Eid Ul Adha
Archwilio’r wyl Eid ul Adha.
gan Jude Scrutton
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 1
Nodau / Amcanion
Archwilio’r wyl Eid ul Adha.
Paratoad a Deunyddiau
- Casglwch luniau o wahanol weddau ar y lleuad.
- Cerdyn cyfarch Gwyl Eid.
Gwasanaeth
- Defnyddiwch wefannau i ddangos i chi weddau ar y lleuad yn ystod y flwyddyn (teipiwch ‘moon shape diary’ wrth ddefnyddio unrhyw beiriant chwilio).
Edrychwch sut wedd fydd i’r lleuad ar 16 Tachwedd. - Eglurwch fod llawer o bobl yn edrych ar siâp cilgant y lleuad o gwmpas yr adeg yma, i ddathlu gwyl grefyddol bwysig.
Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod pa wyl yw honno.
Rhowch gliwiau iddyn nhw ynghylch pobl pa grefydd fydd yn dathlu’r wyl hon.
- Cyflwynwch yr wyl Eid ul Adha:
Eglurwch i’r plant mai Adha (‘Gwyl yr Aberth’), sydd hefyd yn cael ei galw’n Eid Fwyaf - Greater Eid, yw’r ail wyl bwysicaf yn y calendr Mwslimaidd.
Eglurwch fod yr wyl yn atgoffa’r bobl am hanes y proffwyd Ibrahim (y mae Iddewon a Christnogion yn ei alw’n ‘Abraham’), ac fel roedd Ibrahim yn fodlon hyd yn oed i aberthu ei fab Ishmael ar ôl i Dduw ei orchymyn i wneud fel a ganlyn:
Fe ymddangosodd Allah (Duw) i Ibrahim mewn breuddwyd, a gofyn iddo aberthu ei fab Ishmael fel gweithred o ufudd-dod i Allah.
Fe geisiodd y diafol demtio Ibrahim trwy ddweud doedd dim rhaid iddo fod yn ufudd i Dduw ac y gallai arbed ei fab. Ond pan oedd Ibrahim ar fin lladd ei fab, fe ataliodd Allah ef a rhoi oen iddo’i aberthu yn lle Ishmael ei fab.
- Mae gwyl Eid ul Adha yn ddiwrnod o wyliau cyhoeddus mewn gwledydd Mwslimaidd.
Eglurwch fod Mwslimiaid ledled y byd, y rhai sy’n gallu ei fforddio, yn aberthu dafad (gafr weithiau) i gofio am ufudd-dod Ibrahim i Allah.
Eglurwch, o achos deddfau iawnderau anifeiliaid, yma ym Mhrydain, rhaid i’r anifail gael ei ladd mewn lladd-dy trwyddedig.
Yna, fe fydd cig yr anifail yn cael ei rannu rhwng y teulu, ffrindiau, a phobl dlawd, y rhain yn cael un rhan o dair o’r anifail.
Fel arfer, fe fydd y Mwslimiaid yn mynd i’r mosg i ddechrau’r Eid, wedi gwisgo yn eu dillad gorau, ac yno fe fyddan nhw’n diolch i Allah am bob bendith y byddan nhw wedi’i chael.
Mae’n ddyletswydd ar bob Mwslim, yn ystod Eid, i roi swm nodedig o arian at elusen, i’w ddefnyddio er mwyn helpu pobl dlawd i brynu dillad newydd a bwyd fel y byddan nhw hefyd yn gallu dathlu.
Amser i feddwl
Goleuwch gannwyll a gofynnwch i’r plant feddwl am wyl Eid.
Mae Duw, Allah, yn disgwyl i ni rannu’r hyn sydd gennym ni.
Sut y gallech chi rannu rhai o’r pethau da sydd gennych chi heddiw?