Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Apel Y Pabi Coch

Ystyried arwyddocâd Apêl flynyddol y Pabi Coch.

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried arwyddocâd Apêl flynyddol y Pabi Coch.

Paratoad a Deunyddiau

  • Pabi Coch Dydd y Cofio.
  • y geiriau wedi eu harddangos ar ffurf acrostig (gwelwch rhif 4), i ategu’r pwynt ar y diwedd ac ar gyfer yr ‘Amser i feddwl’.
  • Gellir llwytho i lawr wybodaeth bellach a delweddau oddi ar y Rhyngrwyd, yn neilltuol oddi ar y wefan www.britishlegion.org.uk lle mae’n bosibl cael adnoddau eraill hefyd ar gyfer gwasanaethau coffa.
  • (Dewisol) Mae’r gerdd ‘In Flanders Fields’ i’w chael ar y wefan http://www.greatwar.co.uk/poems/john-mccrae-in-flanders-fields.htm
  • Os hoffech chi gerdd Gymraeg, mae’r gerdd Y Pabi Coch i’w chael yn y gyfrol, Cerddi’r Cof; Gwasg y Dref Wen. Mae’r bardd yn gweld y milwr fel y blodyn, ac mae’n gorffen gyda’r geiriau:

‘Ond rhywun â didostur law

A'th gipiodd o'th gynefin draw

I estron fro, a chyn y wawr

Syrthiaist, a'th waed yn lliwio'r llawr.’

  • Cadwch mewn cof ofidiau rhai sy’n perthyn i gymuned yr ysgol sydd ag aelodau o’u teuluoedd yn gwasanaethu ar hyn o bryd yn y lluoedd arfog, a byddwch yn sensitif i’w anghenion.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y pabi coch a thrafod ei arwyddocâd. Mae’r blodau pabi coch papur yn cael eu gwerthu bob blwyddyn gan y Lleng Brydeinig (Royal British Legion) – elusen sy’n darparu gofal a chefnogaeth i rai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a rhai sydd ar hyn o bryd yn y lluoedd arfog hefyd.
  2. Cynhaliwyd Diwrnod y Pabi am y tro cyntaf yn 1921, dair blynedd ar ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben. Yn ystod y rhyfel hwnnw, cafodd 8.5 miliwn o bobl eu lladd ledled y byd a chafodd 20 miliwn arall eu hanafu. Daeth miloedd o bobl ifanc adref o’r rhyfel wedi eu hanafu mor ddrwg fel nad oedden nhw’n gallu gweithio wedyn, ac roedden nhw wir angen help.

    Dewiswyd y pabi coch fel symbol i’r apêl am help iddyn nhw. Roedd y blodyn hwn i’w weld yn y caeau yn Fflandrys, yng ngorllewin gwlad Belg. Yn y fan honno y digwyddodd peth o’r brwydro mwyaf ofnadwy yn ystod y rhyfel i gyd. Ac yn ystod yr haf roedd y blodau coch i’w gweld yn tyfu yn y caeau a oedd wedi cael eu difrodi oherwydd yr holl ymladd. Roedd lliw coch y blodyn yn atgoffa pobl am yr holl golli gwaed a ddigwyddodd yn ystod y rhyfel.

    Cerdd Saesneg a ysgrifennwyd gan fardd o’r enw John McCrea a fu’n ysbrydoliaeth i sefydlu Diwrnod y Pabi, ‘In Flanders Fields’. (Efallai yr hoffech chi ddarllen y gerdd. Neu o bosib, fe allech chi ddarllen cerdd y bardd Cymraeg I. D. Hooson, Y Pabi Coch.)
  3. Caiff y blodau pabi coch papur sy’n cael eu gwerthu yr adeg hon o’r flwyddyn eu cynhyrchu mewn ffatri o eiddo’r Lleng Brydeinig. Mae’r ffatri’n cyflogi dynion a merched sy’n gyn-aelodau o’r lluoedd arfog - llawer ohonyn nhw ag anableddau oherwydd eu bod wedi cael eu hanafu yn y rhyfeloedd. Caiff mwy na 30 miliwn o’r pabïau eu gwneud bob blwyddyn! Mae’r gweithwyr yn y ffatri hefyd yn gwneud y torchau pabi sy’n cael eu gosod ar gofadeiladau rhyfel mewn gwasanaethau ar Ddydd y Cofio.

    Pan fyddwch chi’n prynu pabi, rydych chi’n cefnogi’r gwaith lles a gofal y mae’r Lleng Brydeinig yn ei wneud. Wrth wisgo’r pabi rydych chi’n dangos eich bod yn cofio ac yn meddwl am bobl eraill.

    (Efallai yr hoffech chi hefyd gyfeirio at bosteri’r ymgyrch gyfredol sydd i’w cael ar wefan y ‘Royal British Legion’, gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’ ar y dechrau.)
  4. Diweddwch y gwasanaeth gyda’r myfyrdod canlynol, y mae’n bosib ei arddangos fel acrostig sy’n sillafu ‘PABI COCH’.

    Felly, pan fyddwn ni’n gwisgo’r pabi coch:

    Parchwn y rhai sy’n ein helpu a’n gwasanaethu
    A meddyliwn am y bobl hynny sy’n dioddef
    Bydd llawer o bobl yn dioddef oherwydd rhyfeloedd
    I bawb, ym mhob man, mae heddwch yn bwysig

Cydymdeimlwn â’r rhai sy’n gweithio dros gael heddwch i’n byd

Oedwn am funud i wneud hynny, a

Chofiwn!

Amser i feddwl

Treuliwch foment yn myfyrio’n dawel gan adolygu’n dyner y pwyntiau a wnaed.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon