Cludwyr Y Ffagl : Cludo’r Ffagl Olympaidd, a gwyl y Pentecost
Cadarnhau peth mor dda yw gwaith tîm, a pha mor werthfawr yw heddwch, undod a chyfeillgarwch.
gan The Revd Alan M. Barker
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Cadarnhau peth mor dda yw gwaith tîm, a pha mor werthfawr yw heddwch, undod a chyfeillgarwch.
Paratoad a Deunyddiau
- Er mwyn ychwanegu at y gwasanaeth, mae’n bosib dangos delweddau a gwahanol ddarnau o wybodaeth sydd i’w cael ar y wefan: http://www.london2012.com/olympic-torch-relay
- Fe welwch chi glip fideo o bobl yn cario’r ffagl, a manylion am y llwybr y bydd yn teithio ar ei hyd, ar y wefan http://www.london2012.com/videos/2011/olympic-torch-relay-route-animation.php
- Chwiliwch pa mor agos at eich ardal leol chi y bydd y fflam Olympaidd yn cael ei chludo.
- Os gwyddoch chi am rywun lleol fydd yn cario’r ffagl, fe allech chi wahodd y person hwnnw i gymryd rhan yn eich gwasanaeth.
- Edrychwch ar http://www.london2012.com/games/olympic-torch-relay/carrying-the-olympic-flame/a-day-in-the-life-of-a-torchbearer.php er mwyn cael adroddiad ar beth y mae’n ei olygu i fod yn un o’r rhai sy’n cludo’r ffagl.
- Fe allai’r plant lunio dawns i ddarlunio’r traddodiadau Olympaidd o heddwch, undod a chyfeillgarwch, a’i pherfformio gan ddefnyddio’r gerddoriaeth o’r fideo, ‘Spinnin’ for 2012’ gan Dionne Bromfield.
- Gosodwch 24 o ganhwyllau bach (tea lights) mewn cynhwysyddion addas i’ch helpu i adrodd stori’r Pentecost.
Gwasanaeth
- Wrth gyflwyno'r gwasanaeth, dywedwch y bydd y Gemau Olympaidd yn dechrau cyn bo hir, ond cyn i hynny ddigwydd, bydd fflam yn teithio ar hyd llwybr drwy’r Deyrnas Unedig!
Gwahoddwch bawb i fwynhau edrych ar y fideo sydd wedi ei hanimeiddio (http://www.london2012.com/videos/2011/olympic-torch-relay-route-animation.php), a thynnwch sylw at unrhyw dirnodau lleol. - Tynnwch sylw at y ffaith bod y cynnwrf yn cynyddu fel mae'r Gemau Olympaidd yn nesáu. Goleuo fflam yn y Stadiwm Olympaidd fydd yr arwydd i'r agoriad ar 27 Gorffennaf. Caiff y fflam hon ei chynnau gan y 'ffagl Olympaidd', a gafodd ei goleuo ei hun ar 10 Mai gan belydrau'r haul yn Olympia yng ngwlad Groeg.
Bydd y ffagl Olympaidd yn cyrraedd y DU ar 18 Mai. Bydd wedyn yn cael ei chario am 70 o ddyddiau trwy fwy na 1000 o ddinasoedd, trefi a phentrefi yn y DU, gan ddechrau yn Land’s End yng Nghernyw ar 19 Mai. (Dangoswch y llwybr y bydd y ffagl yn ei chario trwy eich rhanbarth chi a nodwch pa bryd y gellir ei gweld, edrychwch ar yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’.)
Mae taith hir y fflam fel hyn yn hollol ddibynnol ar waith tîm. Fe fydd proses o gyfnewid yn digwydd. Ar y cyfan bydd 8,000 o gludwyr yn cydweithredu i gario'r ffagl, gyda phob un yn rhedeg a'i chario am 300 metr, ac yna'n ei throsglwyddo i'r rhedwr nesaf. - Eglurwch fod y fflam yn cynrychioli heddwch, undod a chyfeillgarwch. Bydd y broses gyfnewid hon yn denu miliynau o bobl ynghyd.
Os oes aelod neu ffrind sy'n perthyn i gymuned yr ysgol yn cymryd rhan fel cludydd y ffagl, gwahoddwch y person hwnnw neu honno i'r gwasanaeth i roi sgwrs am yr hyn fydd yn digwydd. Fel arall, gofynnwch i gymuned yr ysgol ddychmygu sut beth fyddai cael bod yn gludydd y ffagl a bod yn rhan o'r dathliad mawreddog hwn. Edrychwch ar: http://www.london2012.com/games/olympic-torch-relay/carrying-the-olympic-flame/a-day-in-the-life-of-a-torchbearer.php - O gyrraedd y pwynt hwn yn y gwasanaeth, gellir dathlu'r themâu o heddwch, undod a chyfeillgarwch ar ffurf dawns.
- Efallai y bydd Ysgolion Eglwys yn dymuno cyfeirio at Wyl Gristnogol y Pentecost (Y Sulgwyn), a fydd yn cael ei ddathlu eleni ar 27 Mai. Mae'r Pentecost yn cadarnhau pwysigrwydd gwaith tîm: mae'n sôn am dyrfaoedd cynhyrfus, ac mae'n dathlu trosglwyddo'r neges Gristnogol gan ddilynwyr cyntaf Iesu.
- Ail-adroddwch hanes y Pentecost yn y ffordd ganlynol:
Trefnwch ddwsin o ganhwyllau bach (tea lights) ar ffurf cylch. Goleuwch nhw fesul un yn ystod rhan gyntaf y stori sy’n dilyn. Pan ddowch chi at y geiriau ‘Yna, fe ddaeth yn amser i drosglwyddo dysgeidiaeth Iesu i bobl eraill’, goleuwch y canhwyllau bach te sy'n weddill a phasiwch nhw ymlaen at aelodau o'r gymuned ysgol i'w dal.
Roedd Iesu'n fyw! Fe wyddai ei ffrindiau hynny.
Roedden nhw wedi ei weld.
Nid gydol yr amser, ond ar wahanol adegau, mewn gwahanol leoedd.
Yna, roedd wedi ymadael â nhw i fynd at ei Dad yn y nefoedd.
Roedd ffrindiau Iesu yn ei golli'n ddirfawr,
ond roedden nhw'n cofio'r cyfan a ddywedodd wrthyn nhw.
Roedden nhw’n trafod gyda'i gilydd,
yn rhannu gyda'i gilydd,
yn gweddïo gyda'i gilydd.
Fe ddaethon nhw'n dîm!
Un bore, ar wyl y Pentecost,
pan oedden nhw i gyd ynghyd,
fe anfonodd Iesu'r Ysbryd Glân i fod gyda nhw.
Yn awr, roedden nhw’n gwybod bod Iesu gyda nhw
bob amser ac ymhob lle.
Am wythnosau, roedden nhw wedi cadw dysgeidiaeth Iesu'n fyw.
Yna, fe ddaeth yn amser i drosglwyddo dysgeidiaeth Iesu i bobl eraill.
Wrth iddyn nhw weddïo a chanu gyda'i gilydd,
fe ddisgleiriodd eu hwynebau mewn llawenydd,
ac fe ledaenodd eu cariad fel fflam ddisglair,
gan gyffwrdd â'r rhai oedd o'u cwmpas.
Cyn bo hir, roedd mwy a mwy o bobl wedi cael eu hysbrydoli.
Ni fyddai goleuni Iesu byth yn diffodd.
Roedd pawb yn gallu ei weld.
Pa le bynnag yr oedden nhw'n mynd,
roedd y Cristnogion cyntaf
yn trosglwyddo'r fflam. - Cyfeiriwch yn ôl at arwyddocâd y fflam Olympaidd, a gorffennwch trwy fyfyrio y bydd y broses o gyfnewid y ffagl Olympaidd, gobeithio, ynghyd â gwyl Gristnogol y Pentecost yn ffordd o ysbrydoli heddwch, undod a chyfeillgarwch.
Bydd y rhai sy'n edrych ar y fflam yn rhannu eu profiad gyda llawer o bobl eraill ac, yn debyg i ddilynwyr cyntaf Iesu, yn gallu adrodd am stori ryfeddol.
Amser i feddwl
Ym mha ffordd y bydd gwaith tîm yn bwysig i chi heddiw?
Pa bryd fydd y cyfle i chi ddisgleirio?
Ym mha ffyrdd y gallwch chi feddwl am annog rhywun i gadw'r fflam o ffydd a gobaith yn olau?
Cân/cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir
Ar ddiwedd y gwasanaeth, chwaraewch y gerddoriaeth ‘Spinnin’ for 2012’ (a gofynnwch i rai o’r plant gyflwyno dawns, os byddwch wedi paratoi ar gyfer hynny, i gyd-fynd â’r gerddoriaeth).
Dyddiad cyhoeddi: Mai 2012 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.