Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dweud Ffarwel: Gwasanaeth diwedd tymor

Meddwl am bethau’n dod i ben, a beth mae’n ei olygu i ddweud ffarwel.

gan Manon Ceridwen Parry

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1/2

Nodau / Amcanion

Meddwl am bethau’n dod i ben, a beth mae’n ei olygu i ddweud ffarwel.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch restr o wahanol ffyrdd o ddweud ffarwel mewn gwahanol ieithoedd (gwelwch rhif 3).

Gwasanaeth

  1. Eglurwch ei bod hi bron yn ddiwedd y tymor (neu’n ddiwedd blwyddyn ysgol) a’ch bod chi eisiau dweud ffarwel wrth rai o’r disgyblion.

  2. Soniwch y byddai’n ddiddorol sylwi ar wahanol ffyrdd o ddweud ffarwel mewn gwahanol ieithoedd.

    Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gallu dweud ffarwel mewn unrhyw iaith arall. Ailadroddwch bob gair ac annog pawb i’w hailadrodd gyda chi. (Dyma gyfle i ddathlu’r amrywiaeth o ddiwylliant/ieithoedd sydd yn yr ysgol.)

  3. Eglurwch fod ystyr gwahanol i ambell gyfarchiad ffarwelio, pe byddech chi’n eu cyfieithu’n llythrennol. (Dangoswch y rhestr geiriau ac egluro’u tarddiad.) Mae’r geiriau i gyd yn golygu ffarwel, ond mae ystyr ychydig yn wahanol i bob un.

    -  hwyl fawr                  Cymraeg            Llawer o hwyl
    -  good bye                    Saesneg             Duw fo gyda chi (God be with you)
    -  adios                          Sbaeneg             Rydych chi’n mynd at Dduw
    -  au revoir                     Ffrangeg            Nes byddwn ni’n cwrdd nesaf
    -  auf wiedersehen         Almaeneg          Nes byddwn ni’n gweld ein gilydd nesaf
    -  aloha                          iaith Hawaii    Cariad a heddwch (i ddweud helo a ta ta)
    -  ciao                            Eidaleg              Fi yw dy gaethwas. Fe fydda i yno i ti   (i ddweud helo a ta ta)
    -  shalom                        Hebraeg             Tangnefedd / heddwch

    Pwysleisiwch mor hyfryd yw dymuno ‘heddwch’ a ‘hwyl’ a ‘chariad’ i’r naill a’r llall wrth i ni wrth i ni ymadael â’n gilydd.

  4. Ond mae ffarwelio’n gallu bod yn anodd ambell dro, ac weithiau fe fyddwn ni’n dweud rhywbeth doniol er mwyn gwneud pethau’n haws. ‘Wela i di wedyn.’ . . . ‘Dim os bydda i wedi dy weld ti’n gyntaf!’

    Mae dywediad poblogaidd yn Saesneg , ‘See you later’. Ond pe byddwn i’n dweud, ‘See you later, alligator’, fyddech chi’n gwybod beth i’w ddweud fel ateb? Yr ateb yw, ‘In a while, crocodile’ (daw’r dywediad o gân boblogaidd a ryddhawyd yn 1955 gan Bill Haley and the Comets, wedi’i hysgrifennu gan Bobby Charles).

  5. Ond, hyd yn oed ar ôl clywed yr holl wahanol eiriau, mae un arall da yn Gymraeg rydw i’n hoff iawn ohono, dydw i ddim wedi sôn amdano, sef ‘Da bo chi’. Pam rydw i’n hoff o’r dywediad yma? Am mai’r ystyr yw ‘Duw fo gyda chi’, fel y Saesneg ‘Good bye’. A dyna beth yw fy nymuniad i chi dros y gwyliau sydd o’n blaenau ni -‘Duw fo gyda chi i gyd.’

Amser i feddwl

Gweddi
Rydyn ni’n diolch i ti, Dduw,
am yr holl ieithoedd mae pobl yn gallu eu siarad
ac rydyn ni wedi dysgu amdanyn nhw heddiw.
Helpa ni i ddangos heddwch a chariad tuag at ein gilydd.
Rydyn ni’n gweddïo y byddwn ni’n cael llawer o hwyl dros y gwyliau
ac y byddwn ni’n cofio, ble bynnag y byddwn ni,
dy fod ti yno gyda ni hefyd.

Cân/cerddoriaeth

Efallai yr hoffech chi lwytho i lawr y gân, ‘See you later, alligator’ gan Bill Haley and the Comets, i’w chwarae wrth i’r plant fynd allan o’r gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon