Does Neb Yn Union Fel Chi!
Helpu’r plant i werthfawrogi eu bod yn unigryw.
gan The Revd Sophie Jelley
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Helpu’r plant i werthfawrogi eu bod yn unigryw.
Paratoad a Deunyddiau
- Rholyn hir o bapur gwyn (gallwch ddefnyddio cefn papur wal, os nad oes glud parod arno).
- Pin ffelt mawr.
- Y darlleniad o’r Beibl yn yr ‘Amser i feddwl’ yw adnodau o Salm 139.13–16 (Y Beibl Cymraeg Newydd).
Gwasanaeth
- Ydych chi wedi meddwl erioed tybed a oes unrhyw un arall yn y byd sydd yn union fel chi? Gadewch i ni geisio darganfod yr ateb yn ystod ein hamser gyda’n gilydd heddiw. Yn gyntaf, gadewch i ni ateb rhai cwestiynau (bydd y rhain yn dibynnu ar eich sefyllfa, ond fe allech chi ofyn pethau fel hyn):
– llaw i fyny os ydych chi’n fachgen
– llaw i fyny os ydych chi’n ferch
– llaw i fyny os oes gennych chi wallt tywyll
– llaw i fyny os oes gennych chi lygaid glas
– llaw i fyny os gwnaethoch chi gerdded i’r ysgol heddiw (ac ymlaen).
Wel, mae’n amlwg bod sawl peth sy’n eich gwneud yn debyg i’ch gilydd. - Tybed oes rhywun yma sydd yr un siâp a’r un maint â rhywun arall. (Gosodwch eich papur wal. Dewiswch un plentyn i wirfoddoli i ddod atoch chi fel gallwch chi wneud amlinelliad ohono ef neu hi. Galwch ar rai eraill wedyn i ddod a sefyll y tu mewn i’r amlinelliad, er mwyn eu cymharu o ran maint, nes y dewch chi o hyd i rywun neu rywrai sy’n ffitio’r siâp.)
Felly, mae pobl sy’n debyg o ran maint. - Enwau – codwch eich llaw os oes rhywun yn eich dosbarth o’r un enw â chi.
(Dewiswch ddau neu dri o blant a gofynnwch iddyn nhw ddweud eu henwau fel bod pawb yn gallu eu clywed.) Rhowch chi eich llaw i fyny hefyd os oes rhywun o’r un enw â chi. - Y peth anhygoel yw, er bod llawer o bobl yr un fath o ran maint neu o ran lliw eu llygaid, neu gyda’r un enw, does neb yn y byd i gyd sydd yn union yr un fath â chi.
Codwch eich bawd ar y plant! Yna, craffwch ar eich bawd. Does neb arall yn y byd sydd â’r un ôl bawd neu olion bysedd â chi. Rydych chi’n arbennig. Chi yw’r unig un sy’n union fel chi!
Amser i feddwl
Mae Cristnogion yn credu mai Duw sydd wedi gwneud pob un ohonom.
(Goleuwch gannwyll a darllenwch ran o Salm 139.)
Ti a greodd fy ymysgaroedd,
a’m llunio yng nghroth fy mam.
Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol,
ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol.
Yr wyt yn fy adnabod mor dda;
ni chuddiwyd fy ngwneuthuriad oddi wrthyt,
pan oeddwn yn cael fy ngwneud yn y dirgel,
ac yn cael fy llunio yn nyfnderoedd y ddaear.
Gwelodd dy lygaid fy nefnydd di-lun;
y mae’r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr;
cafodd fy nyddiau eu ffurfio pan nad oedd yr un ohonynt.
Gweddi
Helpa ni i wybod bob dydd ein bod ni’n arbennig.
Diolch i ti am fy ngwneud i yr un ydw i.