50 Mlynedd Yn Ol Hanes Y Gofod
gan Gordon Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Ystyried hanes bywyd a chyflawniad y bod dynol cyntaf i fynd i’r gofod, a myfyrio ar wneud y gorau o bob cyfle.
Paratoad a Deunyddiau
Llwythwch i lawr ddelweddau o Yuri Gagarin a’r llong ofod Vostock 1 yn barod i’w harddangos. Dolenni a awgrymir:
http://www.spacefacts.de/more/cosmonauts/page/english/gagarin_yuri.htm
http://www.bing.com/images/search?q=photos+vostock+spacecraft&qpvt=photos+vostock+spacecraft&FORM=lGRE
Gwasanaeth
- Cyflwynwch y thema, ac eglurwch mai’r bod dynol cyntaf erioed i fynd i’r gofod oedd y cosmonot Sofietaidd, Yuri Gagarin, a hynny ar 12 Ebrill 1961, ychydig dros 50 mlynedd yn ôl.
Eglurwch y termau canlynol - ‘Sofiet’: ymerodraeth dan arweinid Rwsiaidd yn y ganrif ddiwethaf; a ‘cosmonot’: y gair Sofietaidd am ofodwr, neu rywun sy’n teithio i’r gofod. - Eglurwch, er bod Yuri Gagarin yn ddewr ac yn ymroddgar, roedd ganddo un nodwedd arall arbennig iawn yn perthyn iddo a fyddai’n ei gwneud hi’n bosib iddo ddringo i mewn i’r llong ofod Vostock 1 i gylchdroi o amgylch y ddaear am y tro cyntaf erioed. Gofynnwch i’r plant ddyfalu beth oedd y nodwedd arbennig honno.
(Gwerthfawrogwch bob awgrym, fel gallu gwyddonol neu beirianyddol, dawn athletaidd neu ffitrwydd corfforol ac ati. Ond peidiwch â sôn ar hyn o bryd mai’r ateb rydych chi’n chwilio amdano yw bod Yuri Gagarin yn ddyn byr ac yn ddigon bach i ffitio mewn i’r Vostock - cadwch y wybodaeth honno tan yn nes ymlaen yn y gwasanaeth, hyd yn oed os bydd rhywun yn awgrymu hynny wrthych chi!) - Cafodd Yuri Gagarin ei eni ar 9 Mawrth 1934, mewn pentref bach yn Rwsia. Gweithio ar fferm yr oedd ei rieni. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddiannwyd eu pentref gan fyddin Hitler, a phan aeth y milwyr Almaenig oddi yno fe wnaethon nhw daflu’r bobl allan o’u cartrefi. Bu raid i deulu Gagarin dyllu lloches iddyn nhw’u hunain yn y ddaear i oroesi gaeaf oer a chaled Rwsia. Dim ond wyth oed oedd Yuri bryd hynny.
- Ar ôl dechrau ofnadwy fel hwn i’w fywyd, fe ddechreuodd pethau wella i Yuri Gagarin, a oedd wrth ei fodd gydag awyrennau a’r syniad o hedfan. Yn 1950, pan oedd yn ddim ond 16 oed, anfonwyd ef i ffatri ym Moscow i ddysgu sut i gynhyrchu dur. Fe wnaeth argraff ar y penaethiaid yno, ac fe roddwyd cyfle iddo gael hyfforddiant gyda thechnegau arbennig. Ymunodd ag ‘AeroClub’ y ffatri a dysgodd hedfan awyrennau, ac ar ôl hynny cafodd ei ddewis yn beilot i hedfan jetiau milwrol y Llu Awyr Sofietaidd.
- Un diwrnod, fe ddaeth ymwelwyr dieithr i’r man lle roedd Yuri’n gweithio yn chwilio am beilotiaid i wneud gwaith, a oedd yn gwbl gyfrinachol. Fe wirfoddolodd sawl un – beth bynnag oedd y gwaith roedd yn ymddangos yn gyffrous iawn – ond roedd y profion mor anodd roedd llawer o’r peilotiaid yn methu. Ond nid Yuri! Fe basiodd Yuri yr holl brofion, ac roedd wrth ei fodd pan ddeallodd ei fod wedi cael ei ddewis i fod yn gosmonot – a chael cyfle efallai i deithio i’r gofod.
- Eglurwch fod teithio i’r gofod yn dasg beryglus iawn. Mae tanwydd roced yn llosgi ar dymheredd uchel iawn, ac fe allai’r camgymeriad lleiaf achosi ffrwydradau enfawr. Ar ben hynny, roedd anawsterau ynghylch cadw person yn fyw mewn gwactod yn y gofod. Yn 1961, roedd technoleg yn gyntefig iawn o’i gymharu â safonau heddiw; doedd dim cyfrifiaduron ar y llong ofod, a doedd gwyddonwyr ddim hyd yn oed yn gwybod a allai bod dynol oroesi taith i’r gofod!
Dewiswyd ugain o beilotiaid, ac un ohonyn nhw fyddai’r person cyntaf erioed i adael y Ddaear a hedfan i’r gofod - pwy fyddai’r un hwnnw? - Roedd Yuri’n ymgeisydd perffaith mewn sawl ffordd: roedd yn hwyliog ac yn gallu delio â pheryglon, roedd yn beilot da iawn, ac roedd yn deall egwyddorion hedfan yn y gofod yn dda. Ond roedd un nodwedd arall yn perthyn i Yuri Gagarin: roedd yn ddyn byr! Roedd hynny’n golygu ei fod yn un o ddau beilot a oedd yn ddigon bychan o gorffolaeth i ffitio i mewn i’r llong ofod fach, y Vostock 1. Ac roedd yn ddyn gweddol ysgafn hefyd - ac mae pob cilogram yn cyfrif wrth i chi geisio troi o gwmpas y Ddaear!
- Felly, wedi’i wasgu i mewn i’r capsiwl bychan, ar ben roced bwerus, taniwyd Yuri Gagarin i’r gofod. Fe gylchynodd y Ddaear mewn ychydig dan ddwy awr – y person cyntaf erioed i wneud hynny, yr un a oedd wedi teithio gyflymaf erioed, ac a oedd wedi teithio bellaf erioed, ac wrth gwrs y person cyntaf erioed i adael y Ddaear a mynd i’r gofod.
Amser i feddwl
Roedd Yuri Gagarin yn ddyn dewr iawn.
Roedd yn weithiwr caled.
Roedd yn ymroddedig i gyrraedd ei nod.
ac roedd yn ddyn byr!
Pan oedd Yuri yn fachgen, mae’n debyg nad oedd yn hoffi bod yn llai o faint na phlant eraill o’r un oed. Ond, hynny oedd un o’r nodweddion a’i helpodd i gael ei ddewis i fod y person cyntaf i deithio yn y gofod.
Byddwch yn falch o fod yr un ydych chi, a sut rydych chi.
Does neb ohonom yn gwybod pa gyfleoedd all ddod i ni yn y dyfodol.
Ond, mae’n rhaid i ni fod yn barod i fanteisio ar gyfleoedd pan fyddan nhw’n dod i ni -
Fel y gwnaeth Yuri Gagarin hanner can mlynedd yn ôl.