Faint Ydi O Werth?
Ein dysgu i werthfawrogi bod ein rhieni’n ein caru, eu bod yn rhoi heb ddisgwyl dim yn ôl, a sylweddoli ein bod ambell dro yn cymryd pethau’n ganiataol.
gan Laurence Chilcott
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Ein dysgu i werthfawrogi bod ein rhieni’n ein caru, eu bod yn rhoi heb ddisgwyl dim yn ôl, a sylweddoli ein bod ambell dro yn cymryd pethau’n ganiataol.
Paratoad a Deunyddiau
- Dim angen paratoi unrhyw ddeunyddiau.
Gwasanaeth
- Holwch y plant pa swyddi fyddan nhw’n eu gwneud i helpu o gwmpas y ty – fyddan nhw’n gwneud y pethau hyn yn llawen neu’n groes i’w hewyllys? Fyddan nhw’n disgwyl tâl neu wobr am wneud y tasgau?
- Darllenwch y stori ganlynol, neu ei hadrodd yn eich geiriau eich hun:
Fe gafodd Edward syniad. Doedd ei arian poced ddim yn para’n hir. Teimlai nad oedd yn cael llawer am ei arian y dyddiau hyn, ac roedd wedi meddwl am gynllun i wneud ychydig bach mwy o arian. Yn ystod y dyddiau diwethaf roedd wedi bod yn helpu llawer ar ei fam ac roedd wedi sylweddoli bod ei fam yn talu i Mrs Harris am ei helpu i lanhau’r ty bob wythnos. Felly, os oedd Mrs Harris yn cael arian am helpu, pam na allai ef gael ei dalu am ei holl waith caled?
Cyn iddo fynd i’r ysgol un bore Llun, fe roddodd ei gynllun ar waith. Meddyliodd am yr holl bethau roedd wedi’u gwneud ar hyd yr wythnos flaenorol, ac ar ddalen o bapur fe ysgrifennodd hyn:
Rhedeg i’r siop i nôl llefrith - 20p
Postio llythyr pwysig i chi dydd Gwener - 20p
Gofalu am y babi bob dydd pan oeddech chi’n paratoi bwyd - £1
Helpu i nôl y dillad oddi ar y lein pan ddaeth hi i fwrw glaw - 20p
Cadw fy ystafell wely’n daclus ar hyd yr wythnos - £1
Mynd â’r papurau newydd i’r bin ailgylchu - 50p
Cyfanswm: £3.10
Ar waelod y rhestr fe arwyddodd Edward ei enw’n ofalus, a gosod y papur o dan y glustog ar ei wely. Roedd yn gwybod y byddai ei fam yn siwr o weld y nodyn yno, gan ei bod yn rhoi dillad glân ar ei wely bob bore Llun. Gan wenu, fe redodd i lawr y grisiau ac eistedd wrth y bwrdd i fwyta’i frecwast.
‘Bore da Ed,’ meddai ei fam. ‘Rwyt ti’n edrych yn llawen iawn heddiw - beth sy?’
Doedd Edward ddim ar ei orau yn y bore fel arfer, ac roedd ei fam wrth ei bodd ei fod yn hapus am unwaith yn lle cwyno am rywbeth neu’i gilydd ar ddechrau pob dydd.
‘Dim byd Mam. Ond rydw i’n teimlo rywsut fy mod i’n mynd i gael diwrnod da heddiw,’ meddai.
Roedd yn llawen wrth ffarwelio â’i fam a chychwyn am yr ysgol. Trwy gydol y dydd, roedd yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio ar ei waith yn y dosbarth. A phan ganodd y gloch ar ddiwedd y pnawn, fe redodd adref yn syth. Aeth ar ei union i’w ystafell wely a chodi’r glustog. Yno, yn wir, wedi’u lapio yn y darn papur yr oedd wedi’i adael yno yn y bore yr oedd tri darn punt ac un darn deg ceiniog. ‘Waw!’ meddai Edward wrtho’i hun, ‘Rydw i’n mynd i helpu mwy eto ar Mam yr wythnos yma.’
