Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pethau'n Dod Mewn Trioedd

Egluro’r gred Gristnogol am y Drindod a’r Pentecost.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Egluro’r gred Gristnogol am y Drindod a’r Pentecost.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y lluniau sydd gennych chi i’r plant, a holwch beth yw’r cysylltiad rhyngddyn nhw. Y cysylltiad yw’r rhif tri. Triongl: tair ochr a thair ongl; treisicl: tair olwyn; deilen meillionen: tair rhan i’r ddeilen; treipod: tair coes. (Fe allech chi ddefnyddio gwrthrychau go iawn yn hytrach na lluniau gwrthrychau, os hoffech chi.)

  2. Eglurwch fod rhai o’r geiriau’n dechrau gyda’r  elfen ‘tri’- sy’n amlygu bod rhywbeth am y gwrthrych sy’n ymwneud â’r rhif tri. Oes rhywun o’r plant yn gallu meddwl am eiriau eraill sy’n dechrau gyda’r un llythrennau, ac sy’n ymwneud â’r rhif tri ? Fe allech chi roi cliwiau iddyn nhw i’w helpu os nad ydyn nhw’n gallu ateb ar unwaith:

    - Pan fydd mam yn rhoi genedigaeth i dri babi bach ar yr un adeg, fe fyddan nhw’n cael eu galw’n . . . beth? (tripledi)
    - Pan fydd tair drama neu dair stori neu dair ffilm sy’n gysylltiedig â’i gilydd, fe fyddan nhw’n cael eu hadnabod fel . . . (trioleg, neu yn Saesneg trilogy).
    - Yn y Gemau Olympaidd, mae cystadleuaeth sy’n cynnwys tri gweithgaredd yn dilyn ei gilydd, er enghraifft nofio, beicio a rhedeg. Yr enw ar gystadleuaeth fel hon yw . . . (triathlon).
    - Wrth astudio onglau mewn triongl, y gweithgaredd y byddwch chi’n ei wneud yw . . . (trigonometreg, neu yn Saesneg trigonometry) - efallai y byddai’n well i chi holi rhai o’r oedolion am hwn!

  3. Fe fydd Cristnogion yn defnyddio gair yn dechrau gyda’r elfen ‘tri’ i ddisgrifio Duw. Oes rhywun yn gwybod beth yw’r gair hwnnw? Trindod yw’r gair, neu Y Drindod, ac mae’r Drindod yn bwysig iawn mewn dysgeidiaeth Gristnogol..

    Mae Cristnogion yn credu mai un Duw yn unig sydd, ond ei fod yn bodoli mewn tri pherson neu dair ffurf - Duw y Tad, Duw y Mab, a Duw yr Ysbryd Glân. Mae Cristnogion yn pwysleisio nad tri Duw ar wahân sy’n bod, ond Duw’n ymddangos mewn tair ffordd wahanol.

  4. Gofynnwch i rywun wirfoddoli i ddod atoch chi i’r tu blaen. (Gofalwch bod eich gwirfoddolwr yn chwaer i rywun arall sydd yn y gwasanaeth.) Eglurwch fod eich gwirfoddolwr yn ‘chwaer’ i’r plentyn arall. Gofynnwch i rywun ddod atoch chi i ddal y papur gyda’r gair ‘chwaer’ wedi’i ysgrifennu arno.

    Nawr, holwch y gynulleidfa pa berthynas yw eich gwirfoddolwr i’w mam. (Rydych chi’n chwilio am y gair ‘merch’.) Gofynnwch i rywun arall ddod atoch chi i ddal y papur gyda’r gair ‘merch’ wedi’i ysgrifennu arno’.

    Yna, gofynnwch i’ch gwirfoddolwr ddewis un ffrind, a gofynnwch i’r ffrind ddod atoch chi i ddal y papur gyda’r gair ‘ffrind’ wedi’i ysgrifennu arno.

    Eglurwch, felly, bod y gwirfoddolwr yn chwaer + merch + ffrind - mae hi’n rhywbeth gwahanol i wahanol bobl, ond dim ond un ohoni hi sy’n bod. Eglurwch wedyn mai rhywsut felly mae Cristnogion yn gweld Duw. Mae Duw yn Dad a Mab ac Ysbryd Glân. Mae’r tri yn un Duw, ond maen nhw’n arddangos gwahanol nodweddion.

  5. Ychydig cyn i Iesu fynd yn ei ôl i’r nefoedd, fe ddywedodd wrth ei ddisgyblion, ‘Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân’ (Mathew 28.19). Defnyddiodd Iesu’r gair ‘enw’, nid enwau’.

  6. Ar y noson cyn iddo farw, fe ddywedodd Iesu rywbeth diddorol am y Drindod. Fe ddywedodd wrth ei ddisgyblion y byddai’n mynd yn ei ôl i’r nefoedd ac y byddai’n gofyn i’w Dad anfon yr Ysbryd Glân i fyw y tu mewn i’w ddilynwyr. (Ioan 14.16).

    A phan aeth Iesu yn ei ôl i’r nefoedd, roedd ei ddisgyblion yn ofnus iawn, ac yn cuddio mewn ystafell wedi’i chloi. Yn sydyn, fe ddaeth swn gwynt nerthol. Ymddangosodd tafodau o dân ar ben pob disgybl, ac fe gawson nhw eu llenwi â’r Ysbryd Glân. Fe newidiodd bywydau’r disgyblion ar ôl y profiad yma. Yn union wedyn roedden nhw’n ddigon dewr i fynd allan i bregethu a dweud wrth bawb am Iesu. (Fe welwch yr hanes yn Llyfr yr Actau, pennod 2.1–6.)

  7. Yr enw y mae Cristnogion yn ei roi ar y diwrnod hwn yw’r ‘Pentecost’. Mae Cristnogion yn cofio ar Ddydd y Pentecost bod Duw y Tad wedi anfon yr Ysbryd Glân i fyw ym mywydau dilynwyr ei Fab, Iesu.

Amser i feddwl

Pan oedd Iesu ar y Ddaear, dim ond mewn un lle y gallai fod ar yr un pryd.
Ond nawr, mae Duw y Tad wedi anfon yr Ysbryd Glân  i fyw ynom ni.
Mae hynny’n golygu bod Duw gyda phob un ohonom ni, bob amser.
Cofiwch nad ydym ni byth yn hollol ar ben ein hunain am fod Duw gyda ni.

Gweddi  

Annwyl Dduw,
weithiau fe fyddwn ni’n cael pethau’n anodd eu deall,
ond rydyn ni’n diolch dy fod ti gyda ni bob amser.
Pan aeth Iesu yn ei ôl i’r nefoedd, diolch nad oedd ei ffrindiau wedi cael eu gadael ar ben eu hunain.
Diolch dy fod ti’n parhau i anfon yr Ysbryd Glân  i fyw ynom ni.
Helpa ni i fyw ein bywydau
mewn ffordd sy’n dangos dy fod ti gyda ni bob amser.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon