Dewch I Weld...
Cyfleu rhywfaint o’r cyffro yr oedd cyfeillion Iesu yn ei deimlo, fore’r Pasg cyntaf, wedi i’r angel ddweud wrthyn nhw bod Iesu’n fyw.
gan Helen Redfern
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Cyfleu rhywfaint o’r cyffro yr oedd cyfeillion Iesu yn ei deimlo, fore’r Pasg cyntaf, wedi i’r angel ddweud wrthyn nhw bod Iesu’n fyw.
Paratoad a Deunyddiau
- Efallai yr hoffech chi baratoi nifer o blant i ddarllen yr adnodau o’r Beibl, o Efengyl Mathew 28: adnodau 2-3, 5-7 ac adnod 8.
Gwasanaeth
- Dewch i weld
‘‘Dad, Dad, dewch ar unwaith. Dewch i weld beth sydd yn yr ardd.’
Roedd Ifan wrthi’n tynnu ar lawes ei dad yn frysiog, ond roedd Dad yn darllen ei bapur newydd, a doedd arno ddim awydd symud i weld beth oedd yn yr ardd.
‘Dad, gwrandewch arna i. Mae llwynog yn yr ardd. Mae’n rhyfeddol - mae’n hardd, lliw oren tywyll, o ryw fath, a chynffon fawr drwchus. Rhaid i chi ddod i’w weld. Fe fydd o wedi mynd mewn munud, a welwch chi mohono fo.’
Doedd tad Ifan ddim wedi bod yn gwrando’n iawn arno, a doedd o ddim yn cymryd llawer o sylw o’r hyn roedd Ifan yn ei ddweud. ‘O! Ifan!’ meddai. ‘Dim ond newydd eistedd i lawr yr ydw i, a does gen i fawr o awydd symud. Dos i ddweud wrth dy fam. Efallai y bydd ganddi hi ddiddordeb.’
Rhedodd Ifan yn ôl at y ffenestr i edrych a oedd yr ymwelydd annisgwyl yn dal yno. Oedd, roedd yn dal yno. Roedd y llwynog ifanc yn sefyll yn hollol lonydd, ac yn syllu ar Ifan â’i lygaid tywyll disglair. Roedd ei glustiau pigfain yn gwrando’n ofalus rhag unrhyw berygl. Roedd ei ystum yn awgrymu ei fod yn barod i ddianc oddi yno ar unwaith pe deuai perygl.
Doedd Ifan ddim yn gwybod yn iawn beth oedd orau i’w wneud. Roedd un rhan ohono’n awyddus i aros i wylio’r llwynog, ond roedd rhan arall eisiau cael rhannu’r profiad â rhywun arall. Sibrydodd wrth y llwynog llonydd: ‘Aros lle’r wyt ti, plîs. Rydw i am fynd i nôl Mam. Gobeithio y byddi di’n dal yma pan fyddwn ni’n dod yn ôl.’
Rhedodd Ifan allan o’r ystafell ac i fyny’r grisiau. Roedd ei fam yn yr ystafell ymolchi, ac roedd y drws ar gau. ‘Mam, Mam, brysiwch, dewch i weld. Mae llwynog yn yr ardd ac mae’n olygfa ryfeddol.’
‘O, Ifan! Rydw i yn y bath, a dydw i ddim yn barod i ddod allan ar y funud. Disgrifia’r llwynog i mi.’
‘Mae o'n lliw oren o ryw fath, ac yn drwchus ac … O! ...’ Stopiodd Ifan. Doedd o ddim yn gallu dod o hyd i’r geiriau iawn i ddisgrifio anifail mor hardd. ‘Mam, mae’n rhaid i chi ddod. Rhaid i chi ei weld drosoch chi eich hun. Wir i chi! Mae’n werth dod allan o’r bath i’w weld o. - Tybed oedd Ifan yn mynd i allu perswadio’i fam i ddod allan o’r bath i weld y llwynog.
Tybed a fyddai’r llwynog yn dal yno pan fyddai wedi mynd yn ei ôl.
Tybed ydych chi wedi gweld rhywbeth mor rhyfeddol fel na allwch chi aros i ddweud wrth rywun beth rydych chi wedi’i weld? - Yn stori’r Pasg, mae sôn am ffrindiau Iesu’n gweld rhywbeth mor rhyfeddol fel na allen nhw aros i gael dweud wrth bawb arall am yr hyn roedden nhw wedi’i weld.
