Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwir Gyfeillgarwch: Ffraeo gyda’n ffrindiau

Pwysleisio sut mae pobl yn teimlo pan fyddan nhw’n ffraeo gyda’u ffrindiau.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Pwysleisio sut mae pobl yn teimlo pan fyddan nhw’n ffraeo gyda’u ffrindiau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Papurau ‘Post-it’ bach mewn pedwar lliw gwahanol. Bydd arnoch chi angen yr un faint o bob lliw, a digon ohonyn nhw i roi un i bob plentyn (Os bydd 200 o blant, fe fydd arnoch chi angen 50 papur o bob lliw.)
  • Rhannwch y neuadd neu’r dosbarth yn bedwar chwarter, un lliw i bob ardal, gan ddefnyddio conau i nodi lliw yr ardal.
  • Fe fydd arnoch chi angen un papur Post-it o liw arall hefyd – pumed lliw.
  • Wrth i’r plant ddod i’r gwasanaeth, rhowch bapur Post-it i bob plentyn ar hap, gan ddweud wrth y plant bod eisiau iddyn nhw fynd i’r rhan honno o’r ystafell lle mae’r côn sy’n cyfateb i liw eu papur.
  • Pan fydd un plentyn neilltuol yn dod i mewn, plentyn y gwyddoch chi a fydd yn gallu rhoi atebion rhesymol i chi i’r cwestiynau rydych chi’n mynd i’w gofyn, rhowch y papur Post-it pumed lliw iddo ef neu hi. (Fe allech chi baratoi’r plentyn hwn o flaen llaw i roi gwybod iddo beth fydd yn digwydd.)
  • Cofiwch gynnwys yr athrawon a’r oedolion eraill hefyd yn y gweithgaredd.

Gwasanaeth

  1. Arhoswch i’r plant ddod o hyd i’w corneli a setlo yn eu llefydd iawn. (Fe fydd y plentyn gyda’r Post-it pumed lliw yn edrych braidd ar goll, o bosib.) Gofynnwch i bawb eistedd a holwch sut roedden nhw’n teimlo ar ôl dod o hyd i’w grwp, a gweld eu bod gyda llawer o blant eraill yn eu cornel.

    Holwch ydyn nhw’n eistedd yn ymyl y rhai y maen nhw’n eu hadnabod yn dda, ac a ydyn nhw gyda phlant y bydden nhw’n eistedd yn eu hymyl fel arfer?

    Holwch sut deimlad yw bod gyda llawer o blant eraill y maen nhw’n eu hadnabod? Sut deimlad yw bod gyda rhai plant na fyddan nhw yn eistedd yn eu hymyl fel arfer?

    Holwch sut deimlad yw cael rhywle diogel i fynd iddo, a theimlo’n rhan o grwp?

  2. Yn sydyn, rydych chi’n sylweddoli bod un plentyn yn yr ystafell sy’n edrych ar goll. Cymrwch arnoch nad ydych yn gwybod pam ei fod ar goll, a dywedwch wrtho am frysio i’w le ac ymuno a’r grwp iawn.

    Pan fydd y plentyn yn ceisio egluro i chi bod lliw ei bapur yn wahanol, fe allech chi smalio ei gyhuddo o fod yn araf yn dod o hyd i’w le, ddim yn gwrando arnoch chi, neu beth bynnag arall. Smaliwch ddwrdio a dweud wrtho am frysio i’w le iawn, neu fynd at ystafell y pennaeth os yw’n mynnu parhau i fod yn anufudd.

    Wrth i’r plentyn ddal ati i geisio egluro, holwch, ‘Beth sy’n bod?’

    Wrth i’r plentyn egluro nad oes grwp o’r lliw hwnnw ar gael iddo ymuno ag ef, holwch, ‘Pam na alli di fynd at y grwp melyn, neu’r grwp pinc (neu beth bynnag yw lliwiau’r grwpiau)?’

  3. Yna, gofynnwch sut deimlad oedd bod heb unman i fynd iddo, a methu ffitio i mewn i unrhyw un o’r grwpiau?

    Holwch wedyn a wnaeth unrhyw un ddweud wrtho nad oedd gwahaniaeth beth oedd lliw ei bapur, a dweud rhywbeth fel, ‘Dim gwahaniaeth am liw’r papur, tyrd yma atom ni.’

  4. Nawr, holwch y plant i gyd a oes rhywun yn barod i dderbyn y plentyn yma, er gwaethaf y ffaith bod lliw a hunaniaeth ei bapur Post-it yn wahanol i liw a hunaniaeth eu grwp nhw.

    Gofynnwch hefyd i weddill y plant sut y bydden nhw wedi teimlo os mai nhw fyddai’r un oedd heb grwp i berthyn iddo.

    Holwch oes rhywbeth fel hyn wedi digwydd iddyn nhw erioed mewn bywyd go iawn, naill ai ar iard chwarae’r ysgol neu wrth chwarae â phlant eraill y tu allan i’r ysgol.

  5. Holwch eto a yw’r teimladau’n debyg i’r teimladau sydd ganddyn nhw ar adeg pan fyddan nhw wedi cweryla â’u ffrindiau.

    Trafodwch sut roedden nhw’n teimlo pan wnaethon nhw gweryla â’u ffrindiau ryw dro. A oedd rhywun wedi cael ei hun yn teimlo’n unig heb neb i chwarae ag ef neu hi? Sut y byddai pethau wedi gallu bod yn well? Sut y gallen nhw fod wedi datrys y broblem neu’r sefyllfa’n gyflym?

Amser i feddwl

Mae cweryla a dod yn ffrindiau yn rhywbeth sy’n digwydd yn barhaus. Ond mae’n bwysig ein bod ni’n meddwl am deimladau pobl eraill, a gofalu nad oes neb yn teimlo’n unig ac ar ei ben ei hun.

Gweddi
Helpa fi, O Dduw, i fod yn
ffrind gwir a da;

i fod bob amser yn ffyddlon,
a pheidio byth â siomi fy ffrindiau;

i beidio byth â siarad amdanyn nhw
yn eu cefnau mewn ffordd
na fyddwn i’n ei wneud yn eu hwynebau;

i beidio byth â bradychu eu hymddiriedaeth
na siarad am bethau
y dylwn i gadw’n dawel yn eu cylch.

Helpa fi i fod yn barod bob amser i rannu
popeth sydd gen i;

ac i fod mor ffyddlon i fy ffrindiau
ag yr hoffwn i iddyn nhw fod i mi.

Gofynnaf hyn er mwyn Iesu Grist,
sef y ffrind gorau ar un mwyaf cywir erioed;
er mwyn dy gariad di, 

Cân/cerddoriaeth

‘Let love rule’ gan Lenny Kravitz (ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y we)

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon