Pawb Yn Disgwl Am Rywbeth
Cyflwyno’r Adfent fel cyfnod o ddisgwyl a pharatoi.
gan Gill O'Neill
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Cyflwyno’r Adfent fel cyfnod o ddisgwyl a pharatoi.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch angen i un o’ch cydweithwyr eich helpu. Esboniwch y byddwch funud neu ddau yn hwyr yn cyrraedd y gwasanaeth, a gofynnwch i’ch cydweithiwr gadw’r plant i aros amdanoch. Gofynnwch iddo ef neu hi egluro i’r plant eu bod yn disgwyl i chi ddod, ac y dylen nhw fod yn barod ar eich cyfer pan fyddwch chi’n cyrraedd.
- Paratowch siart troi neu OHT gyda’r pennawd: Paratoi ar gyfer y Nadolig – fy rhestr o’r pethau sydd angen eu gwneud.
- Paratowch ail dudalen siart troi neu OHT gyda’r pennawd: Paratoad ar gyfer dyfodiad Iesu – rhestr o bethau i’w gwneud gan . . .
O dan y pennawd yma, rhestrwch yr enwau canlynol gan adael lle i ysgrifennu wrth ymyl pob un: Y Proffwydi; yr Angel Gabriel; Mair; Joseff; Ioan Fedyddiwr. - Trefnwch fod pinnau ffelt addas wrth law i ysgrifennu ar eich siart.
- (Dewisol) Copi o ddameg y morwynion doeth a’r morwynion ffôl o Feibl i blant (Mathew 25.1-13).
Gwasanaeth
- Arhoswch nes bydd yr ysgol gyfan wedi dod at ei gilydd, a’ch cydweithiwr wedi esbonio eu bod yn disgwyl i chi gyrraedd (gwelwch yr adran Paratoad a deunyddiau). Barnwch pa mor hwyr y dylech gyrraedd – nid oes angen i’r amser fod yn hwy na munud neu ddau.
Wrth i chi gyrraedd, ymddiheurwch i’ch cydweithiwr, ac yna ymddiheurwch yn helaeth i’r gynulleidfa, gan bwysleisio’r geiriau, ‘Mae’n ddrwg iawn gen i fy mod i wedi’ch cadw chi i aros. Dwi’n gobeithio eich bod yn barod am y gwasanaeth erbyn hyn.’ - Gofynnwch i’r plant feddwl am y cyfnod hwn o’r flwyddyn. Eglurwch fod Cristnogion yn cofio am wahanol ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â bywyd Iesu ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Maen nhw’n rhoi enwau arbennig ar yr adegau hyn: er enghraifft, adeg geni Iesu (y Nadolig); ei farwolaeth a’i atgyfodiad (y Pasg). Rydyn ni’n sôn am y pwyntiau penodol hyn fel ‘y calendr Cristnogol’. Ac mae gan y cyfnod o bedair wythnos sy’n arwain at y Nadolig, adeg geni Iesu, ei enw arbennig ei hun: yr Adfent.
Esboniwch fod Adfent yn gyfnod o ddisgwyl am ddyfodiad Iesu, ac yn gyfnod o baratoi ar gyfer dathlu ei enedigaeth.
Dywedwch wrth y plant y bydd llawer ohonyn nhw, a llawer o’u rhieni, yn brysur iawn yn ystod mis Rhagfyr yn gwneud nifer o bethau i baratoi ar gyfer y Nadolig. Gofynnwch i’r plant pa dasgau y maen nhw’n feddwl a ddylai ymddangos ar eich rhestr o bethau i’w gwneud. Ysgrifennwch y rhain ar y siart troi/OHT neu gofynnwch i wirfoddolwr ysgrifennu ar eich rhan. Er enghraifft, cardiau i’w hysgrifennu; prynu anrhegion; pacio anrhegion; gwneud cacen; gosod addurniadau; llenwi hosan Nadolig; canu carolau. - Yn awr, dywedwch wrth y plant fod pobl cyn amser Iesu Grist yn paratoi ar gyfer dyfodiad Iesu ymhell cyn iddo gyrraedd. Doedden nhw ddim yn gwybod pryd, ymhle, na sut y byddai’n cyrraedd, ond roedden nhw wedi dechrau paratoi. Trowch at eich ail siart.
Gofynnwch i’r plant allan nhw feddwl am unrhyw dasgau oedd gan y rhai sy’n cael eu henwi ar y rhestr i’w gwneud, er mwyn paratoi ar gyfer dyfodiad Iesu? (Efallai y bydd gofyn i chi eu helpu gyda’r Proffwydi.) Er enghraifft:
Y Proffwydi: Dweud wrth bobl sut roedd Duw eisiau iddyn nhw fyw.
Yr Angel Gabriel: Cyhoeddi newydd da i Mair ei bod yn mynd i gael babi bach arbennig.
Mair: Gofalu amdani ei hun, a’r babi roedd hi’n ei gario, a pharatoi ar gyfer genedigaeth y babi.
Joseff: Gofalu am Mair a pharatoi ar gyfer yr enedigaeth.
Ioan Fedyddiwr: Cael ei eni! Ac yn ddiweddarach cyhoeddi gwaith arbennig Iesu. - Wedi i chi gwblhau’r rhestr, dywedwch wrth y plant, yn ogystal â pharatoi ar gyfer pob peth arall yn ymwneud â’r dathlu, fod gofyn i ni hefyd baratoi ein hunain. Sut y gallwn ni wneud hynny?
Os yw amser yn caniatáu, adroddwch ddameg y morwynion call a’r morwynion ffôl o Feibl i blant (Mathew 25.1-13). Esboniwch fod hon yn stori am baratoi ar gyfer dyfodiad y Brenin, yn union fel mae Cristnogion yn paratoi ar gyfer y Nadolig. Mae llawer ohonom, waeth beth yw ein crefydd, yn paratoi ar gyfer cyfnod gwyliau’r Nadolig. - Gorffennwch trwy atgoffa pawb eu bod wedi gorfod disgwyl amdanoch chi ar ddechrau’r gwasanaeth – rydych chi’n gobeithio y bydd hyn yn help iddyn nhw wrth gofio thema’r Adfent o ddisgwyl a bod yn barod.
Amser i feddwl
Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydym yn diolch i ti am gyfnod arbennig yr Adfent,
sy’n gyfnod arbennig o ddisgwyl a pharatoi.
Helpa ni, wrth i ni fynd ati i baratoi,
i ddod o hyd i amser i feddwl am y rhodd a gawsom yn Iesu,
y rhodd a roddaist ti i ni ar y Nadolig cyntaf hwnnw.
Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2011 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.