Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Person Iawn Ar Gyfer Y Swydd: Gwasanaeth yn ymwneud â’r Pasg

Ystyried gwerth cymwysterau.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried gwerth cymwysterau.

Paratoad a Deunyddiau

Ewch i’r wefan http://en.wikipedia.org/wiki/US_Airways_Flight_1549 er mwyn cael delweddau o Captain Chelsey B. Sullenberger 111, llwybr hedfan hediad 1549, a llun yr awyren ar Afon Hudson (gwelwch adran 2).

Gwasanaeth

  1. A ydych chi erioed wedi clywed rhywun yn dweud, ‘Job i'r plymwr yw honna', neu'r 'AA’, neu hyd yn oed ‘y deintydd!'  Mae angen arbenigwyr i wneud rhai jobsys.

    A oes unrhyw un ohonoch wedi clywed am Capten Chelsey B. Sullenberger? Fe ddaeth ei arbenigedd ef i sylw'r byd yn 2009. (Dangoswch y ddelwedd oddi ar y rhyngrwyd.)

  2. Ar 15 Ionawr 2009, fe eisteddodd Capten Chelsey B. Sullenberger III, neu ‘Sully’ fel y caiff ei adnabod gan ei ffrindiau, yn ei sedd beilot yn yr awyren ar hediad US Airways 1549. Hediad arferol oedd hwn, o Efrog Newydd i Charlotte, yn nhalaith North Carolina. Roedd 155 o deithwyr ar fwrdd yr awyren, yn ogystal â chriw cabin llawn.

    Chwe munud ar ôl i'r awyren godi i'r awyr fe hedfanodd yn erbyn haid o wyddau Canada, a chollwyd y gwthiad yn gyfan gwbl o'r ddau beiriant, ac o ganlyniad ni fedrai'r awyren hedfan.

    Fel yr oedd Rheolaeth Trafnidiaeth Awyr yn prysuro i gael hyd i faes awyr a rhedfa gerllaw, fe lwyddodd Sully i lywio'r awyren a'i glanio ar yr Afon Hudson gyferbyn ag ardal canol dinas Manhattan. Wrth i'r gwasanaeth cychod achub a'r gwasanaeth tân ruthro i gyrraedd y safle, fe ddringodd yr holl deithwyr a'r criw allan ar adenydd yr awyren a oedd yn araf suddo i'r dwr.

    Llwyddodd pawb i ddianc heb golli eu bywydau. Dyma'r tro cyntaf mewn 45 mlynedd i awyren fawr lwyddo i lanio ar ddwr heb i’r un bywyd gael ei golli. (Dangoswch y ddelwedd oddi ar y rhyngrwyd o'r awyren yn segur ar yr Afon Hudson.) Fel y digwyddodd pethau, mae'n ymddangos fod offer technolegol o'r radd flaenaf ar fwrdd yr awyren, a oedd yn helpu'r peilot yn ei waith anodd o'i glanio'n ddiogel ar ddwr symudol. 

  3. Pan adroddwyd am y digwyddiad hwn, yn naturiol fe ganolbwyntiodd y cyfryngau ar arwr y dydd, sef y Capten B. Sullenberger. Dywedwyd fod gan Sully dros 40 mlynedd o brofiad fel peilot. Roedd wedi cael ei hyfforddi'n beilot awyrennau rhyfel yn Llu Awyr yr UDA, ac wedi gwasanaethu fel hyfforddwr, cadeirydd pwyllgor diogelwch ac ymchwilydd damweiniau. Mewn geiriau eraill, roedd yn brofiadol tu hwnt!

    Swydd arall sydd gan y Capten B. Sullenberger yw cyd-gyfarwyddo canolfan Rheoli Risg Catastroffig Prifysgol California.  Mae'r ganolfan hon yn gwneud gwaith ymchwil i geisio osgoi trychinebau hedfan. Ac mae hefyd yn darlithio ar sut i lanio awyrennau mewn argyfwng! Fe ddywedodd un o'i gyd-weithwyr nad oedd neb yn fwy cymwys i lanio'r awyren honno ac i helpu'r teithwyr oroesi argyfwng.

    Sully oedd y person iawn, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn.  

  4. Wrth i ni nesu at Wyl Gristnogol y Pasg, fe fyddwn yn dysgu mai Iesu hefyd oedd y person iawn yn y lle iawn i wneud y gwaith a benodwyd ar ei gyfer.

    Byth ers dechrau hanes, mae'r byd yn gwybod am hunanoldeb, trachwant, llygredd a rhyfeloedd. Mae pobl ffydd yn credu bod hyn yn bodoli oherwydd bod y potensial mewn pobl i wneud pethau da a phethau drwg.

    Mae Cristnogion yn credu bod Iesu wedi cael ei anfon gan Dduw dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl, i fyw yng ngwlad Palestina (neu Israel, fel mae’r wlad yn cael ei galw heddiw). Bu'n byw bywyd o ddaioni, a dangosodd i ni beth yw Duw mewn gwirionedd.

    Mae Cristnogion hefyd yn credu mai Mab Duw yn unig allai wneud hynny.  Iesu oedd y person iawn ar gyfer y gwaith o ddangos Duw i ni.

Amser i feddwl

Dychmygwch sut deimlad oedd hi i'r teithwyr ar fwrdd yr awyren honno y diwrnod hwnnw.
A fyddai'r teithwyr wedi hoffi cael gwybod pa mor brofiadol oedd peilot eu hawyren?
Pa mor ddefnyddiol i ni yw cael gwybodaeth am Iesu?

Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch i ti am arbenigedd Capten Sullenberger.
Diolch i ti ei fod wedi gallu glanio'r awyren honno'n wyrthiol heb i neb yn colli ei fywyd.
Diolch i ti am Iesu, a’i fod wedi gwneud popeth angenrheidiol i'n dwyn ni atat ti a'th gariad.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon