Teimlad O Newid
Annog y plant i sylweddoli bod newidiadau o’n cwmpas yn gallu effeithio ar ein teimladau.
gan Rebecca Parkinson
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Annog y plant i sylweddoli bod newidiadau o’n cwmpas yn gallu effeithio ar ein teimladau.
Paratoad a Deunyddiau
- Dewisol: lluniau i gyd-fynd a’r golygfeydd sy’n cael eu disgrifio yn Rhan 1.
- Cardiau mawr gyda’r geiriau canlynol wedi’u hysgrifennu, un ar bob cerdyn - haf, hydref, gaeaf, gwanwyn.
Gwasanaeth
- Dywedwch wrth y plant eich bod yn mynd i ddisgrifio pedair golygfa. Eglurwch eich bod yn mynd i oedi ar wahanol adegau er mwyn gofyn iddyn nhw ddweud wrthych chi sut y bydden nhw’n teimlo yn y sefyllfa rydych chi’n ei disgrifio.
Golygfa 1 Rydych chi’n deffro’n gynnar un bore Sadwrn, ac mae ias oer yn yr awyr. Rydych chi’n swatio’n ddyfnach yn y gwely ac yn codi’r duvet dros eich clustiau. (Oedwch a gofynnwch i’r plant sut maen nhw’n teimlo.) Yn sydyn, rydych chi’n clywed rhywun yn gweiddi o’r ystafell arall, ‘Mae’n bwrw eira!’ Rydych chi’n neidio o’r gwely ac yn mynd at y ffenest. Y tu allan, mae’r ddaear yn glaer wyn ac mae plu eira mawr yn disgyn yn drwm o’r awyr. (Oedwch a gofynnwch i’r plant sut maen nhw’n teimlo.)
Rydych chi’n gwisgo amdanoch yn gyflym ac yn mynd allan o’r ty. Rydych chi’n chwarae yn yr eira trwy’r bore, yn gwneud dyn eira ac yn taflu peli eira gyda’ch ffrindiau. Amser cinio, rydych chi’n mynd i’r ty i gael bwyd. Mae bysedd eich dwylo a bodiau eich traed yn merwino wrth iddyn nhw gynhesu. Rydych chi’n cau eich dwylo o gwmpas cwpanaid o ddiod gynnes ac yn eistedd ar y soffa. Mae goleuadau’n disgleirio ar y goeden Nadolig a chardiau Nadolig yn hongian ar y waliau, ac mae anrhegion wedi’u lapio o dan y goeden. (Oedwch a gofynnwch i’r plant sut maen nhw’n teimlo.)Golygfa 2 Oherwydd bod y tywydd wedi cynhesu’n sydyn, rydych chi wedi cael mynd allan am dro gyda’ch teulu yn y car i fynd i rywle i gerdded. Dydych chi ddim yn hoff iawn o fynd ar deithiau cerdded, a doeddech chi ddim llawer o eisiau mynd. (Oedwch a gofynnwch i’r plant sut maen nhw’n teimlo.)
Wrth i chi gerdded drwy gefn gwlad, rydych chi’n edrych dros y ffens i’r cae ac rydych chi’n gweld wyn bach yn prancio ar fryncyn yn y cae. Rydych chi’n aros i’w gwylio am sbel ac rydych chi’n sylweddoli bod gwres yr haul yn gynnes ar eich cefn. Wrth i chi gerdded ymlaen, rydych chi’n sylwi fod blagur ar frigau’r coed a’r llwyni. Rydych chi’n edrych ar lawr, ac ar fôn y cloddiau, ac yn gweld bod egin yn ymddangos, planhigion yn tyfu a rhai blodau cynnar yn dechrau blodeuo. (Oedwch a gofynnwch i’r plant sut maen nhw’n teimlo.)Golygfa 3 Rydych chi’n paratoi i fynd ar eich gwyliau i lan y môr. (Oedwch a gofynnwch i’r plant sut maen nhw’n teimlo.)
Fe ddylai’r daith yno gymryd tua dwy awr, ond ar ôl hanner awr o deithio rydych chi’n cael eich dal mewn tagfa drafnidiaeth. Dydych chi’n symud fawr ddim yn y ciw. Erbyn hyn rydych chi wedi bwyta’ch picnic ac rydych chi heb ddim byd i’w wneud. (Oedwch a gofynnwch i’r plant sut maen nhw’n teimlo.)
