Mae'n Dda Siarad
Helpu’r plant i ddeall bod y rhai sy’n bwlio yn unigolion anhapus yn aml.
gan Awdur Anhysbys
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Helpu’r plant i ddeall bod y rhai sy’n bwlio yn unigolion anhapus yn aml.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fyddwch angen pêl droed (yn ddelfrydol pêl sbwng ysgafn fyddai orau, neu o leiaf un heb fod yn lledr caled iawn).
- Copi o’r Beibl; mae’r Rheol Aur yn Efengyl Mathew 7.12.
Gwasanaeth
- (Fel yr ydych yn siarad, bownsiwch y bêl: gwell i chi ymarfer siarad a bownsio’r bêl ar yr un pryd yn gyntaf!)
Tybed a oes unrhyw un yn yr ysgol hon sydd wedi bod yn gas iawn wrth rywun arall erioed, ac nid dim ond unwaith yn unig ond sy'n parhau i fod yn gas?
Efallai bod y person hwn yn cael hyd i ffyrdd o fod yn gas pan nad oes neb o gwmpas, neu pan na fydd neb arall yn gweld. Efallai bod y person hwn yn annog eraill hefyd i fod yn gas, efallai'n galw enwau ar rywun, neu wneud pethau annifyr, neu dynnu wynebau, a gwneud y person hwnnw'n anhapus iawn.
Rwy'n gobeithio’n fawr na fydd hyn byth yn digwydd yn yr ysgol hon. Fe wn i y byddai eich athrawon yn siomedig iawn pe byddai unrhyw un ohonoch chi’n ymddwyn yn y fath fodd. - Ond gadewch i ni ddychmygu fod hyn wedi digwydd yn yr ysgol hon. Pam rydych chi'n credu y byddai rhywun yn ymddwyn fel hyn? (Dwylo i fyny, a thaflwch y bêl i ddewis rhywun i ateb. Wedi cael yr atebion gofynnwch i'r plentyn daflu’r bêl yn ôl atoch chi. Dewiswch nifer o blant i ateb.)
- (Stopiwch fownsio.) Eglurwch fod pobl sy'n ymddwyn fel hyn yn aml yn cael eu disgrifio fel bwlis. Dywedwch y dylem fod yn ofalus gyda’r gair bwli, oherwydd nid yw'n golygu rhywun sy'n gwneud rhywbeth cas unwaith yn unig.
Yn aml, mae pobl yn ymddwyn fel bwlis oherwydd eu bod yn anhapus am rywbeth sy'n rhan o'u bywyd eu hunain. Weithiau maen nhw'n meddwl y byddan nhw'n teimlo'n well pe bydden nhw'n gwneud rhywun arall yn drist. - Mae'r Beibl yn rhoi enghreifftiau i ni o bobl yn garedig a phobl sy’n gas wrth eraill.
Yn y Beibl, fe ddywed Iesu y dylen ni drafod pobl eraill fel y bydden ni'n dymuno cael ein trafod ganddyn nhw. Yn wir, mae'r syniad hwn mor bwysig fel y cewch chi hyd iddo ym mhob un o grefyddau mawr y byd - mae gan y syniad enw hyd yn oed: ‘y Rheol Aur’!
Os ydyn ni'n darganfod na allwn ni gadw'r Rheol Aur, os na allwn ni drafod pobl eraill fel rydyn ni'n dymuno iddyn nhw ein trafod ni - oherwydd ein bod ni'n drist ynghylch rhywbeth sy'n digwydd yn ein bywyd personol - yna fe ddylen ni fynd i chwilio am rywun i siarad ag ef am hynny. Rhywun yr ydyn ni’n ymddiried ynddo ef neu hi. Fe allai’r rhywun hwnnw fod yn rhywun gartref neu rywun yn yr ysgol, athro efallai neu athrawes, neu aelod arall o'r staff.
Os byddwch chi'n darganfod bod rhywun yn eich trafod mewn ffordd gas neu ffordd angharedig, mae'n rhaid i chi siarad gyda rhywun arall am hynny yn hytrach na cheisio delio â’r mater ar eich pen eich hun.
Mae'n beth da bob amser siarad am bethau fel hyn oherwydd mae pobl yn gallu eich helpu chi.
Amser i feddwl
Meddyliwch am eiriau Iesu, sef y dylem ni drafod pobl eraill yn y ffordd rydyn ni'n dymuno cael ein trafod ganddyn nhw. Meddyliwch am ffordd y gallech chi fod yn garedig heddiw.
Gweddi
Diolch i Ti, Arglwydd Iesu,
dy fod Ti'n gwybod am bopeth yn ein bywyd.
Diolch i Ti dy fod yn gwybod am yr holl bethau sy'n ein gwneud ni'n hapus
a'r pethau sy'n ein gwneud ni'n drist.
Helpa ni i fod yn garedig wrth bobl eraill
yn union fel y dymunwn ni iddyn nhw fod yn garedig wrthym ni.
Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2012 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.