Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Byd Hawddgar Ac Elmer-Gar : Gwasanaeth lliwgar

Sylwi pa mor lliwgar yw’r byd, a dathlu hynny.

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Sylwi pa mor lliwgar yw’r byd, a dathlu hynny.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â stori Elmer, gan David McKee (cyhoeddwyd gan Red Fox).
  • Llestr dal blodau neu fâs blaen gweddol fawr. Addurnwch y fâs gyda phatrwm ‘Elmer’ trwy ludio sgwariau mawr o bapurau gwahanol liwiau llachar drosti.
  • Casglwch neu prynwch amrywiaeth o flodau lliwgar. Ceisiwch gael tusw o flodau o liwiau cyferbyniol neu dewiswch nifer o flodau unigol gwahanol liwiau sydd i’w cael yn y siop flodau. Mae’n bosib i chi ddefnyddio blodau sydd i’w cael yn eu tymor hefyd. Fe allech chi gynnwys bambw troellog brown neu frigau helyg troellog er mwyn cael amrywiaeth.
  • Fe allech chi ymarfer gosod eich trefniant blodau o faen llaw, er mwyn gofalu bod y coesynnau o’r hyd priodol fel bod y blodau’n sefyll yn iawn yn y fâs. Fe allech chi osod darn o ‘Oasis’ neu rywbeth tebyg yng ngwaelod y fâs er mwyn cael rhywbeth ychwanegol i ddal y blodau yn eu lle.
  • Rhowch y blodau mewn bwced a’u cadw o’r golwg nes daw’n amser i’w dangos.
  • Gweithiwch ar fwrdd wedi’i orchuddio â lliain bwrdd lliwgar.

Gwasanaeth

  1. Gwahoddwch bawb i ddathlu a llawenhau am ein byd rhyfeddol, lliwgar. Eglurwch eich bod yn mynd i drefnu blodau mewn fâs – ond nid mewn unrhyw hen lestr dal blodau. Mae’r fas sydd gennych chi a’r trefniant blodau y byddwch chi’n ei greu wedi’i ysbrydoli gan y cymeriad lliwgar o lyfr stori i blant, cymeriad o’r enw Elmer. (Dewch â’r fâs i’r golwg er mwyn i bawb ei gweld.)

  2. Trefnwch eich blodau yn y fâs, un lliw ar y tro, gan sgwrsio â’r plant tra byddwch chi’n gwneud
    hynny. Gall eich sgwrs fod rhywbeth yn debyg i hyn:

    ‘Dyma eurflodau melyn hardd - chrysanthemums. Mae melyn yn gwneud i mi feddwl am dywod melyn glan y môr yn yr haf.

    Am beth mae’r lliw melyn yn gwneud i chi feddwl?’

    (O bosib, fe fydd yr ymateb yn cynnwys awgrymiadau fel yr haul braf, blodau fel dant y llew neu gennin Pedr hardd. Anogwch y plant i ddefnyddio gwahanol ansoddeiriau wrth ddisgrifio.)

    ‘Dyma flodyn gwyn y lili. Mae lliw gwyn yn gwneud i mi feddwl am . . . eira glân yn disgleirio.
    Am beth mae’r lliw gwyn yn gwneud i chi feddwl?’

    (Fe allai’r ymateb gynnwys: cymylau ysgafn, colomen fwyn.)

    Ewch ymlaen gydag enghreifftiau tebyg i’r canlynol:

blodyn porffor lelog - lilac, yn ein hatgoffa o rawnwin llawn sudd, a sebon persawrus;

glas (gellysgen – iris ), yn ein hatgoffa o’r awyr las yn yr haf a’r gwenoliaid yn hedfan yn gyflym, a’r môr dwfn hefyd;

pinc (carnations), fel y blodau cyntaf tlws ar y coed yn y gwanwyn, a gwefusau’n gwenu;

oren (calendula neu gerbera), sy’n danbaid fel yr haul yn machlud, neu deigr ffyrnig;

coch (rhosyn neu gerbera), lliw’r fuwch goch gota smotiog, neu afalau coch blasus;

gwyrdd (deiliach), sy’n rhoi cysgod rhag yr haul pan fydd hi’n boeth, neu laswellt hir;

ac mae lliw brown pren yn gwneud i ni feddwl am y ddaear dda y mae’r blodau wedi tyfu ohoni.

Wrth gyflwyno pob lliw, daliwch ati i holi, ‘Am beth mae’r lliw yma’n gwneud i chi feddwl?’
Er hynny, peidiwch ag oedi gormod gyda phob lliw. Cadwch eich cyflwyniad i fynd yn ei flaen yn gyson.

  1. Wedi i chi orffen gosod y blodau a thrafod, dewch i gasgliad bod y fâs yn awr yn llawn a’r trefniant cyfan yn lliwgar iawn. Yn wir, mae’n ‘Elmer-gar’ iawn. Gwahoddwch bawb i werthfawrogi mor lliwgar yw’r cyfanwaith.

  2. Eglurwch eich bod yn mynd i lenwi’r fâs â dwr wedyn a’i gadael yng nghyntedd yr ysgol (neu fan priodol arall) er mwyn i bawb gael gweld y trefniant lliwgar, ‘Elmer-gar’. Ac yn y dyddiau nesaf, fe fydd pawb yn sylwi ar y fâs a’r blodau wrth ei phasio, ac yn cofio ein bod yn byw mewn byd hyfryd, hawddgar, lliwgar ac ‘Elmer-gar’ iawn!

  3. Diweddwch trwy ddymuno diwrnod hawddgar, lliwgar ac ‘Elmer-gar’ i bawb.

Cân/cerddoriaeth

Gwahoddwch y plant i weddïo gyda’u llygaid ar agor, gan edrych ar y blodau.

Edrychwch ar y lliwiau llachar, a gweld sut maen nhw’n gweddu’n dda gyda’i gilydd.
Oni fyddai bywyd yn ddiflas pe byddai popeth yr un fath?
Gadewch i ni fod yn ddiolchgar!
Rydyn ni’n byw mewn byd mor hyfryd a hawddgar, mor lliwgar, ac mor ‘Elmer-gar’!

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon