Bywyd Charles Dickens
Meddwl am etifeddiaeth bositif bywyd Charles Dickens, ac ystyried y gall pob un ohonom gael effaith bositif ar y bobl rydyn ni’n cwrdd â nhw.
gan Jude Scrutton
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Meddwl am etifeddiaeth bositif bywyd Charles Dickens, ac ystyried y gall pob un ohonom gael effaith bositif ar y bobl rydyn ni’n cwrdd â nhw.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen cael mynediad at yr animeiddiad sydd gan y BBC am Charles Dickens: http://www.bbc.co.uk/drama/bleakhouse/animation.shtml
- Casglwch nifer o ddatganiadau cywir ac anghywir am Charles Dickens (gwelwch adran 3 a 4, gwelwch hefyd animeiddiad y BBC). Er enghraifft:
Cafodd Charles Dickens ei eni i deulu cyfoethog.
Roedd Charles Dickens yn byw mewn ty bychan cyffredin yn Llundain.
William Shakespeare oedd tad Charles Dickens.
Charles Dickens ysgrifennodd y ddrama Romeo and Juliet.
Charles Dickens ysgrifennodd y nofelau A Christmas Carol ac Oliver Twist.
Gwasanaeth
- Gofynnwch i'r plant am enwau rhai awduron enwog. Gwnewch restr.
Gofynnwch beth maen nhw'n ei gredu yw'r llyfrau neu’r storïau mwyaf enwog erioed (cyfeiriwch nhw at y Beibl, storïau Harri Potter gan J. K. Rowling, ac os nad ydyn nhw'n crybwyll y peth, gofynnwch iddyn nhw enwi rhai storïau enwog am y Nadolig fel - The Christmas Carol.) Cyflwynwch Charles Dickens iddyn nhw fel awdur Seisnig clasuron llenyddol yn cynnwys Oliver Twist, Bleak House,Great Expectations a’r nofel A Christmas Carol. - Pwy all fod yn awdur? A oes raid i chi fod yn ffasiynol? Neu’n gyfoethog?
Eglurwch y gallwch chi neu unrhyw un arall ddod yn awdur, heb ystyried pa mor dlawd neu gyfoethog ydych chi, neu ymhle y cawsoch chi eich geni, cyhyd â'ch bod yn benderfynol, yn weithgar ac yn greadigol. - Gofynnwch i'r plant beth maen nhw'n ei wybod am Charles Dickens.
Tafluniwch y datganiadau 'cywir ac anghywir' yr ydych chi wedi eu paratoi o flaen llaw (gwelwch yr adran ‘Paratoadau a deunyddiau’) a gofynnwch i'r plant ddosbarthu'r rhai sydd yn wir a rhai sydd ddim yn wir. - Cliciwch ar y cyswllt rhyngrwyd (gweler ‘Paratoadau a deunyddiau’), sydd yn rhaglen fer wedi ei hanimeiddio gan y BBC, ac sydd ar gael i'w defnyddio am ddim. Dywedwch wrth y plant am wrando'n astud ar yr hanes am fywyd Charles Dickens.
Gwiriwch eu hatebion wedyn gyda'r datganiadau ‘cywir’ ac ‘anghywir’.
Gofynnwch a ydyn nhw'n gwybod pam ein bod yn trafod hanes Charles Dickens. Eglurwch fod 2012 yn ddau can mlynedd ers ei eni: cafodd ei eni ar 7 Chwefror 1812). - Eglurwch pan fydd pobl yn marw fe fyddan nhw, ran amlaf, yn gadael rhywbeth ar eu hôl i bobl eraill. Gall hynny fod yn arian neu eiddo, neu bethau y maen nhw wedi eu gwneud, neu hyd yn oed yn atgof o eiriau neu weithredoedd caredig, neu esiampl dda efallai. Rydyn ni'n galw hyn yn waddol. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gadael gwaddol, er gwell, er gwaeth, neu gymysgiad o'r da a'r drwg.
Gofynnwch i'r plant beth oedd y gwaddol a adawyd gan Charles Dickens. (Yr holl storïau bendigedig.) - Gofynnwch beth oedd gwaddol Iesu. (Nid oes atebion cywir ac anghywir, felly derbyniwch gynigion.)
- Cyn belled â'ch bod wedi cael effaith ar fywyd rhywun yna rydych wedi gadael gwaddol. Os ydyn ni'n byw bywydau da, gwerth chweil a gwneud ymdrech i fod cystal ag y gallwn fod, yna fe fyddwn ni'n gadael gwaddol cadarnhaol, da ar ein holau.
Amser i feddwl
Pa waddol neilltuol, cadarnhaol fyddech chi'n hoffi ei adael pan fyddwch chi farw?
Gweddi
Arglwydd, helpa ni i ddefnyddio ein doniau a'n rhinweddau i wneud daioni
fel bo'r byd yn well lle oherwydd ein bod ni wedi byw.
Gweddi’r Arglwydd
Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2012 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.