Pawb Yn Fuddugol!
Annog y plant i wneud eu gorau glas bob amser, ym mhob peth y byddan nhw’n ei wneud.
gan The Revd Sophie Jelley
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Annog y plant i wneud eu gorau glas bob amser, ym mhob peth y byddan nhw’n ei wneud.
Paratoad a Deunyddiau
- Yr adnod o’r Beibl yw Philipiaid 3.14: ‘Yr wyf yn cyflymu at y nod, i ennill y wobr y mae Duw yn fy ngalw i fyny ati yng Nghrist Iesu.’
- Fe fydd arnoch chi angen step fechan i blentyn sefyll arni.
- Tair ‘medal aur’ (ar gael yn rhad mewn siop gwerthu pethau ar gyfer partïon, neu fe allech chi wneud rhai eich hunan).
Gwasanaeth
- Siaradwch am y profiad o ddewis pobl ar gyfer timau yn yr ysgol. Gallwch holi cwestiynau i'r staff neu'r plant - a ydyn nhw'n cael eu dewis yn syth, neu a fyddan nhw’n cael eu gadael tan y diwedd. Rhannwch unrhyw stori briodol o'ch eiddo'ch hun, er enghraifft: Fi oedd yr olaf bob tro i gael fy newis ar gyfer y tîm mewn gêm o rownderi am nad oeddwn byth yn gallu taro'r bêl yn dda iawn.
- Dywedwch: Os ydych chi wedi gwylio mabolgampwyr ar y teledu, fe allech chi fod wedi eu gweld yn derbyn eu medalau (dewiswch dri o wirfoddolwyr a gosodwch nhw ar ffurf podiwm - un ar y gris ac un o boptu). Gallech siarad ymhellach am chwistrellu siampên a chyflwyno medalau a blodau.
- Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gwybod ein bod ni'n dda am wneud rhywbeth (rhowch enghreifftiau'n ofalus, gyda chymysgiad o sgiliau, medrau a nodweddion cymeriad).
Beth bynnag yr ydym yn dda am ei wneud, mae'n bosib bob amser dod hyd yn oed yn well. Dyna paham yr ydym yn ymarfer (hyfforddiant pêl-droed, ymarfer côr, ymarfer sillafu). Weithiau, mae ymarfer yn hawdd ac ar adegau eraill mae'n anodd iawn – fel rhaglenni ymarfer yr Olympiaid. - Mae Cristnogion yn credu y gall pawb, gyda chymorth Duw, fod yn enillydd – cyflwynwch y tair ‘medal aur’ a chymerwch y gris ymaith fel bo'r tri phlentyn ar yr un lefel. Nid dim ond un enillydd medal aur yn unig sydd, ac nid gwobrau i dri o bobl yn unig a neb arall sydd.
Yn y bywyd Cristnogol, bydd pawb sy'n parhau ar y cwrs yn ennill gwobr. Mae un o’r ysgrifenwyr yn y Beibl (Paul) yn dweud peth fel hyn, ‘yr wyf yn cyflymu at y nod i ennill y wobr.’ Roedd yn credu bod Duw wedi rhoi swydd iddo'i gwneud, a hyd yn oed pan oedd hynny'n anodd iddo, fe wnaeth ddyfalbarhau.
Gall pawb ohonom ddal ati, er mwyn bod y gorau gallwn ni fod, yn y pethau y byddwn yn eu gwneud yn ein bywydau. Y ffordd yma, mae pawb yn enillydd!
Amser i feddwl
Treuliwch funud yn meddwl am rywbeth y byddech chi'n hoffi ei wneud yn well yn eich bywyd. Efallai mai bod yn well am wrando yw hynny, neu ymddwyn yn well, bod yn fwy caredig neu ei chael hi'n haws rhannu.
Os ydych chi'n credu nad ydych chi'n dda am wneud unrhyw beth neilltuol, gofynnwch i Dduw i ddangos i chi pa ddoniau y mae ef wedi eu rhoi i chi: mae’n bosib y byddwch yn cael eich synnu.
Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch i ti dy fod wedi rhoi i ni wahanol bethau i fod yn dda ynddyn nhw yn ein bywydau.
Helpa bob un ohonom ni i ddarganfod rhywbeth yr ydym ni'n dda am ei wneud,
ac i fod hyd yn oed yn well am ei wneud yr wythnos hon.
Helpa ni i ddal ati hyd yn oed pan fydd hynny’n anodd.