Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rosh Hashana (Blywyddyn Newydd Iddewig)

Dangos i’r plant sut mae pobl Iddewig yn dathlu eu Blwyddyn Newydd.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dangos i’r plant sut mae pobl Iddewig yn dathlu eu Blwyddyn Newydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Lluniau o bobl sy’n dilyn y ffydd Iddewig.
  • Lluniau o fwydydd Rosh Hashana. Defnyddiwch unrhyw beiriannau chwilio i ddod o hyd i luniau sy’n darlunio’r Flwyddyn newydd Iddewig (cofiwch ofalu am delerau hawlfraint).
  • Un o sgroliau’r Torah (cofiwch drafod y sgrôl yn ofalus, o barch i’r traddodiad crefyddol).
  • Papurau bach fel ‘Post-it’ (un coch ac un gwyrdd).
  • Darnau pwyso bach a chlorian cydbwyso. Rowch un ‘post-it’ coch ar un ochr ac un gwyrdd ar yr ochr arall (gwelwch adran 5).

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant, pa bryd y byddwn ni’n dathlu’r Flwyddyn Newydd?

    Holwch, sut mae’r rhan fwyaf o wledydd y Gorllewin yn dathlu’r Flwyddyn Newydd?

    Holwch, ydi pawb yn dathlu’r Flwyddyn Newydd ar 1 Ionawr?

    Trafodwch Flwyddyn Newydd y Tsieiniaid, a’r ffaith ei bod yn wahanol bob blwyddyn oherwydd cylch y lleuad.

  2. Dangoswch rai lluniau o wyl Rosh Hashana i’r plant, a gofynnwch ydyn nhw’n gwybod rhywbeth am yr wyl hon.

    Eglurwch fod gwyl Rosh Hashana, eleni (2010), yn cael ei dathlu ar 9 Medi. Gofynnwch i’r plant drafod mewn parau beth maen nhw’n ei wybod am yr wyl. (Mae’n bosib y bydd plant rhai dosbarthiadau wedi ymdrin â’r wyl Iddewig hon yn eu gwersi Addysg Grefyddol - yn dibynnu ar bolisi’r ysgol a’r maes llafur Addysg Grefyddol cytunedig).

  3. Soniwch fel mae’n nodi yn y Torah sut y gwnaeth Duw greu’r byd. Gofynnwch i’r plant faint o ddyddiau gymerodd hynny, yn ôl y Torah. Eglurwch fod llyfrau’r Torah yn cael eu cynnwys yn yr Hen Destament hefyd gan y rhai sy’n dilyn y grefydd Gristnogol. Mae Mwslimiaid yn defnyddio’r llyfrau yma fel rhan o’u hysgrythurau hwy hefyd.

  4. Gwyl sy’n dathlu bod Duw wedi creu’r byd yw Rosh Hashana.

    Dywedwch wrth y plant bod Iddewon yn credu mai hwn yw’r diwrnod pan fydd eich holl weithredoedd da, a’ch holl weithredoedd drwg, yn cael eu pwyso a’u mesur neu eu rhoi yn y glorian. Os bydd eich gweithredoedd da yn pwyso mwy na’r gweithredoedd drwg, mae hynny’n golygu y byddwch chi’n debygol o gael blwyddyn dda. Holwch y plant beth maen nhw’n feddwl fydd yn digwydd os yw eich gweithredoedd drwg yn pwyso mwy na’ch gweithredoedd da.

  5. Gofynnwch i ddau ddod atoch chi i’r tu blaen i’ch helpu. Dywedwch wrth y gynulleidfa bod rhywun yn ystod y flwyddyn wedi gwneud nifer o bethau oedd yn iawn a nifer o bethau oedd ddim yn iawn (Peidiwch â defnyddio enw neb go iawn, defnyddiwch enw cymeriad ffuglen  - fe allech chi ddefnyddio enw cymeriad o stori gyfarwydd. Yn yr achos yma, fe ddewiswn ni’r cymeriad Jac allan o stori Jac a’r Goeden Ffa .) Dywedwch wrth y plant eich bod yn mynd i nodi popeth a wnaeth y plentyn [Jac]. Os ydyn nhw’n meddwl fod y peth hwnnw a wnaeth [Jac] yn iawn, yna fe ddylai un o’r ddau blentyn sy’n eich helpu chi roi un o’r pwysau bach ar y glorian, ar yr ochr gadarnhaol sef yr ochr sydd wedi ei marcio â’r papur post-it gwyrdd. Os yw’r datganiad yn nodi bod [Jac] wedi gwneud rhywbeth oedd ddim yn iawn, fe ddylen nhw roi’r pwysau ar ochr negyddol y glorian, sef yr ochr sydd wedi ei marcio â’r papur post-it coch.

    (a) Gweithiodd Jac yn galed ar y fferm gyda’i fam. (Holwch y plant, oedd hynny’n beth da neu’n beth drwg? Gofynnwch i un o’r ddau blentyn sy’n eich helpu, i roi pwysau naill ai ar ochr gadarnhaol neu negyddol y glorian, yn unol â barn y gynulleidfa).

    (b) Gwerthodd Jac y fuwch am ychydig o ffa. (Eto, yn ôl barn y plant, fe fydd y plant sy’n eich helpu yn gallu rhoi pwysau naill ai ar ochr gadarnhaol neu ochr negyddol y glorian  . . .).

    (c) Dringodd Jac i fyny’r goeden ffa, ac fe siaradodd yn foneddigaidd iawn gyda gwraig y cawr.

    (ch) Diolchodd Jac i wraig y cawr am y bwyd.

    (d) Fe ddwynodd Jac aur y cawr, dwyn telyn aur y cawr, a dwyn yr iâr oedd yn dodwy wyau aur.

    (dd) Torrodd Jac y goeden ffa gan beri i’r cawr gwympo a marw.

  6. Edrychwch ar y glorian. Trafodwch ai rhai da neu rai drwg oedd y rhan fwyaf o weithredoedd Jac? A phe bai Jac yn Iddew, pa fath o flwyddyn a fyddai’n debygol o fod o’i flaen.

  7. Nawr, gofynnwch i’r plant feddwl pa fath o bethau y gallen nhw ei gwneud yn yr ysgol er mwyn cael blwyddyn lewyrchus a llwyddiannus.

    Holwch beth yw’r pethau y byddan nhw’n eu gwneud weithiau yn yr ysgol a fyddai’n cael eu nodi ar ochr negyddol y glorian.

    Holwch y plant ydyn nhw’n meddwl y byddai eu clorian bersonol nhw yn drymach ar un ochr na’r llall.

    Awgrymwch, hyd yn oed os nad ydyn ni’n Iddewon, fe allai pwyo a mesur ein gweithredoedd ein hunain fod yn rhywbeth gwerth ei wneud.

Amser i feddwl

Yn ystod y cyfnod sy’n arwain at Rosh Hashana, mae pobl Iddewig yn ceisio cymodi yn dilyn ffrae bersonol sydd wedi dod i’w rhan, neu’n ceisio adfer unrhyw ddirywiad sydd wedi digwydd mewn perthynas â rhywun arall. Oni fyddai’n dda i bob un ohonom geisio gwneud hynny?

Bod â ffydd yn eich egwyddorion a chredu ynddyn nhw yw’r allwedd i fyw bywyd da a gonest. Mewn geiriau eraill rhaid i chi gerdded y daith yn ogystal â dweud eich dweud, (‘walk the walk’ as well as ‘talk the talk’).

Gweddi

Helpa ni i wneud mwy o ddaioni yn ein bywydau, ac i greu argraff gadarnhaol ar y bobl o’n cwmpas.
Gad i’n gweithredoedd ni amlygu dy gariad di.

 

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon