Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rydych Chi'n Unigryw

Atgoffa’r plant pa mor arbennig ydyn nhw am eu bod yn unigryw, a’u herio i wneud i rywun arall deimlo’n arbennig heddiw.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Atgoffa’r plant pa mor arbennig ydyn nhw am eu bod yn unigryw, a’u herio i wneud i rywun arall deimlo’n arbennig heddiw.

Paratoad a Deunyddiau

Dim gwaith paratoi deunyddiau.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant sefyll i gyd.

    Nawr, fe hoffwn i bawb sydd â gwallt golau eistedd, os gwelwch yn dda. (Rhowch amser i’r plant eistedd rhwng pob un o’r cyfarwyddiadau.)
    Eisteddwch os oes gennych chi wallt cyrliog.
    Eisteddwch os ydych chi’n gwisgo sbectol.
    Eisteddwch os oes gennych frychni haul.
    Eisteddwch os oes gennych chi lygaid brown.
    Eisteddwch os ydych chi wedi colli dant, neu ddannedd.
    Eisteddwch os ydych chi’n fachgen.

    (Daliwch ati gyda’r math yma o nodweddion nes bydd gennych chi un plentyn ar ôl yn sefyll. Gwahoddwch  y plentyn hwnnw ymlaen atoch chi a chyhoeddi ei enw neu ei henw.)

  2. Dyma (enw). Mae hi’n rhywun arbennig iawn. Dyma’r unig un a oedd yn dal i sefyll wedi imi alw’r holl gyfarwyddiadau.

    Mae hynny’n golygu does dim plentyn arall yn yr ystafell sy’n unon yr un fath â hi.

    A’r hyn sy’n fwy rhyfeddol yw does dim plentyn arall yn yr ysgol gyfan sy’n unon yr un fath â hi.

    Yn wir, fe allech chi deithio’r byd, a fyddech chi ddim yn gallu dod o hyd i ferch arall yn union yr un fath â hi trwy’r byd i gyd. Mae hynny’n anhygoel!

    Ac o’r dechrau un, pan ddechreuodd pobl gerdded ar wyneb y ddaear, trwy’r holl oesoedd, does neb arall wedi’i chreu yn union yr un fath â hi. A fydd neb byth ychwaith.

    Dim ond un ohoni hi sydd. Mae hi’n unigryw. Ac mae hynny’n ei gwneud hi’n arbennig iawn, iawn. (Diolchwch i’r ferch, a’i hanfon yn ôl i’w lle i eistedd.)

  3. A, wyddoch chi rywbeth arall? Mae hyn yn wir am bob un ohonoch chi. Mae pob un ohonoch chi’n hollol unigryw. Dim ond un ohonoch chi sy’n bod, a dim ond un ohonoch chi a fydd, byth. Onid yw hynny’n gwneud i chi deimlo’n sbesial?

    Efallai dydych chi ddim yn teimlo’n hardd.
    Efallai dydych chi ddim yn teimlo’n arbennig.
    Efallai dydych chi ddim yn teimlo’n rhyfeddol.
    Ond rydych chi, yn wir.

    Rydych chi’n arbennig.
    Does neb yn union fel chi.
    Rydych chi’n unigryw.
    Dim ond un ohonoch chi sy’n bod.

    Does gan neb arall olion bysedd yn union fel chi.
    Does gan neb arall batrwm brychni haul yn union fel chi.
    Does gan neb arall yr un dannedd yn union â chi.
    Does gan neb arall yr un cymeriad yn union â chi.

    Rydych chi’n arbennig.
    Does neb yn union fel chi.
    Rydych chi’n unigryw.
    Dim ond un ohonoch chi sy’n bod.

    Does neb arall yn gallu chwerthin eich chwerthiniad chi.
    Does neb arall yn gallu edrych eich edrychiad chi.
    Does neb arall yn gallu crio eich dagrau chi.
    Does neb arall yn gallu gwenu eich gwên chi.

    Rydych chi’n arbennig.
    Does neb yn union fel chi.
    Rydych chi’n unigryw.
    Dim ond un ohonoch chi sy’n bod.

  4. Yn anffodus, fe fyddwn ni weithiau’n teimlo’n drist. Rydyn ni’n teimlo yr hoffem ni fod yn rhywle arall, a dim eisiau bod yn ni ein hunain. Fe hoffem fod yn dalach, neu fe hoffem pe byddai ein gwallt yn lliw arall. Dydyn ni ddim yn hoffi ein brychni haul, neu fe fyddai’n dda gennym pe na bai’n rhaid i ni wisgo sbectol.

    Ar adegau fel hynny, mae’n dda i ni gael ein hatgoffa pa mor arbennig ydyn ni. Rwy’n gobeithio bod gennych chi unigolion yn eich bywyd sy’n gallu gwneud i chi deimlo’n arbennig, pobl sy’n eich annog, ac yn dweud wrthych chi eich bod chi’n ‘sbesial’.

    Efallai mai eich rhieni fydd yn gwneud hynny i chi, neu eich taid neu’ch nain.
    Efallai mai ffrind i chi fydd yn gwneud, neu gymydog.
    Eich hyfforddwr pêl-droed, efallai, neu athrawes ddawnsio,
    neu, efallai mai eich athro, athrawes, neu arweinydd cylch chwarae fydd yn gallu gwneud i chi deimlo’n arbennig.

    Treuliwch foment nawr yn meddwl am rywun sy’n gwneud i chi deimlo’n arbennig, a rhowch ddiolch yn eich calon am y rhywun hwnnw neu honno.

  5. Fe allwn ninnau wneud i bobl eraill deimlo’n arbennig. Fe allwn ni eu hatgoffa eu bod nhw’n unigryw hefyd. Fe allwn ni eu hannog nhw. Fe allwn ni ddewis gwneud iddyn nhw hefyd deimlo’n dda amdanyn nhw’u hunain, am eu bod yn union fel y maen nhw.

    Efallai mai eich rhieni fyddan nhw, neu eich taid neu’ch nain.
    Efallai mai i ffrind y byddwch chi’n gwneud hynny, neu gymydog.
    Eich hyfforddwr pêl-droed, efallai, neu athrawes ddawnsio,
    neu, efallai y byddwch chi’n gallu gwneud i’ch athro, athrawes, neu arweinydd cylch deimlo’n arbennig.

    Treuliwch foment nawr yn meddwl am rywun y gallwch chi ei annog heddiw. Rhywun sy’n arbennig yn eich golwg chi, efallai. Chwiliwch am gyfle i ddweud wrth y person hwnnw sut rydych chi’n teimlo.

  6. Os byddwch chi wedi gallu addasu’r gân ‘One, two, three, it’s good to be me’ (gwelwch y manylion yn dilyn), fe allech chi gyd ganu hon yn llawn brwdfrydedd ac ystyr, oherwydd fel mae’r gân yn pwysleisio - mae’n wirioneddol dda bod yn fi.

Amser i feddwl

(Goleuwch gannwyll, ac yna gofynnwch i’r plant i gyd edrych o’u cwmpas yn dawel.)

Mae pawb rydych chi’n gallu ei weld yn unigryw.
Rydw i’n unigryw.
Rydych chi’n unigryw.
Rydyn ni i gyd yn unigryw
Rydyn ni i gyd yn arbennig.

Cân/cerddoriaeth

Efallai y gallech chi addasu’r geiriau i’r gân fach syml:

One, two, three, it’s good to be me’, edrychwch ar:

http://www.singup.org/songbank/song-bank/song-detail/view/172-good-to-be-me/

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon