Cadw'n Ddiogel
Y Doethion yn dod i weld Iesu
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 1
Nodau / Amcanion
Nodi rhai o’r ffyrdd rydyn ni’n cael ein rhybuddio am beryglon, a gwerthfawrogi’r angen i gymryd sylw o rybuddion trwy ufuddhau. Gwelwn hyn yn stori’r Ystwyll (y Doethion yn dod i weld Iesu).
Paratoad a Deunyddiau
- Casgliad o ddelweddau – goleuadau traffig, tyllu ffyrdd, cotiau llachar, peilonau trydan, ac ati.
Fe allech chi ddewis rhai o’r amrywiaeth mawr sydd ar gael ar y wefan: www.fotosearch.com/photos-images/warning.html.
- Byddwch angen paratoi tri o blant i ddarllen y darnau canlynol o’r Beibl: Mathew 2.13; Mathew 2.14–15; Mathew 2.16–18.
- Ysgrifennwch y geiriau ‘Beth os?’ mewn llythrennau bras ar y bwrdd gwyn ar gyfer yr Amser i feddwl.
Gwasanaeth
- Yn y gwasanaeth heddiw, rydyn ni’n mynd i feddwl am rybuddion rhag perygl. Fe all rhybudd fod yn rhywbeth rydych chi’n ei weld neu’n rhywbeth rydych chi’n ei glywed. Y rhai cyntaf i’n rhybuddio ni am beryglon, pan fyddwn ni’n fach, yw ein rhieni neu rywrai sy’n gofalu amdanom.
Pwy sy’n cofio cael eich rhybuddio gan rywun pan oeddech chi’n blant bach?
Mae peryglon o’n cwmpas ym mhob man, ond os byddwn ni’n ofalus a gwrando ar rybuddion fe allwn ni gadw’n ddiogel fel arfer. Wedi’r cyfan, rydyn ni i gyd wedi cyrraedd yr ysgol yn ddiogel heddiw er efallai ein bod wedi gorfod bod yn ofalus iawn yn ymyl llawer o lorïau, bysiau, pobl, safleoedd adeiladu, ac ati.
- Dangoswch y ddelwedd gyntaf.
– Ble bydden ni’n debygol o weld rhywbeth fel hyn?
– Am beth mae’r llun yn ein rhybuddio?
– Oes angen i ni wneud rhywbeth?
– Beth allai ddigwydd pe bydden ni’n anwybyddu’r rhybudd?
Ewch trwy’r un drefn gyda chymaint o ddelweddau ag y dymunwch. - Atgoffwch y plant am y cymeriadau yn stori’r Geni yn y Beibl, Mair a Joseff, ac am y gwahanol negeseuon gawson nhw gan angylion am enedigaeth Iesu. Wnaethon nhw ddim anwybyddu’r negeseuon, ac fe ddaeth pob un yn wir. Cafodd Iesu ei eni yn faban i Mair yn yr union le yr oedd y proffwydi wedi sôn amdano flynyddoedd lawer cyn hynny. Daeth doethion o wlad bell i ymweld â’r stabl a’r baban.
- Un noson, ychydig ar ôl geni Iesu, cafodd Joseff freuddwyd arall, a daeth angel ato. Rhybudd am berygl mawr oedd y freuddwyd. Gwrandewch ar y neges:
Plentyn yn darllen Mathew 2.13:
Wedi iddyn nhw ymadael, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, ac yn dweud, ‘Cod, a chymer y plentyn a’i fam gyda thi, a ffo i’r Aifft, ac aros yno hyd nes y dywedaf wrthyt, oherwydd y mae Herod yn mynd i chwilio am y plentyn er mwyn ei ladd.’
Fe fyddai’n ddigon hawdd i Joseff fod wedi dweud: ‘O! Dim ond breuddwyd wirion oedd hi. Rhaid fy mod i wedi bwyta gormod o gaws cyn mynd i fy ngwely!’
Ond, roedd angel wedi ymweld â Joseff o’r blaen, ac angel wedi ymweld â Mair hefyd, ac roedd yr hyn yr oedd yr angel wedi’i ddweud wrth y ddau yn eu tro wedi dod yn wir.
Gwrandewch ar beth a wnaeth Joseff wedyn, ar ôl cael y rhybudd:
Plentyn yn darllen Mathew 2.14-15:
Yna cododd Joseff, a chymerodd y plentyn a’i fam gydag ef liw nos, ac ymadael i’r Aifft. [Arhosodd yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd: “O’r Aifft y gelwais fy mab.”]
Mae’n dda iawn bod Joseff wedi gwrando a chymryd y rhybudd yma o ddifrif. Gwrandewch beth ddigwyddodd wedyn ym Methlehem:
Plentyn yn darllen Mathew 2.16-18:
Yna, pan ddeallodd Herod iddo gael ei dwyllo gan y seryddion, aeth yn gynddeiriog, a rhoddodd orchymyn i ladd pob bachgen ym Methlehem a’r holl gyffiniau oedd yn ddwyflwydd oed neu lai, gan gyfrif o’r amser yr holodd ef y seryddion. [Felly y cyflawnwyd y gair a lefarwyd trwy Jeremeia’r proffwyd: “Clywyd llef yn Rama, wylofain a galaru dwys; Rachel yn wylo am ei phlant, ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddent mwy.”]
Amser i feddwl
Mae angen bod yn ufudd i gadw’n ddiogel.
Dangoswch y geiriau ‘Beth os?’ ar y bwrdd gwyn.
Gofynnwch i’r plant feddwl am funud am yr hyn allai fod wedi digwydd pe byddai Joseff heb gymryd sylw o’r rhybudd.
Gweddi
Diolch i ti am anfon yr angel i rybuddio Joseff mewn breuddwyd.
Diolch i ti ei fod yn dad doeth ac wedi gwrando ar y rhybudd.
Diolch i ti, o ganlyniad, am gadw Iesu’n ddiogel,
a diolch ein bod yn gallu gwybod hyd heddiw am dy gariad mawr tuag atom ni.
Diolch am ein rhieni ac am y rhai sy’n gofalu amdanom ni, gartref ac yn yr ysgol.
Diolch eu bod nhw eisiau i ni fod yn ddiogel ac yn hapus.
Helpa ni i wrando arnyn nhw, a bod yn ufudd iddyn nhw bob amser.