Cerfluniau Byw
Gwasanaeth diwedd blwyddyn ysgol i ffarwelio â rhai sy’n gadael yr ysgol
gan The Revd Alan M. Barker
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Dathlu llwyddiant unigolion a chydnabod bod pob person yn unigryw.
Paratoad a Deunyddiau
- Mae gwaith paratoi o flaen llaw angen ei wneud ar gyfer y gwasanaeth yma. Yn ddelfrydol, fe allai’r plant sy’n gadael yr ysgol wneud y gwaith paratoi. Paratowch bodiwm addas a gwahoddwch bob un sy’n gadael yr ysgol i sefyll yn ei dro mewn ystum hyderus a balch, (peidiwch ag anghofio arddangos enw’r unigolion fesul un ar y plinth) fel y gallwch chi dynnu lluniau digidol o bob un i’w defnyddio i wneud cyflwyniad PowerPoint o’r plant.
(Er mwyn cydymffurfio ag argymhellion diogelu, rhaid i chi ddileu’r delweddau yn dilyn y gwasanaeth.) - Gofynnwch i bob un o’r rhai sy’n ymadael ddisgrifio mewn llai na deg gair, naill ai un o’u llwyddiannau neu un o’u diddordebau yn ystod eu hamser yn yr ysgol.
- Cyfunwch y delweddau a’r datganiadau mewn cyflwyniad PowerPoint. Fe allai hynny fod yn brosiect diwedd tymor i’r rhai dan sylw.
- Dechreuwch y cyflwyniad gyda nifer o ffotograffau o gerfluniau lleol a/neu enwog. Fe allech chi ddiweddu’r gyfres gyda delwedd o’r cerflun enfawr enwog sydd i’w weld yn Rio de Janeiro, Crist y Gwaredwr, neu Christ the Redeemer. Ychwanegwch y geiriau: ‘Rhaid i’r un mwyaf ohonoch fod yn was i chwi’ (gwelwch Mathew 23.11).
Gwasanaeth
- Dangoswch y delweddau o’r cerfluniau lleol a/neu enwog. Pwy yw’r bobl sy’n cael eu coffáu? (Eglurwch y term ‘coffáu’.) Am beth roedden nhw’n cael eu cofio? Pa bryd y cawson nhw’u geni, a pha bryd y buon nhw farw? Pam y codwyd y cerfluniau?
Myfyriwch ar y ffaith bod cerfluniau’n cael eu llunio i anrhydedd pobl sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i’w gwlad neu i’w cymuned. Mae’r rhan fwyaf (ond nid pob un) yn darlunio pobl sydd wedi marw. Yn aml, fe fydd y cerfluniau wedi’u gwneud allan o fetel fel efydd. - Cyhoeddwch (yn frwdfrydig): ‘Heddiw, rydyn ni’n mynd i ganolbwyntio yn y gwasanaeth ar anrhydeddu’r rhai hynny sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i fywyd yr ysgol hon. Dyma rai cerfluniau byw y gwnewch chi eu hadnabod, ynghyd â’r rhesymau pam y maen nhw’n falch o fod wedi cael bod yn rhan o gymuned yr ysgol hon.’
Cyn i chi ddechrau’r cyflwyniad, trefnwch fod rhywun yn cyhoeddi enw pob un o’r ‘cerfluniau byw’ pan fydd eu lluniau’n ymddangos. Pan fydd 10 neu 12 o luniau wedi cael eu dangos, oedwch i’w cymeradwyo, a galwch ar y disgyblion rheini i ddod ymlaen a gwneud ‘ymddangosiad byw’. Fe allai hwn fod yn gyfle i chi gyflwyno tystysgrifau neu beth bynnag arall yr hoffech chi ei gyflwyno i’r plant ar eu hymadawiad.
Pan ddaw’r cyflwyniad i ben, myfyriwch ar amrywiaeth llwyddiannau a diddordebau’r ‘cerfluniau byw’. Mae pob un sy’n ymadael yn wahanol - mae pob un wedi bod yn aelod gwerthfawr o gymuned yr ysgol. Diolchwch i’r plant yma am yr amrywiol ffyrdd y maen nhw wedi cyfrannu tuag at fywyd yr ysgol. - Rhowch sylw i’r ffaith bod cerfluniau efydd yn aros yn llonydd, ond mae’r cerfluniau byw yn newid ac yn tyfu. Anogwch y rhai sy’n ymadael i edrych ymlaen yn gadarnhaol i’r dyfodol, a sylweddoli eu potensial. Dydi pawb ddim yn gallu bod yn enwog, ond fe all pawb helpu i wneud y byd yn lle gwell a hapusach.
- Dangoswch y ddelwedd olaf, a dewch i gasgliad trwy ofyn i’r plant ystyried un peth, sef bod Iesu’n dysgu i ni ystyr y gwir fawredd. Fe ddywedodd, ‘Rhaid i’r un mwyaf ohonoch fod yn was i chwi.’
Amser i feddwl
Addasiad o linellau o weddi Dag Hammarskjöld, cyn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
Am yr hyn oll sydd wedi bod – Diolch!
Am yr hyn oll a fydd – Ie!
Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2011 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.