O’r diwedd mae’r cerbydau o’ch blaen yn dechrau symud. Awr a hanner yn ddiweddarach rydych chi’n gweld y môr! Rydych chi’n chwilio am y maes carafannau lle rydych chi’n aros. Wedi i chi ddod o hyd i’r garafán, rydych chi’n dadlwytho’r car ac rydych chi i gyd yn mynd i’r traeth, sydd yn agos iawn. Mae eich gwisg nofio amdanoch chi, ac rydych chi’n deifio i ddwr y môr. Mae dwr y môr yn gynnes braf. (Oedwch a gofynnwch i’r plant sut maen nhw’n teimlo.)Golygfa 4 Mae’r haf wedi dod i ben, ac ers wythnosau mae’n ymddangos ei bod hi wedi bwrw glaw bob dydd. Glaw, glaw, glaw! Dydych chi ddim yn gallu mynd allan i chwarae, rhaid i chi aros i mewn trwy’r amser bron. (Oedwch a gofynnwch i’r plant sut maen nhw’n teimlo.)
O’r diwedd mae’n peidio bwrw glaw, ac rydych chi’n gallu mynd i’r parc i chwarae gyda’ch ffrindiau. Rydych chi’n gwisgo’ch esgidiau glaw ac yn neidio yn y pyllau dwr ar eich ffordd yno. Rydych chi’n cyrraedd y parc ac yn chwarae am sbel. Yn sydyn, mae’r haul yn dod i’r golwg o’r tu ôl i gwmwl. Mae un o’ch ffrindiau yn galw ac yn pwyntio i’r awyr. Mae enfys ddwbl hardd wedi ymddangos yn yr awyr. (Oedwch a gofynnwch i’r plant sut maen nhw’n teimlo.) - Gofynnwch i’r plant feddwl am y pedair golygfa rydych chi wedi’u disgrifio – ar ba adegau ar y flwyddyn yr oedd y golygfeydd? (Yn y gaeaf, gwanwyn, haf, a hydref.) Eglurwch y gallwn ni fod yn sicr y bydd pedwar tymor, bob blwyddyn. Weithiau fe fydd y dyddiau’n amrywio ychydig, ac fe gawn ni amrywiaethau yn y tywydd, ond mae’r tymhorau’n parhau – ac mae cylch bywyd planhigion, coed, pryfed ac ati’n dal i ddigwydd.
Mae gan bob un ohonom wahanol deimladau am y gwahanol dymhorau. Mae rhai ohonom yn caru’r gaeaf; eraill yn hoffi’r gwanwyn a’r haf yn well, neu’r hydref efallai. Mae’n bosib i ambell dymor wneud i ni deimlo’n drist, a thymor arall wneud i ni deimlo’n hapus. Does dim o’i le ar hynny – dyna’r ffordd rydyn ni wedi cael ein gwneud. - Yn union fel mae’r tymhorau’n newid, felly hefyd mae newidiadau’n digwydd yn ein bywydau ni. Fe fydd rhai yn newid ysgol, neu fe fyddwn i’n cael athrawon newydd. Efallai bod rhywun sy’n agos atom yn marw, neu fod y teulu’n gwahanu. Fe fydd rhai yn cael babi bach newydd yn dod yn aelod o’u teulu, neu’n symud i fyw i dy arall. (Efallai y byddwch chi eisiau gofyn i’r plant am eu syniadau nhw o bethau sy’n newid.) Gall pob un o’r newidiadau yma wneud i ni deimlo nifer o wahanol fathau o emosiynau. Does dim o’i le ar hynny - mae teimlo amrywiaeth o emosiynau’n beth hollol normal.
- Eglurwch ei bod hi’n bwysig ein bod yn dysgu deall sut rydyn ni’n teimlo, a hefyd deall sut mae pobl eraill yn teimlo. Os byddwn ni’n gwneud hynny, fe fyddwn ni’n gallu gweithio gyda’n gilydd i wneud ein hysgol, a’n cartrefi, a’r byd yn fannau gwell a hapusach.
Amser i feddwl
Sut rydych chi’n teimlo ar y funud?
Efallai bod rhai ohonoch chi’n teimlo’n hapus.
Efallai bod rhai ohonoch chi’n teimlo’n drist neu’n ddig.
Efallai bod rhai ohonoch chi’n teimlo’n unig neu’n ddryslyd.
Efallai bod rhai ohonoch chi angen siarad â’ch athro neu athrawes, neu angen rhannu eich teimladau gyda ffrind.
Cofiwch ei fod yn beth da rhannu llawenydd gyda phobl eraill hefyd, nid dim ond rhannu teimladau trist.
Mae adnod yn y Beibl yn dweud, ‘Llawenhewch gyda’r rhai sy’n llawenhau, ac wylwch gyda’r rhai sy’n wylo.’ (Rhufeiniaid 12.15).
Gadewch i ni geisio gwneud hynny heddiw.
Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch i ti am roi teimladau i ni.
Helpa ni i ofalu am y rhai hynny sy’n teimlo’n drist heddiw.
Helpa ni i fod yn ffrindiau gyda rhai sy’n teimlo’n unig.
Helpa ni i ddod â heddwch pan fydd pobl yn teimlo’n ddig.
Helpa ni i rannu hapusrwydd a llawenydd.