Gormod O Bethau Newydd
Gwerthfawrogi bod rhywbeth newydd yn gallu bod yn rhywbeth cyffrous, ond y gall fod yn heriol hefyd.
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 1
Nodau / Amcanion
Gwerthfawrogi bod rhywbeth newydd yn gallu bod yn rhywbeth cyffrous, ond y gall fod yn heriol hefyd.
Paratoad a Deunyddiau
- Bag gyda gwrthrychau amrywiol ynddo: fe ddylai’r rhain fod yn bethau anghyffredin ac anghyfarwydd, yn destun dyfalu, ac yn ymwneud â’r pum synnwyr. Detholiad da fyddai pethau fel:
– ffrwyth anghyffredin fel ffrwyth seren, star fruit (blasu)
– rhodau Cuisenaire (cyffwrdd)
– chwyddwydr (gweld)
– trawfforch (clywed)
– creision ag arogl cryf arnyn nhw, fel rhai blas halen a finegr (arogli).
Gwasanaeth
- Dywedwch wrth y plant fod gennych chi, heddiw, nifer o wrthrychau mewn bag. Dydych chi ddim yn siwr fydd y plant yn gwybod beth yw’r gwrthrychau, neu a fyddan nhw’n eu hoffi, ond does dim yn y bag fydd yn gwneud niwed iddyn nhw.
Gofynnwch am wirfoddolwr i ddod ymlaen atoch chi a thynnu un gwrthrych o’r bag.
os yw’n gallu, dylai’r plentyn ddweud rhywbeth y mae’n ei wybod am y gwrthrych, er enghraifft, ei enw, sut y byddwn yn ei ddefnyddio, ac ati.
Gwnewch yr un fath gyda’r pum gwrthrych. - Eglurwch i’r plant bod llawer o bethau newydd iddyn nhw eu profi yn yr ysgol o ddydd i ddydd.
– Weithiau fe fyddan nhw’n blasu pethau newydd, fel y ffrwyth.
– Weithiau fe fyddan nhw’n edrych yn fanwl ar bethau newydd trwy chwyddwydr.
– Weithiau fe fyddan nhw’n clywed pethau newydd, fel swn y drawfforch.
– Weithiau fe fyddan nhw’n gweithio gyda phethau newydd, fel y rodiau Cuisenaire.
– Weithiau fe fyddan nhw’n arogli arogleuon newydd, fel y creision hyn. Eglurwch mai o dro i dro y byddwch yn prynu’r creision!
Mae’r ysgol yn lle diddorol gan fod cymaint o bethau newydd yn digwydd yn barhaus. - Er hynny, yn awr ac yn y man, fe allwn ni gael gorddos o bethau newydd.
Eglurwch ystyr y gair ‘gorddos’ trwy ofyn i’r plant ydyn nhw wedi bod mewn parti pen-blwydd, ryw dro, lle’r oedd llawer iawn o fwydydd wedi eu gosod ar y bwrdd. Holwch y plant beth yw eu hoff fwydydd mewn parti. Holwch wedyn oes rhai o’r plant yn cofio mynd adref o barti pen-blwydd gyda phoen yn eu bol ac yn teimlo ychydig bach yn sâl oherwydd eu bod wedi bwyta gormod o jeli, neu marshmallows, neu ormod o gacennau siocled (neu beth bynnag oedd y plant wedi nodi fel eu hoff ddanteithion). Er bod bwydydd parti pen-blwydd yn fendigedig, mae’n hawdd iawn bwyta gormod ohono – a chael ‘gorddos’.
Mae’r sefyllfa rywbeth yn debyg yn yr ysgol, hefyd. Mae pethau newydd yn ddifyr ac yn hyfryd, ond weithiau fe allwch chi gael gorddos o bethau newydd. Pan fydd hyn yn digwydd, mae’n gallu achosi poen bol efallai, neu wneud i chi deimlo ychydig bach yn sâl. Bydd rhai yn teimlo wedi blino ac yn teimlo braidd yn sarrug. Fe allech chi hyd yn oed deimlo fel dweud, ‘Rydw i eisiau mynd adref!’
Mae ateb syml. Fe allech chi ddweud wrth eich athro neu eich athrawes sut rydych chi’n teimlo, ac efallai y cewch chi dreulio ychydig o amser ar ben eich hun yn gwneud rhywbeth yn dawel am ysbaid - rhywbeth rydych chi’n mwynhau ei wneud, fel darllen llyfr, lliwio llun neu chwarae gêm. Mae’n braf cael gwneud yr hen bethau cyfarwydd hefyd weithiau! - Eglurwch fod Iesu yn athro gwych. Roedd ganddo lawer iawn o bobl yn ei ddilyn ac yn awyddus iawn iddo eu dysgu. Fe fyddai Iesu’n sôn wrthyn nhw am yr adar yn yr awyr, a’r blodau a’r cynhaeaf yn y caeau. Fe fyddai yn eu dysgu tra roedden nhw wrthi’n cael picnic, neu tra roedden nhw yn pysgota.
Ond, yn awr ac yn y man, fe fyddai Iesu’n sylwi bod ei ffrindiau’n edrych yn flinedig. Efallai eu bod wedi cael gorddos o bethau newydd. Fe fyddai’n dweud wrthyn nhw, ‘Dewch o’r neilltu am sbel fach, i ni gael gorffwys.’
Weithiau, fe fydden nhw’n hoffi dringo i ben bryn er mwyn mynd oddi wrth y tyrfaoedd, a dod o hyd i le tawel i orwedd yno a hepian cysgu ar bnawn braf. Yna, fe fydden nhw’n dod i lawr yn ôl o ben y bryn, wedi adfywio ac yn barod i ddysgu rhagor o bethau newydd.
Amser i feddwl
Meddyliwch am un peth newydd rydych chi’n mwynhau ei wneud yn yr ysgol.
Efallai y cewch chi gyfle heddiw, ar adeg dawel, i dynnu llun y gweithgaredd newydd hwnnw i’w arddangos.
Gweddi
Annwyl Dduw Dad,
diolch i ti am yr holl bethau newydd sydd i’w gwneud
ac i ddysgu amdanyn nhw yn yr ysgol.
Mae hynny’n gymaint o hwyl.
Diolch i ti am ein hathrawon sy’n cynllunio’r dyddiau ar ein cyfer.
Diolch i ti hefyd am ffrindiau i ddysgu gyda nhw.