Roedd rhai gwragedd yn mynd tuag at fedd Iesu. Roedd Iesu wedi marw mewn ffordd greulon ar y groes ddau ddiwrnod ynghynt. Roedd y dyn yma o’r enw Iesu, wedi newid eu bywydau. Roedd y dyn yma, o’r enw Iesu, yn Fab Duw. Ac roedd y dyn yma, o’r enw Iesu, nawr, yn gorwedd yn farw mewn bedd. Sut gallai hynny fod?
Roedd y gwragedd yn ofnus, yn teimlo’n ddryslyd, yn unig ac yn drist iawn, iawn. Y cyfan roedden nhw ei eisiau oedd cael bod yn agos at eu ffrind arbennig, sef Iesu.
Darllenydd 1: ‘A bu daeargryn mawr; daeth angel yr Arglwydd i lawr o’r nef, ac aeth at y maen a’i dreiglo i ffwrdd ac eistedd arno. Yr oedd ei wedd fel mellten a’i wisg yn wyn fel eira.’ (Mathew 28.2–3).
Ar ôl gweld hyn, rhaid bod y gwragedd wedi dychryn mwy nag erioed. Dychmygwch ddod wyneb yn wyneb ag angel! Ac fe siaradodd yr angel yma yn uniongyrchol â nhw:
Darllenydd 2: ‘“Peidiwch chwi ag ofni,” meddai. “Gwn mai ceisio Iesu, a groeshoeliwyd, yr ydych. Nid yw ef yma, oherwydd y mae wedi ei gyfodi, fel y dywedodd y byddai; dewch i weld y man lle y bu’n gorwedd. Ac yna ewch ar frys i ddweud wrth ei ddisgyblion. Y mae wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, ac yn awr mae’n mynd o’ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef.”’ (Mathew 28.5–7).
Iesu, wedi atgyfodi? Allai hynny fod yn wir? Ble roedd o wedi mynd? Oedd yr angel yno o ddifrif? Sut y byddai’r gwragedd yma’n ymateb i hyn?
Wel, mae’r Beibl yn dweud hyn wrthym ni:
Darllenydd 3: ‘Aethant ymaith ar frys oddi wrth y bedd, mewn ofn a llawenydd mawr, a rhedeg i ddweud wrth ei ddisgyblion.’ (Mathew 28.8).
Yn union fel roedd Ifan yn teimlo pan welodd y llwynog yn yr ardd, roedd y gwragedd yma wedi rhyfeddu hefyd, ac yn llawn cyffro. Roedd yn rhaid iddyn nhw gael dweud wrth eu ffrindiau am y peth. Doedden nhw ddim yn gallu cadw’r hyn roedden nhw wedi’i weld iddyn nhw’u hunain. - Tybed a wnaeth dilynwyr eraill Iesu gredu beth oedd gan y gwragedd i’w ddweud?
Tybed oedd ganddyn nhw’r amynedd a’r awydd i adael yr hyn roedden nhw ar ganol ei wneud, a mynd i weld drostyn nhw’u hunain?
Tybed a welson nhw, hefyd, Iesu wedi atgyfodi?
Amser i feddwl
Bob blwyddyn ar adeg y Pasg, mae Cristnogion yn dathlu’r dydd y cododd Iesu o farw’n fyw. Maen nhw’n cofio am y llawenydd a’r syndod a deimlodd y gwragedd rheini ar y Sul Pasg cyntaf erioed.
Heddiw, rydyn ni’n ymuno yn y dathlu trwy roi a derbyn wyau siocled, ac weithiau’n rhannu’r disgwyl a’r llawenydd o ddod o hyd i rywbeth rhyfeddol mewn Helfa Wyau Pasg draddodiadol.
Ac yn awr ac yn y man, fe fyddwn ninnau’n gweld rhywbeth sydd mor rhyfeddol fel na allwn ni aros i gael dweud wrth rywun am yr hyn rydyn ni wedi’i weld. Mae’n ein llenwi ni â llawenydd a syndod, yn union fel Ifan yn ein stori, ac fel y gwragedd yn y stori o’r Beibl.
Gweddi
Arglwydd Dduw'r Greadigaeth, rydyn ni’n diolch i ti am y rhyfeddodau yn y byd o’n cwmpas ni.
Rydyn ni’n gweld yr harddwch sy’n ein rhyfeddu.
Rydyn ni’n gweld golygfeydd rhyfeddol na allwn ni aros i gael dweud wrth rywun amdanyn nhw.
Helpa ni i agor ein llygaid i weld y rhyfeddodau o’n cwmpas.
Helpa ni i agor ein calonnau i ymateb i ryfeddod stori’r Pasg.
Cân/cerddoriaeth
Canwch un o’ch hoff emynau Pasg.