Caethwasiaeth Fodern
Deall beth yw caethwasiaeth a sylweddoli ei fod yn rhywbeth sy’n parhau i ddigwydd.
gan Jude Scrutton
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Deall beth yw caethwasiaeth a sylweddoli ei fod yn rhywbeth sy’n parhau i ddigwydd.
Paratoad a Deunyddiau
- Paratowch grwp o blant Blwyddyn 6 ar gyfer rhan gyntaf y gwasanaeth (y cyflwyniad).
- ‘Cadwyni’ - fe allwch chi brynu rhai metel, neu fe allech chi ddefnyddio cadwyni papur fel symbol.
Gwasanaeth
- Cyn gynted ag y bydd pawb wedi eistedd, bydd yr athro neu’r athrawes yn ymddwyn mewn modd awdurdodol ac yn cipio rhai disgyblion Blwyddyn 6 o’r cefn, eu cadwyno a’u harwain i’r tu blaen.
- Dywedwch wrth y gynulleidfa eu bod mewn marchnad lle mae modd iddyn nhw brynu pobl.
Gofynnwch iddyn nhw pa dasgau y mae’n rhaid iddyn nhw eu gwneud gartref, neu pa dasgau mae eu rhieni’n casáu eu gwneud gartref.
Dywedwch wrthyn nhw bod modd iddyn nhw brynu’r plant sydd wedi eu cadwyno a mynd â nhw adref i fod yn weithwyr ty iddyn nhw. Dywedwch wrthyn nhw am beidio â phryderu os bydd rhai o’r plant yn ceisio dianc oherwydd eich bod wedi cymryd eu pasbort oddi arnyn nhw ac felly fyddan nhw ddim yn gallu mynd ymhell iawn.
Hefyd, dywedwch wrth y gynulleidfa na fydd y rhai y maen nhw’n eu prynu’n gallu mynd yn ôl i’w cartrefi eu hunain, a phe bydden nhw’n ceisio dianc, fe fydden ni’n gwneud drwg i’w teuluoedd.
Nawr, gofynnwch iddyn nhw a ydyn nhw’n dal i fod yn awyddus i brynu gweithiwr ty. - Gofynnwch i’r plant am air arall, neu air mwy priodol i’w ddefnyddio am y math hwn o weithiwr. Cyfeiriwch nhw i feddwl am gaethwasiaeth a sut y mae hyn yn wahanol i gyflogi glanhawr, un i wneud y smwddio, glanhawr ffenestri neu arddwr. Gofynnwch i’r plant restru’r gwahaniaethau.
- Trafodwch beth mae caethwasiaeth yn ei olygu:
(a) (mewn Cyfraith) y cyflwr neu’r sefyllfa o fod yn gaethwas; perthynas sifil ble mae un person â grym absoliwt dros berson arall ac yn rheoli ei fywyd, ei ryddid a’i dynged;
(b) un person yn darostwng person arall, yn arbennig felly trwy ei orfodi i weithio;
(c) y cyflwr o fod yn wrthrych rhyw ddylanwad neu arferiad;
(ch) (yn nhermau Busnes/Perthnasedd mewn Diwydiant ac Adnoddau Dynol) gwaith a wneir mewn sefyllfaoedd anodd am gyflog isel. - Trafodwch sut yr oedden ni, fel gwladwriaeth, ymhlyg yn y Fasnach Gaethweision, a ddechreuodd yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Erbyn y ddeunawfed ganrif, roedd cipio Affricanwyr fel caethweision yn digwydd ym mhob man. Ond yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuodd pobl ymladd dros hawliau’r caethweision a’u rhyddid.
Pasiwyd deddfau yn gwahardd pobl rhag bod yn berchen ar gaethweision.
Fodd bynnag, mewn ffordd, mae’r arferiad yn parhau hyd heddiw, yn anghyfreithlon wrth gwrs. Mewn sawl gwlad sydd yng nghanol rhyfel, ymosodir ar bobl a’u gwerthu fel caethweision. Mae rhai yn gweithio mor agos atom â Llundain neu Fanceinion hyd yn oed.
Mae hyn yn hollol annerbyniol. Fel bodau dynol mae’n bwysig ein bod ni yn cynnal iawnderau sifil sylfaenol.
IAWNDERAU DYNOL SYLFAENOL:
Mae gan bob unigolyn yr hawl i gael ei drin yn barchus.
Mae gan bob unigolyn yr hawl i ddweud na heb orfod cynnig eglurhad a heb deimlo’n euog.
Mae gan bob unigolyn yr hawl i arafu a chael amser i feddwl.
Mae gan bob unigolyn yr hawl i newid ei feddwl.
Mae gan bob unigolyn yr hawl i ofyn am yr hyn y mae ef neu hi ei angen.
Mae gan bob unigolyn yr hawl i ofyn am wybodaeth.
Mae gan bob unigolyn yr hawl i wneud camgymeriadau.
Mae gan bob unigolyn yr hawl i wneud dewisiadau a derbyn canlyniadau’r dewisiadau hynny.
Mae gan bob unigolyn yr hawl i feddu ar ei deimladau ei hun, a’r hawl i’w mynegi.
Mae gan bob unigolyn yr hawl i ofyn am gymorth.
Mae gan bob unigolyn yr hawl i gynnal hunaniaeth sydd ar wahân ac yn annibynnol ar ddisgwyliadau, caniatâd, neu ddylanwad pobl eraill.
Amser i feddwl
Rydyn ni’n lwcus ein bod yn byw mewn gwlad sydd ddim yn cael ei rhwygo gan ryfel, ac fe allwn ni fod yn ddiolchgar am yr iawnderau dynol sy’n eiddo i ni. Er hynny, rhaid i ni beidio ag anghofio’r ffaith bod miloedd o bobl yn cael eu gwerthu i gaethwasiaeth fel rhan o gaethwasiaeth ddomestig a chaethwasiaeth ryngwladol.
Helpa ni i feddwl am y bobl sydd â’u bywyd yn cael ei reoli gan rywun arall.
Cân/cerddoriaeth
‘Redemption Song’ gan Bob Marley, mae’r gerddoriaeth ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y we.
Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2011 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.