Mae Wyau'n Hyfryd, Ond...
Gwasanaeth ar gyfer y Pasg
gan The Revd Alan M. Barker
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 1
Nodau / Amcanion
Meddwl am hapusrwydd dechreuadau newydd annisgwyl.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen copi o’r llyfr stori Dora’s Eggs gan Julie Sykes (Little Tiger Press, ISBN 1-85430-407-0).
Gwasanaeth
- Dywedwch stori Dora’s Eggs yn eich geiriau eich hun wrth ddangos y llyfr stori (crynodeb: Mae Dora wedi dodwy eu set gyntaf o wyau. Mae Dora wrth ei bodd. Mae’r wyau’n hyfryd, ond dydyn nhw ddim mor ddel â’r cywion hwyaid bach melyn, y moch bach pinc prysur, yr wyn bach chwareus, y cwn bach bywiog a’r lloi bach tlws, sef babanodd yr anifeiliaid eraill ar y fferm. Mae Dora’n teimlo braidd yn siomedig, a phan mae hi’n gweld yr wyau’n cracio, mae hi’n drist iawn ac mae’n dechrau crio. Ond, allan o’r plisgyn, fe ddaw'r cywion bach delaf a welodd neb erioed. Roedd Dora’n hapus iawn wedyn!)
- Gwahoddwch y plant i ddisgrifio gwahanol emosiynau Dora yn ystod y stori. Ar ôl bod yn siomedig, ac yn drist, mae hi’n falch ac yna’n hapus iawn pan ddaeth y cywion bach o’r wyau (er syndod iddi).
- Eglurwch fod wyau yn symbol o Wyl Gristnogol y Pasg. Cyfeiriwch at y stori: fel roedd Dora’n drist, roedd ffrindiau Iesu’n drist hefyd. Roedd pobl eraill o’u cwmpas yn chwerthin ac yn cael hwyl, ond roedd ffrindiau Iesu’n teimlo’n unig a heb obaith. Fe wnaethon nhw grio. Roedd Iesu wedi mynd. (Trafodwch fod pawb yn teimlo fel hyn ambell dro.)
Ond, fe ddigwyddodd rhywbeth annisgwyl. Fe ddaeth Iesu yn ei ôl. Fe wnaeth Iesu addo i’w ffrindiau y byddai gyda nhw bob amser. Roedd yn ddechrau newydd annisgwyl iddyn nhw, ac roedden nhw’n hapus iawn! - Dewch â’r sgwrs i ben trwy feddwl am y Pasg, a dweud bod Cristnogion yn dathlu dechrau newydd annisgwyl. Mae’r Pasg yn adeg hapus. Mae’r Pasg yn dweud wrthym ni nad yw tristwch yn para am byth.
Amser i feddwl
Dychmygwch mai chi yw Dora, yn eistedd ar yr wyau yn y nyth –
crac! Mae un o’r wyau wedi cracio!
Crac! Mae wy arall wedi cracio hefyd!
Crac! Crac! Crac!
O diar! Mae pob un o’r wyau llyfn hyfryd wedi torri.
Rydych chi’n teimlo’n drist iawn.
Ond gwrandewch!
Twit twit! Dyna gyw bach melyn tlws!
Twit twit! Ac un arall!
Twit twit! Twit twit! Twit twit!
Gadewch i ni ddawnsio’n llon!
Dyna beth yw dechrau newydd annisgwyl!
Gweddi
Annwyl Dduw,
pan fydd pethau drwg yn digwydd
diolch nad yw teimladau trist yn para am byth.
Diolch i ti am bethau fydd yn digwydd i mi heddiw
fydd yn ddechrau newydd annisgwyl.
Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2012 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.