Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Teimladau

Archwilio ein teimladau, ac yn enwedig meddwl am sut y gall ein teimladau effeithio ar bobl eraill.

gan Kirk Hayles

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio ein teimladau, ac yn enwedig meddwl am sut y gall ein teimladau effeithio ar bobl eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen darnau o gerdyn gyda geiriau’n ymwneud â theimladau wedi’u hysgrifennu arnyn nhw, e.e. ofnus, dig, hapus, trist, dryslyd, euog, cynhyrfus, balch, diflas.

Gwasanaeth

  1. Wrth i’r plant ddod i mewn i’r gwasanaeth, edrychwch yn hynod o ddig (eich breichiau wedi’u plethu, gwg ar eich wyneb, gan gerdded yn ôl ac ymlaen) ac (yn dibynnu ar eich cynulleidfa) meddyliwch am unrhyw beth welwch chi a allai fod yn destun dwrdio (heb gyfeirio at unrhyw unigolyn, fe allwch chi ddweud pethau fel: ‘cerddwch yn syth’, ‘peidiwch â siarad’, ‘eisteddwch yn smart’, ‘peidiwch â bod yn aflonydd’, ac ati.).

  2. Dywedwch wrth y plant eich bod yn teimlo’n ddrwg iawn eich hwyl heddiw, a bod rhywbeth pwysig, difrifol iawn, yr hoffech chi ei drafod gyda nhw (ar adeg fel yma, fel rheol, fe gewch chi ddistawrwydd llethol pryd y bydd y plant (a’r staff hefyd efallai, oni bai eich bod wedi’u rhybuddio o flaen llaw) yn teimlo’n bryderus ac yn methu meddwl beth sy’n eich poeni. Cewch chi benderfynu pa mor ddifrifol rydych chi eisiau bod yn eich cyflwyniad, yn ôl yr hyn sy’n briodol a beth bynnag sy’n gweddu i’ch personoliaeth chi.

  3. Yna, ymlaciwch gan ddod yn ôl i ymddwyn fel chi eich hun ar eich gorau, ac egluro i’r plant nad ydych chi’n ddig o gwbl mewn gwirionedd. Dim ond actio yr oeddech chi. Mae’n debyg y bydd pawb yn falch o glywed hynny! Gofynnwch i’r plant (ac i’r staff) sut roedden nhw’n teimlo. Roeddech chi wedi dweud wrthyn nhw eich bod chi’n teimlo’n ddig - sut roedd hynny’n gwneud iddyn nhw deimlo - teimlo’n bryderus neu’n ofnus? Sut maen nhw’n teimlo erbyn hyn - teimlo rhyddhad, neu deimlo’n hapusach?

    Pwysleisiwch yr hyn rydych chi’n ceisio’i gyfleu, sef bod eich teimladau chi’n gallu effeithio ar bobl eraill - yn gadarnhaol yn ogystal ag yn negyddol.

  4. Gall plant neu oedolion gymryd rhan yn y gweithgaredd nesaf. (Yn aml, fe fydd y plant yn hoffi gweld yr oedolion yn actio.) Gofynnwch i wirfoddolwyr ddewis cerdyn ac actio’r teimlad sydd wedi’i nodi arno, a gwneud hynny heb siarad na gwneud unrhyw swn. Bydd y gynulleidfa wedyn, wrth wylio iaith corff neu wyneb y gwirfoddolwr, neu ei symudiadau, yn cael dyfalu beth yw’r teimlad.

  5. Efallai y bydd gennych chi stori bersonol am un o’r teimladau a nodwyd, y gallech chi ei rhannu â’r gynulleidfa.

  6. Eglurwch fod y teimladau amrywiol rhain yn dod i’n rhan ni i gyd yn eu tro - ond nid yw hynny’n golygu ein bod yn bobl felly bob amser - yn enwedig yn achos y teimladau negyddol. Dydyn ni ddim yn bobl ddig neu’n bobl drist trwy’r amser, dim ond ein bod yn gallu teimlo felly weithiau. Os ydyn ni’n gallu cydnabod hynny, dyna’r cam cyntaf tuag at allu rheoli ein teimladau’n fwy effeithiol.

Amser i feddwl

Atgoffwch y gynulleidfa am sut roedden nhw’n teimlo pan oeddech chi’n ‘ddig’ ar ddechrau’r gwasanaeth, ac fel roedden nhw’n teimlo’n well wedyn pan wnaethon nhw sylweddoli nad oeddech chi, o ddifrif, yn ddig. Gofynnwch i’r plant ystyried sut y gall eu teimladau effeithio ar y rhai sydd o’u cwmpas, a sut y gall teimladau cadarnhaol effeithio’n gadarnhaol ar y rhai sy’n agos atyn nhw.

Gweddi

Annwyl Dduw,

Helpa ni i gydnabod sut rydyn ni’n teimlo, ac i ofyn am help
pan fyddwn ni’n gweld bod ein teimladau’n mynd yn drech na ni.
Helpa ni i sylweddoli hyd yn oed os byddwn ni’n meddwl ein bod ni’n unig gyda’n emosiynau,
fe allwn ni bob amser droi atat ti.

 

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon