Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Wyl Iddewig Sukkot

gan Caroline Donne

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio ystyr yr wyl Iddewig Sukkot, gan ganolbwyntio ar yr arfer o adeiladu lloches dros dro yn yr anialwch wrth grwydro, a rhoi diolch i Dduw am y cynhaeaf.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddai’n ddefnyddiol i chi ymgyfarwyddo â’r ffeithiau canlynol am gefndir gwyl Sukkot:
    -  Gair lluosog yw Sukkot am y gair unigol Hebraeg sukkah, sy’n golygu sawl peth yn cynnwys ‘cwt’, ‘lloches’ neu ‘gaban’.
    -  Yn ystod gwyl y Sukkot, mae teuluoedd a grwpiau Iddewig yn adeiladu sukkot (llochesau dros dro) y tu allan i’w cartrefi. Yn aml, fe fyddan nhw’n bwyta’u prydau bwyd gyda’i gilydd yn y sukkot, yn croesawu ffrindiau yno, a hyd yn oed yn cysgu yno.
    -  Yn ystod yr wyl, fe welwch chi’r llochesau wedi’u hadeiladu yn erbyn wal allan y tai, yr ysgolion, neu’r synagogau, ar falconi fflatiau, neu yn erbyn siediau gardd neu fframiau dringo. Fe fydd to’r lloches wedi’i addurno â changhennau a dail, ond gyda bylchau rhyngddyn nhw fel y bydd hi’n bosibl i’r bobl y tu mewn weld yr awyr trwy’r to. Y tu mewn i’r lloches, fe fydd y waliau wedi eu haddurno â blodau a ffrwythau’n hongian o’r nenfwd.
    -  Mae’r sukkah yn atgoffa’r Iddewon o hanes yr Israeliaid (yr hen Iddewon) pan oedden nhw’n ffoi o gaethiwed yn yr Aifft filoedd o flynyddoedd yn ôl. Mae’n eu hatgoffa pa mor galed oedd bywyd yr Israeliaid yn yr anialwch, a pha mor ddibynnol yr oedden nhw ar Dduw.
    Cynhaeaf  Mae gwyl y Sukkot hefyd yn adeg pan fydd Iddewon yn cofio bod popeth yn dod gan Dduw. Fel ffordd o gofio hyn, fe fyddan nhw’n offrymu gweddïau o ddiolch i Dduw, ac yn chwifio pedwar planhigyn i’r pedwar cyfeiriad: etrog (math o ffrwyth sitraidd), dail palmwydd y pren datys, cangen gyda dail arni o’r pren myrtwydd, a changen gyda dail arni o’r pren helyg. Mae’r rhain yn cynrychioli’r cynhaeaf. Mae’n bosibl i blant ysgol wneud gwaith ymchwil ar hyn o flaen llaw a thynnu lluniau’r planhigion.
  • Mae’r gwasanaeth hwn yn ymwneud ag adrodd stori’r wyl yn syml. Gan ddefnyddio Beibl ar gyfer plant, paratowch stori misoedd cyntaf yr Exodus, gan ddechrau ar y pwynt lle mae’r Iddewon, dan arweiniad Moses, wedi dianc o’u caethiwed yn yr Aifft ac wedi croesi’r Môr Coch, yn dechrau ar eu taith trwy’r anialwch i’w mamwlad newydd (Exodus 15.22-17.16). Cofiwch gynnwys yr hanes sut y darparodd Duw fwyd (manna) a dwr iddyn nhw yn yr anialwch.
  • Er mwyn darlunio’r stori, efallai yr hoffech chi adeiladu sukkah fel gweithgaredd dosbarth neu weithgaredd ysgol.
    Defnyddiau: Os byddwch chi’n adeiladu’r sukkah y tu allan i’r ysgol, fe allech chi ddefnyddio offer yr iard neu’r cae chwarae fel sail i’ch strwythur. Defnyddiwch ddarnau o gardfwrdd, papur a defnydd i wneud gorchudd ar dair ochr gan adael un ochr ar agor fel mynedfa. Gosodwch flodau ffres neu rai papur i hongian o’r nenfwd, a llysiau a ffrwythau. Gofalwch eich bod yn gallu gweld yr awyr trwy’r nenfwd. Yn ddelfrydol, fe ddylai’r lloches fod yn ddigon mawr i roi bwrdd a dwy neu dair o gadeiriau i mewn ynddi. Neu, fe allech chi adeiladu’r strwythur mewn cornel o’r dosbarth neu’r neuadd.

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant oes unrhyw un wedi cysgu y tu allan, yn yr awyr agored, ryw dro. Efallai bod rhai wedi bod mewn gwersylloedd wedi’u trefnu ar gyfer grwpiau o bant, neu’n gwersylla ar wyliau gyda’u rhieni. Gofynnwch iddyn nhw feddwl am eiriau sy’n disgrifio’r teimlad o gysgu ‘y tu allan’: oer, ofnus, yn unig, neu’n llawn cyffro.

  2. Adroddwch stori’r Israeliaid yn crwydro yn yr anialwch (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’).

    Trafodwch y pwyntiau sy’n cael eu codi yn y stori. Tybed sut beth oedd y profiad o deithio trwy’r anialwch? Eglurwch fod y tymheredd yn yr anialwch yn gallu bod yn boeth iawn yn ystod y dydd, ond yn oer iawn yn ystod y nos. Ac yn aml mae anifeiliaid gwyllt yn byw yn yr anialwch hefyd.

    Ydi hi’n hawdd deall pam yr oedd yr Israeliaid yn cwyno ar y dechrau? Trafodwch sut y gwnaeth Duw ddarparu ar eu cyfer trwy roi bwyd a diod iddyn nhw yn yr anialwch. Sut roedden nhw’n teimlo tybed pan wnaethon nhw sylweddoli bod Duw’n gofalu amdanyn nhw?

  3. Eglurwch sut y bydd Iddewon yn cynnal gwyl bob blwyddyn, o’r enw gwyl y Sukkot, pan fyddan nhw’n cofio ac yn dathlu sut y gwnaeth Duw ddarparu ar gyfer eu hynafiaid yn yr anialwch yr holl flynyddoedd hynny’n ôl, trwy roi bwyd a diod iddyn nhw. (Eglurwch mai gair Hebraeg yw sukkot sy’n golygu cabanau neu lochesau dros dro. Yr enw am un lloches yw sukkah.)

    Eglurwch fod teuluoedd Iddewig yn adeiladu llochesau dros dro (sukkot) y tu allan i gofio am eu hynafiaid yn yr anialwch ers talwm. Cyfeiriwch at y sukkah rydych chi wedi ei hadeiladu gyda’ch gilydd. (Gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’.)

    Bydd yr Iddewon yn bwyta prydau bwyd gyda’i gilydd yn y sukkot. Weithiau fe fyddan nhw’n cysgu yno hefyd. Mae’r wyl yn amser i fod yn hapus.

  4. Eglurwch fod gwyl y Sukkot, oherwydd ei bod yn wyl sy’n cofio’r ffordd y gofalodd Duw am y bobl trwy ddarparu bwyd a diod iddyn nhw yn yr anialwch amser maith yn ôl, yn wyl o ddiolch am y cynhaeaf hefyd. Dyma’r adeg y bydd yr Iddewon yn diolch bob blwyddyn i Dduw am y cynhaeaf.

Amser i feddwl

(Os ydych chi wedi adeiladu sukkah, mae’n bosib i grwpiau bach ymweld â’r lloches, yn eu tro, ar wahanol adegau yn ystod y dydd, a chael rhywbeth i’w fwyta wrth eistedd y tu mewn i’r sukkah. Neu, fe allech chi adael y sukkah lle y mae am gyfnod, a’i gwneud yn gornel dawel lle gall y plant fynd am ysbaid yn eu tro i dreulio amser i feddwl a gweddïo.)

Gweddi

Annwyl Dduw, diolch i ti am y bwyd sydd gennym i’w fwyta
ac am y dwr glân, ffres sydd gennym i’w yfed.
Diolch am ein cartrefi
lle gallwn ni gysgodi rhag y glaw a’r oerni.
Rydyn ni’n gweddïo dros yr holl bobl hynny
sydd heb ddigon o fwyd i’w fwyta heddiw,
a heb gartref iawn i fyw ynddo.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon