Newydd
Atgoffa’r plant am y llawenydd a deimlwn wrth gael pethau newydd, ac am y cyfleoedd o newid a ddaw gyda phob diwrnod newydd.
gan Helen Redfern
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 1/2
Nodau / Amcanion
Atgoffa’r plant am y llawenydd a deimlwn wrth gael pethau newydd, ac am y cyfleoedd o newid a ddaw gyda phob diwrnod newydd.
Paratoad a Deunyddiau
Pedwar darllenydd a rhywfaint o ‘bropiau’ syml os dymunwch (gêm Playstation, neu gêm debyg, jam siocled, esgidiau glaw, llyfr nodiadau, pad braslunio mawr a phen neu bensil).
Gwasanaeth
- Arweinydd Onid ydi ‘newydd’ yn air rhyfeddol? Mae’n air llawn cyffro a disgwyliad. Mae’n orlawn o hapusrwydd a chyfleoedd. Onid ydi pethau newydd yn rhyfeddol? Dyma rai enghreifftiau gwych.
Darllenydd 1 Pan fyddaf yn cael gêm Playstation newydd, rydw i’n llawn cyffro. Rwy’n methu disgwyl nes y caf i dynnu’r papur lapio ac agor y bocs. Mae’r ddisg mor sgleiniog, heb grafiadau nac olion bysedd arno. Mae’n wefreiddiol.
Darllenydd 2 Rydw i wrth fy modd pan mai fi yw’r cyntaf i agor jar o siocled taenu. Mae agor y caead a thynnu’r gorchudd aur mor gyffrous. Suddo fy nghyllell i’r wyneb siocled llyfn am y tro cyntaf yw’r peth gorau erioed.
Darllenydd 3 Un bore yn y gaeaf, mi wnes i ddeffro ac edrych allan drwy’r ffenest, ac mi welais i rywbeth anghredadwy. Roedd yr ardd wedi ei gorchuddio ag eira newydd perffaith lân, heb ei gyffwrdd gan neb. Roeddwn i’n methu disgwyl nes byddwn i’n cael rhedeg i lawr y grisiau a gwisgo fy esgidiau glaw. Agorais y drws yn llydan, ac roeddwn i mor hapus pan gerddais allan i’r perffeithrwydd gwyn hwn.
Darllenydd 4 Fy hoff beth yw cael llyfr gwaith newydd yn yr ysgol. Rydw i wrth fy modd yn agor y llyfr am y tro cyntaf ac ysgrifennu’r geiriau cyntaf ar dudalen newydd sbon.
- Arweinydd Mae pawb ohonom yn gyfarwydd â’r llawenydd sy’n dod yn sgil pethau newydd. Nid oes unrhyw beth yn fwy cyffrous na dalen lân o bapur (daliwch lyfr ysgrifennu a beiro yn eich llaw). Rydw i’n dysgu sut i dynnu llun . . . beth ydych chi’n ei feddwl o hwn? (Tynnwch lun gwael o gath.) Rydych chi’n iawn, dydi o ddim yn dda iawn. Rwy’n meddwl y gwna i rwygo’r dudalen yma a dechrau eto. Beth am hwn? (Tynnwch lun cath arall, ychydig yn well na’r llall ond ddim yn dda iawn.) Ddim digon da o hyd? Mi wna i rwygo’r dudalen yma eto ac ailddechrau. (Tynnwch lun llawer gwell o gath.) Dyna ni, mae hwn yn llawer gwell. Fe wna i gadw’r llun yma, a dal ati i weithio arno eto yn nes ymlaen.
Onid yw hi’n wych gallu dechrau eto pan fyddwn ni’n gwneud llanast o bethau neu’n gwneud camgymeriad? Mae yr un fath â chael dalen wag o bapur i roi cynnig arall arni. Mae bywyd yn debyg i hynny, hefyd.
- Darllenydd 1 Ar ddechrau’r flwyddyn newydd hon, penderfynais geisio bwyta rhagor o ffrwythau a gwneud rhagor o ymarfer corff. Rydw i’n bwrw ymlaen yn reit dda ac yn teimlo’n fwy iach yn barod.
Darllenydd 2 Rydw i wrth fy modd yn troi fy nghalendr drosodd ar ddiwedd y mis, a dechrau tudalen newydd, a mis newydd hefyd. Y mis hwn, rydw i am geisio brwsio fy nannedd yn ofalus bob bore a phob nos.
Darllenydd 3 Os ydw i wedi cael wythnos wael, mae’n braf gorwedd yn fy ngwely ar nos Sul yn meddwl am yr wythnos newydd sydd o’m blaen. Yr wythnos hon, rydw i am geisio bod yn fwy caredig tuag at fy ffrindiau yn yr ysgol.
Darllenydd 4: Rydw i bob amser yn ceisio cofio fod pob diwrnod yn ddiwrnod newydd. Os ydw i wedi gwneud camgymeriadau, neu wedi gwneud rhywbeth o’i le, yna fe allaf roi cynnig arall arni’r diwrnod canlynol.
Amser i feddwl
Gadewch i ni dreulio rhywfaint o amser yn meddwl yn dawel am yr hapusrwydd sy’n gallu dod yn sgil pethau newydd –
ci bach newydd, baban newydd, tegan newydd, profiad newydd.
Gadewch i ni ddiolch am y pethau hyn.
(saib)
Yn awr, gadewch i ni feddwl am gyfleoedd newydd a gawn ni yn ystod ein bywydau – blwyddyn newydd, mis newydd, wythnos newydd, diwrnod newydd.
Treuliwch ychydig o amser yn myfyrio ar beth hoffech chi ei newid,
beth fyddech chi’n hoffi ei wneud yn wahanol.
(saib)
Cofiwch, mae pob diwrnod fel dalen lân o bapur.
Mae pob diwrnod yn gyfle newydd.
Onid yw hynny’n gyffrous?
Awn amdani!
Gweddi
Gwrandewch ar eiriau’r weddi hon, ac os hoffech chi, fe allech chi eu troi’n weddi i chi eich hunan hefyd:
Dduw Dad,
Rydym yn diolch i ti am yr hapusrwydd sy’n gallu dod yn sgil pethau newydd.
Rydym yn diolch i ti am gyfleoedd newydd yn ein bywydau.
Helpa ni i fod yn ddigon dewr i newid pethau.
Helpa ni i wneud gwahaniaeth.
Diolch i ti am bethau newydd.
Amen.
Os ydych chi’n teimlo eich bod chi angen help i newid rhywbeth, yna siaradwch gydag aelod o’ch teulu, neu gyda ffrind neu athro. Weithiau, rydym angen cefnogaeth ac anogaeth wrth newid pethau.