Ond, wrth iddo roi’r glustog yn ôl yn daclus yn ei lle, fe sylwodd ar ddarn arall o bapur wedi’i blygu’n daclus yn ymyl lle’r oedd ei fam wedi gadael yr arian. Agorodd y papur yn araf ac fe ddarllenodd fel hyn:
Newid dillad y gwely a’u golchi - dim byd
Eistedd efo ti drwy’r nos pan oeddet ti’n sâl - dim byd
Dy gysuro di bob tro yr oeddet ti wedi brifo neu’n anhapus - dim byd
Mynd â ti i chwarae pêl droed bob bore Sadwrn - dim byd
Dy helpu di pan oeddet ti’n methu gwneud dy waith cartref - dim byd
Dy fwydo di, gofalu am ddillad glân i ti, dy garu di a gofalu amdanat ti bob dydd am naw mlynedd - dim byd
Cyfanswm - dim byd
Roedd dagrau yn llygaid Edward erbyn iddo gyrraedd diwedd y rhestr. Doedd dim rhaid iddo ddarllen y llofnod ar y gwaelod. Roedd yn gwybod mai ei fam oedd wedi ei arwyddo - ‘Mam’. Yn sydyn, doedd yr arian ddim yn ymddangos yn bwysig, ac fe sylweddolodd mor anystyriol yr oedd wedi bod. Hwnnw oedd y bil olaf y byddai’n ei roi i’w fam, byth. Ac o hynny ymlaen roedd yn fwy awyddus nag erioed i helpu ei fam o gwmpas y ty heb feddwl am unrhyw wobr na thâl. Fe fyddai’n aml yn dweud rhywbeth fel, ‘Diolch Mam, roedd hwnna’n ginio da,’ neu ‘Ydych chi eisiau i mi eich helpu chi wneud rhywbeth?’
Wnaeth Mam ddim sôn wrth Edward am y nodyn yr oedd o wedi ei ysgrifennu, nac am y nodyn yr oedd hi wedi ei adael iddo fo, ond fe sylwodd hi pa mor feddylgar a diolchgar yr oedd Edward bob amser wedyn ar ôl hynny. - Holwch y plant sut maen nhw’n meddwl yr oedd Edward yn teimlo pan ddarllenodd y nodyn yr oedd ei fam wedi’i ysgrifennu?
Cymharwch gariad mam a chariad Iesu (gallech gyfeirio at bobl eraill neilltuol yma hefyd, os hoffech chi), wnaeth ddim cyfri’r gost – yn rhoi ei hun am ei fod yn llawn o gariad tuag at bobl eraill. - Trafodwch, a ddylai arian poced fod yn rhywbeth rydych chi’n ei haeddu neu yn rhywbeth y dylech chi ei gael beth bynnag.
Amser i feddwl
Meddyliwch am y bobl sy’n eich caru chi ac yn gofalu amdanoch chi – meddyliwch am yr holl bethau da y maen nhw’n eu gwneud i chi. Meddyliwch sut y gallech chi ddangos iddyn nhw faint ydych chi’n eu gwerthfawrogi.
Gweddi
Arglwydd Dduw, rydyn ni’n diolch i ti am ein rhieni ac am bawb sy’n gofalu amdanom ni.
Helpa ni i fod yn ddiolchgar a gwerthfawrogi’r holl bethau maen nhw’n eu gwneud.
Weithiau, fyddwn ni ddim yn meddwl, ac fe allwn ni frifo eu teimladau –
maddau i ni pan fyddwn ni’n gwneud hynny,
a helpa ni i fod yn garedig ac yn ofalgar.
Gad i ni fod yn barod i ddweud diolch pan fyddwn ni’n gwybod eu bod wedi bod yn garedig wrthym ni.