Ffrindiau Newydd
gan Jill Fuller
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Helpu’r plant i adnabod y sgiliau angenrheidiol i wneud ffrindiau newydd.
Paratoad a Deunyddiau
- Paratowch sefyllfa o’ch profiad eich hun lle buoch chi’n teimlo’n ddieithr ac yn ‘wyneb newydd’ mewn cymuned sefydledig. Gofalwch eich bod yn gallu disgrifio’r sefyllfa’n glir, a byddwch yn barod i archwilio’r teimladau sy’n ymwneud â’r sefyllfa a’r dewisiadau o ran ymddygiad (gwelwch adran 1).
Gwasanaeth
- Rhannwch stori gyda’r disgyblion am sefyllfa pan fuoch chi’n ddieithr, efallai mewn parti neu gyfarfod. Disgrifiwch yr olygfa: pawb yn siarad gyda rhywun arall, fel pe baen nhw’n adnabod ei gilydd, yn dweud jôcs ac yn chwerthin. Mae rhai pobl eisoes yn chwarae gêm o gardiau, yn gweithio gyda’i gilydd, tra’r ydych chi yn sefyll ar eich pen eich hun, yn eu gwylio - beth maen nhw’n ei wisgo, sut maen nhw’n ymddwyn - a theimlo eich bod chi ar y cyrion.
Holwch y plant sut y bydden nhw wedi teimlo mewn sefyllfa o’r fath: yn lletchwith, yn ofnus, yn nerfus, yn unig, wedi eu cau allan, yn ansicr, wedi eu hanwybyddu, yn flin, wedi eu cyffroi, yn poeni bod y lleill yn chwerthin am eu pen.
- Gofynnwch i’r plant ystyried beth allai ddigwydd wedyn. Pa gyngor fydden nhw’n ei roi i chi?
Trafodwch beth allech chi ei wneud. Gadael? Eistedd mewn cornel ar eich pen eich hun? Sefyll ar ymyl grwp gan obeithio y bydd rhywun yn sylwi arnoch chi? Mynd at grwp ac aros am gyfle da i gyflwyno eich hun a gofyn a gewch chi ymuno â nhw? Gwthio i mewn i’r grwp a dechrau siarad ar unwaith?
- Yn awr, gofynnwch i’r plant ddychmygu eu bod nhw ymysg y gwesteion sydd eisoes yn yr ystafell. Pan fyddan nhw’n sylwi ar y newydd-ddyfodiad, beth fyddan nhw’n ei wneud? Gofyn i’r dieithryn ymuno â’u grwp? Eu hanwybyddu nhw a pharhau i siarad gyda’u ffrindiau eu hunain? Gobeithio y bydd y dieithryn yn mynd oddi yno? Disgwyl i rywun arall fynd i siarad gyda’r newydd-ddyfodiad?
- Helpwch y plant i nodi rhai o broblemau bod mewn sefyllfa newydd. Efallai bod gan y bobl eraill reolau gwahanol o ran ymddygiad, ffyrdd gwahanol o wneud pethau, a hiwmor gwahanol i’r arfer. Efallai y bydd yn cymryd amser i ddeall hyn. Efallai y bydd angen egluro rhai pethau i osgoi camddealltwriaeth.
Atgoffwch nhw fod Iesu, arweinydd pwysicaf Cristnogion, wedi dangos drwy ei ffordd o fyw bod gofalu am bobl eraill, a’u derbyn, yn bwysig. Roedd Iesu eisiau creu cymuned o ffrindiau. Rhoddodd orchymyn: ‘Dyma fy ngorchymyn i: carwch eich gilydd fel y cerais i chwi’. (Ioan 15.12).
Amser i feddwl
Ar ddechrau tymor newydd, efallai y bydd nifer o wynebau newydd yn ein cymuned. Mewn moment dawel, gadewch i ni fyfyrio gyda’n gilydd ar sut gall pob un ohonom ofalu am ein gilydd a helpu ein gilydd i wneud ffrindiau. (Saib)
Gweddi
Annwyl Dduw,
Dangosodd Iesu i ni pa mor bwysig yw edrych ar ôl ein ffrindiau.
Croesawodd nifer o bobl newydd
a’u helpu i ddod i adnabod ei gilydd a dysgu gan ei gilydd.
Ar ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd hon,
helpa ni i fod yn gyfeillgar a chymwynasgar gyda phawb.
Dyddiad cyhoeddi: Medi 2011 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.