderchog,’ meddai’r meistr. ‘Ond, tyrd yn ôl yfory - mae rhywbeth rydw i eisiau ei ddangos i ti.’

    Y bore wedyn, fe aeth yr adeiladydd i weld ei feistr. Aeth hwnnw ag ef at y ty yma yr oedd newydd orffen ei adeiladu. Tynnodd y meistr allwedd o’i boced a’i chyflwyno i’r adeiladydd. ‘Y ty yma rwyt ti wedi ei adeiladu i mi ydi fy anrheg ymddeoliad i ti. Rydw i eisiau i ti gael y ty yn anrheg am dy holl waith da ar hyd yr holl flynyddoedd, meddai’r meistr wrth yr hen adeiladydd. ‘Cymer yr allwedd a mwynha dy hun!’

    O! Roedd yr hen adeiladydd yn teimlo’n hynod o edifar a siomedig.

    Pe byddai’n gwybod mai ef ei hun fyddai’n byw yn y ty, fe fyddai wedi defnyddio’r coed gorau.

    Pe byddai’n gwybod mai ef ei hun fyddai’n byw yn y ty, fe fyddai wedi defnyddio’r brics gorau.

    Pe byddai’n gwybod mai ef ei hun fyddai’n byw yn y ty, fe fyddai wedi tyllu sylfeini dyfnach.

    Pe byddai’n gwybod mai ef ei hun fyddai’n byw yn y ty, fe fyddai wedi adeiladu’r waliau’n sythach.

    Pe byddai’n gwybod mai ef ei hun fyddai’n byw yn y ty, fe fyddai wedi bod yn fwy gofalus wrth osod y ffenestri a’r drysau.

    Pe byddai’n gwybod mai ef ei hun fyddai’n byw yn y ty, fe fyddai wedi gofalu bod pob llechen yn ei lle yn iawn.

    Pe byddai’n gwybod mai ef ei hun fyddai’n byw yn y ty, fe fyddai wedi paentio’r ty yn ofalus ac yn daclus.

  3. Pwysleisiwch y neges: Mae adeiladu ty yn union fel adeiladu eich bywyd eich hun - un bywyd sydd gennych chi, ac mae angen i chi adeiladu hwnnw yn y ffordd orau bosib!

    Gofynnwch: Beth sydd angen ei adeiladu’n gyntaf wrth godi ty? Ateb: Sylfeini.

  4. Dywedwch eich bod yn mynd i chwarae gêm i ddangos pa mor bwysig yw sefyll ar sylfeini cadarn. Galwch ar ddau wirfoddolwr a gofynnwch i un ohonyn nhw fynd ar y peth sigledig sydd gennych chi iddo sefyll arno, a rhoi her iddo gadw’i falans. Ar y dechrau fe allwch chi roi caniatâd iddo bwyso ar y gwirfoddolwr arall, ond wedyn fe gaiff geisio cadw’i gydbwysedd ar ben ei hun. Wedi hynny, fe gaiff y ddau newid lle, a rhoi cyfle i’r llall sefyll ar y peth sigledig. Rhowch gymeradwyaeth i’r ddau. Dywedwch: Mae sylfeini da yn wirioneddol bwysig mewn adeilad, ac mae’r un peth yn wir am fywyd hefyd.

Amser i feddwl

Naill ai: Dangoswch y fersiwn sydd wedi’i hanimeiddio o stori’r ty a adeiladwyd ar y graig, sydd i’w gweld ar YouTube - Miracle Maker (1 munud 30 eiliad; <https://www.youtube.com/watch?v=7qWJ48drd-U>).

Neu: adroddwch y stori yn eich geiriau eich hun o Efengyl Mathew 7.23–25.

Esboniwch sut roedd Iesu’n egluro bod adeiladu’ch bywyd trwy weithredu ar ei air ef yn rhoi sylfaen dda i chi, tra byddai gwybod ei air ond heb fod yn gweithredu ar hynny yr un fath ag adeiladu ty ar y tywod. (Ar y pwynt yma, fe allech chi gyfleu’r syniad yn ddramatig trwy dynnu un o’r briciau o waelod model o dy wedi ei adeiladu o flociau pren, a’i wylio’n cwympo.)

Gweddi

(Wrth i chi weddïo, efallai y gallech chi adeiladu model syml o dy cadarn eto.)

Arglwydd Dduw,

Gad i fy mywyd gael ei adeiladu â’r deunyddiau gorau posib – ffydd, gobaith a chariad.

Gad i fy mywyd gael ei adeiladu ar sylfeini fydd yn parhau.

Gad i fy mywyd gael ei adeiladu ar dy gariad di.

Cân/cerddoriaeth

Fe allech chi ddefnyddio’r gân Saesneg: ‘The wise man built his house upon the rock’ sydd i’w chael ar y wefan: http://library.timelesstruths.org/music/The_Wise_Man_and_the_Foolish_Man/

(gan wneud y symudiadau hefyd). Efallai y gallech chi addasu’r geiriau i’w canu yn Gymraeg, o  bosib.

 

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon