Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dechreuwch Gerdded!

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y plant i gymryd rhan yn yr ymgyrch ‘Cerdded i’r Ysgol’ (Walk to School) sy’n digwydd yn ystod mis Hydref eleni, o 1 i 31 Hydref.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai yr hoffech chi drefnu bod y ‘Ffeithiau pwysig’ sy’n cael eu rhestru yn rhan 3 ar gael gennych chi i’w taflunio ar sgrin, fel bod y plant i gyd yn gallu eu gweld.

Gwasanaeth

  1. Gwnewch arolwg bras a sydyn er mwyn gweld sut mae’r plant yn teithio i’r ysgol. Efallai yr hoffech chi nodi faint sy’n dod i’r ysgol mewn car, ar feic, ar y bws, neu’n cerdded, etc.

  2. Holwch faint o’r plant sydd wedi cerdded i’r ysgol ryw dro.

  3. Eglurwch eich bod eisiau dysgu rhai ffeithiau pwysig am gerdded i’r plant, ffeithiau y mae’r plant heb fod yn ymwybodol ohonyn nhw, efallai.

Ffeithiau pwysig


Ar gyfartaledd, mae pob munud o gerdded yn gallu ymestyn eich bywyd gymaint â 1.5 neu 2 funud.

Mae cerdded 20 munud ychwanegol bob dydd yn llosgi 7 bwys (3 kg) o fraster y corff bob blwyddyn.

Mae cerdded yn well ar eich lles na rhedeg a loncian, am fod cerdded yn rhoi llai o straen ar y cymalau.

Cewch y manteision canlynol wrth gerdded:
- gwella effeithlonrwydd y galon a’r ysgyfaint
- llosgi braster y corff
- helpu i reoli archwaeth
- cynyddu eich egni
- cryfhau cyhyrau y coesau, y cluniau, a’r torso
- gwella bywiogrwydd y meddwl a’r cof.

  1. Eglurwch i’r plant bod mis Hydref wedi’i ddynodi’n fis cenedlaethol ‘Cerdded i’r Ysgol’ (Walk to School). Mae ystadegau’r Llywodraeth yn dangos bod cymaint â 50 y cant o blant ddim yn cerdded i’r ysgol yn rheolaidd. Mae’r tueddiad yma’n cyfrannu at leihad yng ngweithgareddau corfforol plant ac at gynnydd mewn gordewdra ymysg y plant, heb sôn am achosi tagfeydd traffig a llygru’r aer.

  2. Eglurwch i’r plant fod yr ymgyrch ‘Cerdded i’r Ysgol’ ym Mhrydain yn rhan o’r ymgyrch ryng-genedlaethol sy’n annog plant i ddechrau cerdded o leiaf ran o’u taith i’r ysgol yn ystod mis Hydref. Yn y flwyddyn 2008, cerddodd dros 3 miliwn o blant mewn dros 40 o wledydd, i’r ysgol yn ystod y ‘Mis Cerdded i’r Ysgol’.

  3. Fel ysgol, efallai y byddwch chi’n penderfynu cymryd rhan yn yr ymgyrch hon yn ystod mis Hydref, ac efallai eich bod eisoes wedi trefnu digwyddiadau. Os nad ydych chi, anogwch y plant i edrych ar y wefan a meddwl am gymryd rhan yn yr ymgyrch eleni. Efallai mai dim ond gwneud ymdrech i gerdded ychydig bach mwy y byddan nhw, ac annog eu rhieni i wneud yr un peth. Neu, fe allech chi roi her benodol iddyn nhw yn ymwneud â cherdded, a gweld a fyddai hi’n bosib iddyn nhw gyflawni’r her. Er enghraifft, sawl gwaith y gallan nhw gerdded oddi amgylch iard yr ysgol mewn pum munud? Fydd hi’n bosib iddyn nhw gerdded rownd perimedr cae’r ysgol ddwywaith bob amser chwarae yn ystod mis Hydref? etc.

    Yn y Beibl, mae adnodau sy’n disgrifio mor rhyfedd y’n gwnaed. Edrychwch ar yr adnodau yn  Salm 139.14-16. Atgoffwch y plant bod Cristnogion yn credu mai Duw sydd wedi ein gwneud ni a’n bod yn rhyfeddol! Atgoffwch nhw hefyd, er bod Duw wedi ein gwneud ni, ac wedi rhoi i ni gorff cryf sy’n gallu cerdded, symud, anadlu, etc., mae gennym ni gyfrifoldeb i ofalu am y corff y mae Duw wedi ei roi i ni.

Amser i feddwl

Meddyliwch am foment pa mor rhyfeddol yw ein corff. Pa un ai ydych chi’n dda mewn chwaraeon neu beidio, mae gan bob un ohonom gorff sy’n gallu gwneud pethau rhyfeddol. Anadlwch yn ddwfn, ddwywaith neu dair, a meddyliwch peth mor wirioneddol ffantastig yw gallu anadlu fel hyn. Meddyliwch sut mae ein calon ar y funud yma yn pwmpio’r gwaed o gwmpas ein corff, ac oherwydd hynny rydyn ni’n gallu cadw’n fyw.

Treuliwch foment yn meddwl am sut y dylai pob un ohonom ofalu am ei gorff – oes rhywbeth y gallwn ni ei wneud yn ystod ‘Mis Cerdded i’r Ysgol’ fydd yn ein helpu ni gadw’n gryf ac yn iach?

Gweddi
Annwyl Dduw, diolch i ti am ein cyrff rhyfeddol.
Helpa ni i ofalu am ein cyrff a chadw’n iach.
Diolch i ti am y gallu i gerdded.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon