Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cracer Nadolig

Meddwl am stori’r Nadolig, gan ddefnyddio gwrthrych Nadoligaidd syml.

gan Susan MacLean

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am stori’r Nadolig, gan ddefnyddio gwrthrych Nadoligaidd syml.

Paratoad a Deunyddiau

  • Un gracer Nadolig.
  • Dau blentyn i dynnu’r gracer.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant beth yw’r pethau sy’n gwneud iddyn nhw feddwl am y Nadolig. Dangoswch eich cracer Nadolig iddyn nhw, a dywedwch eich bod chi’n mynd i ddefnyddio hon i ddweud hanes y Nadolig cyntaf wrthyn nhw.

  2. Dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd y tu mewn i’r gracer yma nes y byddwn ni wedi ei hagor hi - syrpreis! Pa syrpreisys ydych chi’n gobeithio’u cael y Nadolig yma? Fe gafodd Mair a Joseff syrpreis mawr, oherwydd roedd Duw wedi eu dewis nhw i wneud rhywbeth arbennig iawn. Fe ddaeth yr Angel Gabriel at Mair a dweud wrthi, er nad oedd wedi priodi gyda Joseff eto, ei bod yn mynd i gael babi bach. Ac nid unrhyw fabi bach fyddai hwn! Roedd hi, Mair, wedi cael ei dewis i fod yn fam i fab Duw, ac roedd Duw eisiau iddi hi a Joseff fagu’r babi bach. Dyna beth oedd syrpreis iddyn nhw!

  3. (Gofynnwch i ddau blentyn dynnu’r gracer.) Mae’r glec yn gallu ein dychryn weithiau os yw’r glec yn glec fawr. (Holwch beth arall sy’n dychryn y plant.) Roedd y bugeiliaid yn y caeau wedi cael braw. Beth oedd wedi eu dychryn nhw? Fe wnaethon nhw weld angylion. Roedden nhw wedi dychryn yn ofnadwy. Ond, fe ddywedodd yr angylion wrthyn nhw am beidio ag ofni, roedd ganddyn nhw newyddion da i’r bugeiliaid. (Gofynnwch i’r plant beth oedd y newydd da hwnnw – roedd Iesu wedi’i eni ym Methlehem!)

  4. Fel arfer mae papur bach mewn cracer gyda jôc neu bos arno. (Darllenwch y jôc neu’r pos sy’n eich cracer chi.)

    Roedd proffwydi’r Hen Destament yn aml yn siarad am beth oedd yn mynd i ddigwydd tua’r adeg y byddai Iesu’n cael ei eni. Fe wnaethon nhw ddisgrifio ble byddai’n cael ei eni, ac fe wnaethon nhw ddweud llawer o bethau eraill am ei fywyd. Doedd pawb ddim yn deall beth oedd y proffwydi’n ceisio’i ddweud, a doedd pawb ddim yn deall mai Iesu fyddai’r ateb i’r holl bethau hyn roedd y proffwydi wedi sôn amdanyn nhw. Ond, wrth i ni nawr edrych yn ôl ar y pethau yr oedd y proffwydi’n ei ddweud ganrifoedd cyn i Iesu gael ei eni, fe allwn ni weld yn glir fod y pethau hynny wedi dod yn wir yn Iesu Grist. Roedd Iesu fel ateb i’r pos - sef y pethau roedd y proffwydi wedi eu nodi.

  5. (Tynnwch yr het allan o’r gracer, a’i gwisgo. Nodwch ei lliw a’i siâp ac ati. Holwch, fyddech chi’n gwisgo hon am eich pen i’w gadw’n gynnes pan fyddwch chi’n mynd allan? Na? Pam? Holwch beth yw pwrpas yr het - mae fel coron. Pwy sy’n gwisgo coron? Brenin neu frenhines.) Mae’n dweud yn y Beibl bod Iesu’n frenin, ond nid fel brenin neu frenhines ar wlad. Mae’r Beibl yn dweud mai Iesu yw Brenin y Brenhinoedd, sy’n golygu ei fod yn Frenin ar bawb, hyd yn oed yn Frenin ar holl frenhinoedd y byd. Mae Cristnogion yn credu bod Iesu’n Frenin y bydysawd.

  6. (Dywedwch fod un peth ar ôl yn y gracer - anrheg! Tynnwch yr anrheg allan a’i ddangos i bawb. Fe ddaeth y doethion ag anrhegion i Iesu. Gofynnwch i’r plant beth oedd yr anrhegion rheini - aur, thus a myrr.) Fe fydd pob un ohonom yn hoffi cael anrhegion ar adeg y Nadolig, ond heb Iesu, fyddai dim Nadolig o gwbl! Ar adeg y Nadolig, fe fyddwn ni’n cofio am un anrheg arbennig iawn, sef Iesu ei hun a ddaeth i’r byd yn anrheg i bob un ohonom.

Amser i feddwl

Wrth i ni fwynhau’r holl bartïon, y bwyd a’r anrhegion ar adeg y Nadolig, gadewch i ni beidio ag anghofio am y Nadolig cyntaf un hwnnw, a chofio am Iesu’n cael ei eni.

Gweddi
Diolch i ti, o Dduw, am yr holl bethau da rydyn ni’n eu mwynhau ar adeg y Nadolig.
Helpa ni i feddwl am y Nadolig cyntaf un hwnnw, a chofio am Iesu’n cael ei eni.

 

Cân/cerddoriaeth

Canwch un o hoff garolau plant yr ysgol.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon