Lamp I'w Goleuo
Helpu’r plant i ddeall y rhan unigryw y mae’n rhaid i bob un ohonom ei chwarae yn y ffordd y mae pob un ohonom yn dysgu.
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Helpu’r plant i ddeall y rhan unigryw y mae’n rhaid i bob un ohonom ei chwarae yn y ffordd y mae pob un ohonom yn dysgu.
Paratoad a Deunyddiau
- Ysgrifennwch eiriau’r ddihareb Hebraeg yma ar fwrdd gwyn:
‘Nid llestr i’w lenwi yw plentyn, ond lamp i’w goleuo.’ (A child is not a vessel to be filled, but a lamp to be lit.)
- Byddwch angen bag ysgol newydd.
- Llyfrau mawr, llyfrau ysgrifennu, geiriadur, atlas, microsgop.
- Lamp (olew neu gannwyll).
Gwasanaeth
- Dywedwch wrth y plant:
Mae rhai pobl yn meddwl eich bod yn mynd i’r ysgol i ddysgu am bethau.
Mae rhai pobl yn meddwl eich bod yn mynd i’r ysgol i orlenwi’ch pen gyda llawer o ffeithiau.
Mae rhai pobl yn meddwl eich bod yn mynd i’r ysgol i lwyddo mewn profion a phasio arholiadau.
Mae rhai pobl yn meddwl eich bod yn mynd i’r ysgol, ac yna’n mynd i’r coleg, er mwyn cael swydd dda ac ennill cyflog da.
Ydyn nhw’n iawn? Beth yw barn y plant? - Dangoswch y ddihareb Hebraeg, a’i darllen i’r plant.
Dangoswch y bag ysgol newydd. Dechreuwch ei lenwi gyda llyfrau, geiriaduron, atlas, llyfrau ysgrifennu, microsgop ac ati.
- Daliwch y bag i fyny a dywedwch: ‘Nid llestr i’w lenwi yw plentyn … (A child is not a vessel to be filled …).
Mae’r ddihareb yma’n dweud nad ydych chi’n dod i’r ysgol gyda phen fel bag gwag yn barod i’w lenwi gyda phob math o bethau, hyd yn oed os yw’r pethau hynny’n cynnwys rhywbeth sy’n cael ei alw’n wybodaeth!
- Dangoswch y lamp. Goleuwch y lamp a dweud, ‘. . . ond lamp i’w goleuo’. (‘…but a lamp to be lit’).
Ystyr hyn yw eich bod yn dod i’r ysgol gyda photensial o’ch mewn. Mae rhywbeth unigryw ym mhob un ohonom, a’ch gwaith chi a gwaith yr athrawon yw dod o hyd i’r rhywbeth unigryw hwnnw, a rhoi cyfle iddo flodeuo.
Efallai mai rhyw sgil neilltuol fyddai’r peth hwnnw, neu ddiddordeb arbennig, neu allu creadigol. Mae’n bosib bod rhai ohonoch yn ymwybodol eisoes o’ch doniau, efallai bod rhai eraill heb wybod eto bod gennych chi ddawn arbennig. Dyna beth yw swyddogaeth yr ysgol, meithrin y doniau hynny. Yn yr ysgol, efallai bod athro neu athrawes, neu lyfr, rhaglen gyfrifiadurol neu gwrs, i’ch helpu chi ddatblygu’r diddordeb hwnnw neu’r ddawn neu’r sgil. Mae gennych chi fel disgyblion botensial enfawr yn disgleirio ynoch chi.
Amser i feddwl
Gofynnwch i’r plant feddwl am eiriau’r ddihareb yn dawel am ychydig o funudau.
Gofynnwch iddyn nhw benderfynu datblygu’r dalent sydd ganddyn nhw, neu sgil neu ddiddordeb, a gwneud hynny’n llawn yn ystod y flwyddyn addysgol sy’n dilyn.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am gael bod yn unigryw.
Diolch i ti fy mod i wedi cael fy nghreu ar dy ddelw di, a diolch am gael gallu creadigol a doniau arbennig.
Rho i mi’r awydd i ddysgu ac i werthfawrogi fy addysg, gan wneud fy ngorau bob amser.
Diolch i ti am ein hysgol.