Dim Ond Tamaid Bach
Dangos bod angen bod yn feddylgar, a bod angen i ni reoli ein teimladau weithiau a gwrthsefyll temtasiwn.
gan The Revd Alan M. Barker
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Dangos bod angen bod yn feddylgar, a bod angen i ni reoli ein teimladau weithiau a gwrthsefyll temtasiwn.
Paratoad a Deunyddiau
- Baguette hir, ffres.
- Archwaeth dda!
Gwasanaeth
- Dangoswch y baguette. Dywedwch wrth y plant bod arogl da ar y bara. Awgrymwch eich bod y credu y byddai’n iawn i chi fwyta darn bach o’r bara – ‘dim ond tamaid bach’. Profwch damaid bach – hyfryd! Dywedwch wedyn eich bod yn blysio darn bach arall hefyd– ‘dim ond tamaid bach’. Ond, na, rydych chi am wrthsefyll y demtasiwn, oherwydd efallai na fyddech chi’n gwybod pa bryd i stopio pe byddech chi’n bwyta rhagor! Eglurwch mai ‘gwybod pryd i stopio’ yw thema’r gwasanaeth heddiw.
- Holwch pwy sy’n mwynhau bwyta bara, a galwch ar wyth o blant i ddod i’ch helpu (i fod yn chwaer, tri ffrind a phedair hwyaden).
- Adroddwch ac actiwch y stori fel a ganlyn. Wrth i’r stori fynd yn ei blaen, torrwch ddarnau o’r bara yn y mannau priodol i’w rhannu gyda’r cymeriadau eraill - ‘dim ond tamaid bach’!
Roedd bol Liam yn dweud wrtho ei bod hi’n amser bwyd. Roedd ei fan yn paratoi spaghetti bolognaise. Spaghetti bolognaise oedd hoff fwyd Liam.
‘Ydyn ni’n cael bara ffres i’w fwyta hefyd?’ holodd i’w fam. Ond roedd ei fam wedi anghofio prynu’r bara yr oedd Liam yn ei hoffi. Doedd y siop ddim ymhell o’u cartref, dim ond ar draws y parc, ac fe fyddai Liam a’i chwaer, Anna, yn cael mynd i’r siop yn aml i brynu pethau y byddai eu mam eu hangen. Felly, y diwrnod hwnnw, fe aeth y ddau i’r siop i brynu bara ffres.
Fe wnaethon nhw dalu am y bara a chychwyn cerdded yn ôl adref. Roedd y baguette yn ffres ac yn dal yn gynnes, newydd ddod o’r popty.
‘M... m... m,’ meddai Liam, ‘mae arogl bendigedig ar y baguette yma. Beth am i ni fwyta darn bach? Dim ond tamaid bach! Fydd dim gwahaniaeth gan Mam.’ Rhwygodd y ddau damaid bach bob un. Roedd yn flasus iawn. Sylweddolodd Liam pa mor llwglyd yr oedd. ‘O, fe hoffwn i gael tamaid bach arall,’ meddai, ‘ dim ond tamaid bach arall. Hoffet ti Anna?’ Eisteddodd y ddau ar y fainc yn y parc a bwyta darn arall bob un. Roedd y ddau wrth eu bodd.
Daeth tri ffrind atyn nhw, Jordan, Ashleigh ac Alaw.
‘Mae’r bara yna’n edrych yn flasus, meddai Alaw. ‘Allen ni gael tamaid bach?’
‘Wel . . . ’ (meddyliodd Liam am foment). ‘Cewch . . . wrth gwrs . . . ond ‘dim ond tamaid bach’!
Roedd y llwybr trwy’r parc yn mynd heibio’r llyn lle’r oedd rhagor o ffrindiau llwglyd. Sylwodd nifer o hwyaid ar y bag yr oedd Liam yn ei gario. Fe ddaethon nhw allan o’r llun a rhedeg atyn nhw ar draws y glaswellt gan gwacian yn gynddeiriog.
‘O bechod!’ chwarddodd Anna. ‘Liam, gad i ni roi ychydig o fara iddyn nhw. Tyrd ag ychydig bach i mi - ‘dim ond tamaid bach’. Gyda'i gilydd, fe wnaethon nhw fwydo’u hunain a’r hwyaid! (Er, dim ond tamaid bach.)
Gallwch ddychmygu beth ddigwyddodd wedyn. Pan gyrhaeddodd Liam ac Anna adref, doedd dim llawer o’r baguette ar ôl! Roedd eu mam yn dwrdio rhywfaint, er, dim ond tamaid bach. Ac roedd Liam yn teimlo’n drist, nid oherwydd bod ei fam wedi dwrdio ond am ei fod yn teimlo’n llawn a doedd dim llawer o awydd bwyd arno wedyn. Roedd yn methu mwynhau ei hoff bryd bwyd ... wel, wel! - Gwahoddwch gymuned yr ysgol i feddwl am y stori. Beth oedd wedi arwain Liam ac Anna i fwyta cymaint o’r bara? Canolbwyntiwch ar y geiriau: ‘dim ond tamaid bach’. Roedd Liam yn meddwl na fyddai ‘dim ond tamaid bach’ yn gwneud llawer o wahaniaeth. Ond, damaid bach ar ôl tamaid bach roedden nhw wedi bwyta mwy a mwy o’r bara!
- Dewch i gasgliad trwy ystyried pa mor bwysig yw meddwl am ganlyniadau ein gweithredoedd. Gall camgymeriadau bach fynd yn gamgymeriadau mawr os byddwn ni’n meddwl nad ydyn nhw’n bwysig iawn. Dyma enghreifftiau eraill y gallech chi eu hystyried:
– Gall llawer o gamgymeriadau effeithio’n fawr ar ansawdd darn o waith.
– Dydi rhywun yn galw enwau dro ar ôl tro ddim yn rhywbeth bach dibwys, mae’n arwydd pendant o fwlio.
– Gall dwyn pethau bach arwain at drwbl mawr. - Mae’n bosib i ysgolion eglwys gysylltu’r thema hon â stori’r Garawys am Iesu yn yr anialwch. Roedd Iesu yn newynu ac fe gafodd ei demtio i droi cerrig yn fara. Efallai bod hyn yn ymddangos yn beth bychan, ond roedd Iesu’n sylweddoli y byddai hynny’n fradychiad enfawr o’r ymddiriedaeth a oedd wedi cael ei rhoi arno.
Amser i feddwl
Fe allech chi seilio’ch ‘Amser i feddwl’ ar y weddi ganlynol:
Gweddi
Dduw cariadus,
Weithiau fe fyddwn ni’n meddwl bod dewisiadau bach yn bethau dibwys.
Ond, mewn gwirionedd fe allen nhw olygu llawer.
Pan fyddwn ni’n dweud wrthym ein hunain: ‘O! Dim ond rhywbeth bach yw hyn,’
helpa ni i gofio bod pethau bach yn gallu adio at ei gilydd a throi yn rhywbeth mawr.
Mae hapusrwydd yn aml yn dibynnu ar dipyn bach o ofal
– a thipyn bach o feddwl.
Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2011 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.