Persawr Gwerthfawr
ar gyfer y Garawys a Sul y Fam
gan The Revd Alan M. Barker
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Meddwl am y stori am y wraig a eneiniodd Iesu gyda phersawr, a meddwl am agweddau a gweithredoedd haelionus.
Paratoad a Deunyddiau
- Byddwch angen nifer o ddarnau sebon gydag arogleuon gwahanol, potel fach o bersawr, a channwyll bersawrus (dewisol).
- Darllenwch y stori drwyddi o flaen llaw. Mae’n bosib i’r stori gael ei hadrodd a'i meimio gan grwp o blant. Daw'r stori o Efengyl Marc 14.3–9.
Gwasanaeth
- Goleuwch y gannwyll bersawrus a/neu agorwch gaead y botel o bersawr er mwyn arogli'r cynnwys. Dangoswch werthfawrogiad! Caniatewch i rai plant rannu'r arogl.
Myfyriwch ar y ffaith y gall persawr effeithio ar y ffordd rydyn ni’n teimlo. Gall ambell bersawr ein helpu i deimlo'n dawel a thangnefeddus. Gall arogleuon eraill ein boddhau a'n cynhyrfu. - Eglurwch fod gwahanol bersawr wedi cael eu defnyddio am filoedd o flynyddoedd. Cafwyd hyd i lestri a oedd yn cynnwys ennaint persawrus ym meddrod y Brenin Tutankhamen o'r Aifft, a fu farw oddeutu 1350 CC - dros 3,000 o flynyddoedd yn ôl.
Yn y Beibl mae cyfarwyddiadau ar sut i wneud persawr o berlysiau, olew olewydden a glud. (Exodus 30.22-24, 34). Byddai persawr o'r fath yn cael ei ddefnyddio mewn addoliad. Mewn rhai traddodiadau Cristnogol heddiw, caiff arogldarth sydd ag arogl melys arno ei losgi tra bydd gweddïau'n cael eu hoffrymu. - Eglurwch, erbyn heddiw, bod persawrau’n cael eu defnyddio'n gyffredin i roi arogl ar hylifau a ddefnyddiwn yn y bath ac yn y gawod, a hefyd mewn sebon. Gwahoddwch rai o'r plant i gyffwrdd â gwahanol fathau o sebon. Pa fath o arogleuon sydd ar y sebonau? (Os nad yw'r plant sydd yn y gwasanaeth yn rhy niferus, gellir pasio'r sebonau ymysg y rhai sy'n bresennol. (Fe allwch chi hefyd ofyn pa siopau lleol sy'n cadw cyflenwad o wahanol sebonau a phersawr.)
Mae nifer o eitemau persawrus yn cael eu rhoi fel anrhegion i nodi Sul y Fam. Fe fydd y rhain yn cael eu rhoi i ddangos bod unigolion yn cael eu caru a'u bod yn arbennig.
Oes unrhyw un o'r plant wedi prynu eitemau persawrus i’w rhoi’n anrhegion, neu wedi cael pethau fel hyn eu hunain? Dangoswch y botel fach o bersawr i'r plant, ac eglurwch fod ambell bersawr yn gostus iawn. Gall hyd yn oed y swm lleiaf gostio llawer iawn o arian. Gall anrheg o bersawr ddangos i rywun eich bod yn meddwl y byd ohonyn nhw. - Cyflwynwch y stori o'r Beibl sy'n adrodd yr hanes sut y bu i rywun ddefnyddio persawr er mwyn dangos i Iesu gymaint yr oedd yn ei garu. Gallwch ddod o hyd i’r stori yn Efengyl Marc 14.3-9.
Persawr gwerthfawr
(addasiad Cymraeg o fersiwn Saesneg gwreiddiol y Parchg Alan Barker o stori Iesu’n cael ei eneinio ym Methania)
Un diwrnod roedd Iesu ym Methania, pentref tua dwy filltir o ddinas Jerwsalem. Roedd yn aros yng nghartref ffrind iddo o'r enw Simon. Ond ychydig iawn o amser yr oedd yn ei gael i orffwyso. Roedd yno bobl genfigennus a oedd yn casáu Iesu. Roedden nhw eisiau ei arestio a'i ladd ‘Rhaid i ni wneud hyn yn gyfrinachol,’ medden nhw wrth ei gilydd yn ddistaw. ‘Gadewch i ni aros nes bydd y ddinas yn dawel.’
Roedd hi'n amser swper yn nhy Simon. Fel yr oedd Iesu a'i ddisgyblion yn bwyta cawsant eu dychryn pan ddaeth rhywun i mewn i'r ystafell fwyta. Am foment roedden nhw i gyd yn meddwl mai un o elynion Iesu oedd yno, ond yna fe welson nhw mai dynes oedd hi. Doedd hi ddim yn cario unrhyw arf, dim ond potyn bach gwyn o bersawr, y math o botyn a fyddai'n cael ei ddefnyddio i ddal y persawr mwyaf drud a gwerthfawr.
Gan symud yn agos at Iesu, penliniodd y ddynes wrth ei draed. Yna, gan agor caead y potyn, fe’i cododd uwch ben Iesu a gadael i ddiferion o’r persawr ddisgyn dros ei ben a'i wallt. Ar amrantiad, llanwyd yr ystafell gyda'r arogl hyfrytaf.
Ond nid oedd pawb wedi eu plesio. ‘Dyna wastraff!’ ebychodd rhywun yn ddig. ‘Fe allech chi fod wedi rhoi'r arian a wariwyd i brynu'r persawr hwn i helpu'r tlodion.’ Fe wnaethon nhw feirniadu'r ddynes mor llym fel ei bod wedi dechrau wylo.
‘Gadewch iddi,’ meddai Iesu. ‘Peidiwch â'i phoeni. Onid ydych chi’n gweld fod y ddynes yma wedi gwneud rhywbeth hyfryd er fy mwyn i? Bydd yn rhaid i chi ofalu am y tlodion bob amser. Ond fydda i ddim gyda chi'n hir eto. Mae hi wedi cymryd y cyfle i ddangos ei bod yn ofalgar ohonof ac rwy'n gwerthfawrogi ei haelioni. Credwch fi, fe fydd pobl yn cofio'r hyn wnaeth hi am byth.’
Am ddyddiau lawer wedi hynny roedd arogl y persawr i'w yn parhau i fod yn nhy Simon. A phan gafodd Iesu ei arestio'n ddirgel gan ei elynion, cafodd Simon ei atgoffa pa mor agored y bu'r ddynes wrth ddangos ei chariad tuag at Iesu. - Fe wireddwyd yr hyn ddywedodd Iesu. Rydyn ni'n parhau i gofio ac adrodd y stori am y ddynes a'r persawr.
Gwahoddwch y plant i feddwl sut y mae modd iddyn nhw ddangos cariad a gofal dros eraill. Mae'r stori'n dangos nad anrhegion drudfawr yn unig sy'n cyfrif, ond agweddau meddylgar a gofalgar. Trwy ofalu am eraill, ac ar Sul y Fam, gall pethau bach (fel diferyn o bersawr) wneud gwahaniaeth mawr.
Amser i feddwl
Myfyriwch ar rai geiriau o eiddo'r Fam Teresa: ‘Allwn ni ddim gwneud pethau mawr – dim ond pethau bach â chariad mawr.’
Gweddi
Arglwydd Iesu,
helpa ni i fod yn fwy cariadus
ac i werthfawrogi haelioni a charedigrwydd y rhai sy'n ein caru ni.
Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2012 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.