Pwy Sy'n Dweud Y Gwir?
Ystyried y niwed y mae’n bosib ei achosi trwy ddweud celwyddau.
gan The Revd Alan M. Barker
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Ystyried y niwed y mae’n bosib ei achosi trwy ddweud celwyddau.
Paratoad a Deunyddiau
- Paratowch gardiau ar gyfer chwarae gêm debyg i ‘Call My Bluff’, lle mae’r chwaraewyr yn gorfod dyfalu pa ddatganiad sy’n wir a pha un sydd ddim yn wir: un cerdyn gyda’r gair ‘QUILLON’ wedi’i argraffu arno; a chardiau eraill gyda’r geiriau ‘GWIR ac ‘ANWIR’ arnyn nhw.
- Hefyd, paratowch gopïau a’r sgript ganlynol [Rhif 1 (a), (b) a (c)] i dri o’ch cydweithwyr i’w defnyddio yn ystod y gêm.
Gwasanaeth
- Atgoffwch y plant sut mae chwarae’r gêm ‘Pwy sy’n dweud y gwir?’ (Call My Bluff). Eglurwch y bydd tri unigolyn yn cymryd eu tro i egluro ystyr gair anghyfarwydd. Mae un o’r ystyron yn wir, ond anwir yw’r ddau arall sy’n esboniadau dychmygol, neu ‘bluff’. Rhaid i’r gynulleidfa ddyfalu pa rai o’r esboniadau sydd ddim yn wir a nodi pa un sydd yn wir.
Heddiw, rydych chi gyda help tri gwirfoddolwr yn mynd i gyflwyno’r gair ‘QUILLON’, ac rydych chi’n mynd i wahodd pawb i wrando ar gynigion y tri sydd ar y panel ac a fydd yn awgrymu ystyron posib i’r gair.
(a) Fe allwch chi fwyta QUILLON. Math o ffrwyth ydyw, ffrwyth meddal, melys. Mae’r ffrwythau’n edrych fel mefus mawr llyfn. Oherwydd ei fod yn ffrwyth mor feddal dim ond am ddiwrnod neu ddau y mae’n para, a dyna pam nad yw’n cael ei fewnforio i’r wlad yma. Byddai wedi mynd yn ddrwg cyn cyrraedd pen y daith. Ond os ydych chi wedi bod mewn gwledydd fel Hawaii mae’n bosib y byddwch chi wedi profi’r ffrwyth blasus, QUILLON.
(b) Rhan o gleddyf yw QUILLON. Meddyliwch am siâp cleddyf, yn union uwchben y dwrn, sef y rhan rydych chi’n gafael ynddo, mae rhan groes i warchod eich llaw - rhag iddi gael ei thorri i ffwrdd wrth i chi ymladd! Beth yw’r gair i ddisgrifio’r rhan groes hon o’r cleddyf? QUILLON. Weithiau, fe fyddai pobl gyfoethog yn addurno’r QUILLON â gemau gwerthfawr.(c) Enw ar ddarn arian Rhufeinig yw QUILLON. Roedd y Rhufeiniaid wedi dechrau defnyddio gwahanol ddarnau crwn o fetel, fel arian i dalu am bethau. Y dyddiau hyn rydyn ni’n cyfrif ein harian fesul ceiniogau a phunnoedd. Pe bydden ni’n byw yn nyddiau’r Ymerodraeth Rufeinig ers talwm, fe fydden ni’n cyfrif ein harian fesul quadrons, quinare, a quillons. (Roedd pump quinare mewn quillon.)
Gofynnwch i gymuned yr ysgol ddyfalu, penderfynu a dangos wedyn trwy godi eu dwylo, pwy maen nhw’n feddwl sy’n dweud y gwir.
(Ateb: (b) Rhan o gleddyf yw QUILLON.) Gwahoddwch y rhai sydd ar eich panel i ddatgelu’r ateb trwy ddangos cerdyn ‘GWIR neu ‘ANWIR’. - Soniwch fel mae genau o’r fath yn hwyl. Ond, mewn bywyd go iawn dydi o ddim yn hwyl tybio a yw rhywun yn dweud y gwir ai peidio. Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod pam? Cyflwynwch yr enghraifft ganlynol i’r gynulleidfa:
Un diwrnod, yn yr ysgol, mae rhywun wedi bod yn ddiofal ac wedi sathru rhai o’r planhigion blodau yr oedd plant Blwyddyn 6 wedi’u plannu. Pan fydd pennaeth yr ysgol yn holi grwp o blant pwy sydd wedi difrodi’r planhigion, does neb yn cyfaddef. Ymhen sbel, mae un bachgen o’r enw Liam yn dweud: ‘Dyna sut roedd y planhigion pan aethon ni allan i chwarae.’ Ac mae bachgen arall o’r enw Sam yn ychwanegu: ‘Rhai o blant Blwyddyn 1 wnaeth sathru’r blodau.’ Ond, wedyn, mae merch o’r enw Gemma’n dweud yn dawel: ‘Na! Liam wnaeth wthio Sam oddi ar y llwybr i’r ardd.’ - Trafodwch ac archwiliwch y senario yma. Sut bydd y pennaeth yn ymateb? Pwy sy’n dweud y gwir a phwy sy’n dweud anwiredd? Mae’n ymddangos bod Liam a Sam yn ceisio gwneud esgusion, ac mae peryg i blant eraill (plant Blwyddyn 1) gael y bai am rywbeth na wnaethon nhw. Dydy Gemma ddim eisiau ‘cario clecs’, ond ar y llaw arall, dydi hi ddim eisiau i’w chwaer sydd ym Mlwyddyn 1 fod yn anhapus.
Mewn Ysgol Eglwys, efallai yr hoffech chi gyfeirio at sut y mae’r Deg Gorchymyn (Rheolau’r Beibl ar sut i fyw) yn pwysleisio’r angen i ddweud y gwir:
‘Na ddwg gamdystiolaeth yn derbyn dy gymydog.’ (Exodus 20.16) - Dangoswch y cardiau ‘GWIR ac ‘ANWIR’ a ddefnyddiwyd yn y gêm. Mae hyn yn ein hatgoffa o dri pheth pwysig:
– Mewn bywyd go iawn, dydi llunio esboniadau anwir ddim yn gêm!
– Pan fydd rhywun yn dweud anwiredd, mae’n gwneud pobl eraill yn anhapus ac mae’n difetha cyfeillgarwch.
– Wrth i chi ddweud y gwir mae pobl yn gwybod y byddan nhw’n gallu eich trystio.
Amser i feddwl
Gweddi
Arglwydd Dduw,
helpa ni i wybod y gwir,
ac i siarad y gwir,
heddiw a phob amser.