Llygoden Y Dref A Llygoden Y Wlad
Un o chwedlau Aesop
gan Jude Scrutton
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Darlunio sut mae’n well cael digon o’r hyn rydyn ni ei angen, a gallu byw’n hapus, na bod â digonedd o’r pethau y byddwn ni eu heisiau ond yn gorfod byw mewn ofn colli’r cyfan.
Paratoad a Deunyddiau
- Dau fwgwd llygoden.
- Treuliwch ychydig funudau o flaen llaw gyda dau o’r plant, iddyn nhw ddod i wybod beth fydd angen iddyn nhw ei wneud wrth feimio rhannau’r llygod.
- Fe allech chi baratoi dau blentyn arall hefyd i ddarllen neu lefaru rhannau’r llygod.
- Ymchwiliwch rywfaint i gefndir Aesop, fel y byddwch chi’n gyfarwydd â’i hanes.
Gwasanaeth
- Cyflwynwch Aesop, ac eglurwch i’r plant pwy oedd o.
Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod ble cafodd Aesop ei eni. (Ethiopia)
Pa bryd y cafodd ei eni? (Roedd yn byw rywbryd tua 620–560 Cyn Crist.)
Pam mai dim ond bras amcan sydd gennym ni o faint oedd hyd ei oes?
Eglurwch mai caethwas oedd Aesop, ond roedd hefyd yn awdur nifer fawr o storïau.
Gofynnwch i’r plant feddwl ym mha ffordd yr oedd Aesop yn debyg i Iesu Grist (y prif debygrwydd oedd ei fod yn adrodd storïau wrth dorfeydd, ac roedd neges ym mhob stori, ac amcan pob neges oedd helpu pobl i fyw bywyd gwell).
Darllenwch y stori ganlynol. Tra byddwch chi, neu rywun arall, yn darllen y stori, gofynnwch i’r ddau blentyn feimio rhannau’r llygod
Chwedl Llygoden y Dref a Llygoden y Wlad
Nawr, rwy’n siwr eich bod yn gwybod fod Llygoden y Dref wedi mynd un tro i ymweld â’i chyfnither yn y wlad. Llygoden blaen iawn oedd Llygoden y Wlad, doedd hi ddim yn pryderu llawer am gael cartref crand, na sut olwg oedd arni, ond roedd hi’n hoff iawn o’i chyfnither, Llygoden y Dref. Roedd hi’n barod iawn i roi croeso iddi pan glywodd ei bod yn dod am dro i’r wlad i’w gweld. Dim ond gwahanol fathau o hadau a ffa a chrystiau sych oedd gan Lygoden y Wlad i’w gynnig yn fwyd i Lygoden y Dref, ond roedd ei chroeso’n wresog iawn. Troi ei thrwyn ar y pethau yma a wnaeth Llygoden y Dref, gan ddweud: ‘O diar! Wn i ddim sut rwyt ti’n gallu byw ar y fath fwyd! Ond, dyna fo, does gen ti ddim cymaint o ddewis o fwydydd yma allan yn y wlad o’i gymharu â’r holl bethau blasus hyfryd rydyn ni’n gallu eu cael yn y dref. Beth am i ti ddod yn ôl efo fi i’r dref, ac fe ddangosaf i ti sut beth yw byw go iawn? Fe gei di’r gwleddoedd mwyaf blasus. Wedi i ti fyw wythnos yn y dref, fe fyddi di’n meddwl wedyn sut yn y byd y gwnest ti oroesi ar fwyd y wlad.’
Ac yn wir i chi, fe benderfynodd y ddwy fynd i’r dref ar eu hunion. Cyn y nos, roedden nhw wedi cyrraedd cartref Llygoden y Dref. ‘Ar ôl ein siwrnai faith, y peth cyntaf y mae’n rhaid i’r ddwy ohonom ei gael yw bwyd,’ meddai Llygoden y Dref, ac fe arweiniodd ei chyfnither i ystafell fwyta fawr grand. Yno, roedd sbarion gwledd wych, a chyn pen dim roedd y ddwy lygoden yn sglaffio teisennau a jeli a phob math o ddanteithion. Yn sydyn, fe glywson nhw swn chwyrnu a chyfarth mawr. ‘Beth yn y byd ydi’r swn mawr yma?’ meddai Llygoden y Wlad. ‘Dim ond cwn y ty sydd yna,’ atebodd Llygoden y Dref. ‘Dim ond...!’ meddai Llygoden y Wlad wedyn. ‘Dydw i ddim yn hoffi’r math yna o gerddoriaeth yn y cefndir wrth i mi fwyta.’
A’r foment honno, fe ruthrodd dau gi mawr i mewn i’r ystafell gan gyfarth yn wyllt, ac fe fu’n rhaid i’r ddwy lygoden fach ddianc am eu bywyd allan o’r ystafell. ‘Ffarwel fy nghyfnither,’ meddai Llygoden y Wlad. ‘Beth? Wyt ti ddim yn mynd yn ôl i’r wlad, rwan? Mor fuan?’ holodd y llall. ‘Ydw’n wir, alla i ddim aros yma, mae’n ddrwg gen i. Mae’n well gen i fyw yn y wlad,’ atebodd Llygoden y Wlad, a chychwynnodd ar ei thaith bell yn ôl i’w chartref ei hun yn y wlad.
- Rhowch gyfle i’r plant drafod beth maen nhw’n feddwl oedd Aesop eisiau i’r bobl ddysgu o’r stori.
Rhannwch gyda’r plant beth oedd bwriad Aesop wrth ddweud y stori, sef pwysleisio neges y stori: ‘Mae’n well cael llonydd i fwyta bwyd plaen na bwyta danteithion mewn ofn. Mae hen ddihareb Gymraeg sy’n dweud yr un peth - ‘Esmwyth cwsg, potes maip’.
Holwch y plant i weld ydyn nhw’n gallu meddwl am neges arall yn y stori ar gyfer ein bywyd yn ein hoes ni heddiw.
- Cyfeiriwch y plant i feddwl am yr hyn sy’n bwysig mewn bywyd. Ydi hi’n bwysig bod gennym ni lawer iawn o bethau rydyn ni’n dymuno’u cael, ond y byddwn ni wedyn yn byw mewn ofn colli’r pethau hynny, neu ydi hi’n well i ni fod yn ddiolchgar am y pethau sydd gennym ni?
Amser i feddwl
Goleuwch gannwyll, a gofynnwch i’r plant ystyried yr adegau rheini yn eu bywyd pan wnaethon nhw swnian a strancio, a mynnu cael rhywbeth roedden nhw eisiau ei gael, ond doedd eu rhieni neu eu gofalwyr ddim yn fodlon ei brynu iddyn nhw ar y pryd. Oedd y plant yn ymddwyn yn y ffordd iawn wrth wneud hynny – allen nhw fod wedi ymddwyn mewn ffordd wahanol?