Pobl Sy'n Ein Helpu
Dathlu 75ed pen-blwydd galwad 999 y gwasanaethau brys.
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 1
Nodau / Amcanion
Dathlu 75ed pen-blwydd galwad 999 y gwasanaethau brys (30 Mehefin).
Paratoad a Deunyddiau
- Lluniwch restr o alwadau ffôn ffug i’w harddangos ar y bwrdd gwyn.
- Fe fydd arnoch chi angen ffôn, a dau wirfoddolwr i actio galwad 999.
- Dangoswch eiriau’r gân sy’n dilyn (gwelwch rhif 5), fel y bydd y plant yn gallu canu’r geiriau ar yr alaw, ‘This old man’.
Gwasanaeth
- Eglurwch fod gennych chi nifer o broblemau angen delio â nhw heddiw. Dydych chi ddim yn siwr pa rai ddylai gael blaenoriaeth, felly fe hoffech chi i’r plant eich helpu i’w rhoi yn nhrefn eu pwysigrwydd. (Fe allech chi wneud hyn trwy ofyn i’r plant godi eu dwylo, neu fe allai gwirfoddolwyr nodi eu dewis ar y bwrdd gwyn.)
Problemau
Rydw i wedi colli fy sbectols, ac felly rydw i’n methu gweld i bilio’r tatws yn barod ar gyfer gwneud bwyd amser te.
Rydw i wedi bod yn disgwyl am y bws ers meitin, a dydi o byth wedi dod.
Rydw i eisiau pleidleisio ar gyfer Strictly Come Dancing, ac rydw i’n methu cofrestru fy mhleidlais.
Mae’r siop pitsa wedi danfon pitsa i mi gyda’r pethau anghywir arno.
Mae Siôn Corn yn torri mewn i un o’r tai yn y stryd. - Dywedwch wrth y plant bod un peth yn gyffredin i’r holl broblemau hyn: galwadau ffug oedden nhw, a wnaed fel galwadau i’r gwasanaethau brys. (Gofalwch bod pawb yn deall beth yw galwadau ffug -‘hoax’ - a phwysleisiwch na ddylai unrhyw un wneud galwad ffug.)
Eglurwch fod gennym ni yn ein gwlad ni chwe gwasanaeth brys, sef gwasanaethau sy’n anfon tîm o bobl, ar unwaith, i helpu pan fydd rhywun mewn sefyllfa beryglus neu drafferth enbyd. Ydych chi’n gwybod beth yw’r chwe gwasanaeth? (Gwasanaeth tân, yr heddlu, gwasanaeth ambiwlans, gwylwyr y glannau, achub pobl o ogofau, a gwasanaeth achub pobl sy’n mynd i drafferthion ar y mynyddoedd.)
Mewn un rhan o’r wlad yn unig, fe fydd y gwasanaethau brys yn derbyn o leiaf 14 o alwadau ffug bob dydd.
O’r chwe gwasanaeth brys, y gwasanaeth tân sy’n cael y nifer fwyaf o’r galwadau ffug hyn. Atgoffwch y plant na ddylen nhw byth, byth, wneud galwad ffug, oherwydd bod hynny’n golygu gorfod anfon tîm achub allan i gyfeiriad gwahanol i ddim byd, pryd efallai y byddai eu hangen go iawn i helpu rhywun y byddai ei fywyd o ddifrif mewn perygl. Mae unrhyw un sy’n gwneud galwad 999 ffug yn troseddu yn erbyn y gyfraith, ac mae’n bosibl olrhain yr alwad a dod o hyd i bwy bynnag sydd wedi ei gwneud, a bydd hwnnw neu honno’n cael cosb am wneud yr alwad. - Ar 30 Mehefin 1937, union 75 mlynedd yn ôl, fe ddechreuodd y gwasanaeth 999 ar ei waith ym Mhrydain am y tro cyntaf.
Dyma’r gwasanaeth cyntaf o’i fath yn y byd. Erbyn hyn, mae gan lawer o wledydd ledled y byd yr un math o wasanaethau lle mae help i’w gael ar ben arall y ffôn. - Mae’n hawdd dysgu beth i’w wneud, mae’r rhif 999 yn hawdd i’w gofio. Mae plant bach mor ifanc â phedair oed wedi gallu deialu’r rhif a chael help i rywun mewn argyfwng.
(Fe allech chi baratoi plentyn ac athro i lunio ac actio sefyllfa frys a galwad 999.) - Dysgwch y gân ‘999’ i atgoffa’r plant beth yw’r dull o alw am help pan fydd gwir angen gwneud galwad 999 mewn argyfwng.
Wedi i’r plant ymgyfarwyddo â’r gân, fe allai rhai ohonyn nhw ganu’r cwestiynau a rhai eraill ganu’r wybodaeth sy’n cael ei rhoi.
999, 999
Allwch chi ddeialu 999?
Gofynnwch am wasanaeth
A rhowch eich enw’n wir,
Dweud beth sydd wedi digwydd
yn syml a chlir.
999, 999
Allwch chi ddeialu 999?
Gofynnwch am wasanaeth:
‘Ambiwlans, O! Plîs!
Mae car wedi taro Meic
oddi ar ei feic.’
999, 999
Allwch chi ddeialu 999?
Gofynnwch am wasanaeth:
‘Heddlu, ie, plîs!
Mae lladron hy
wedi torri mewn i’r ty’
999, 999
Allwch chi ddeialu 999?
Gofynnwch am wasanaeth:
‘Gwasanaeth tân, O! Plîs!
Mae’r car o’n blaen
wedi mynd ar dân.’
Amser i feddwl
Treuliwch ychydig funudau’n trafod sut i wneud galwad 999 er mwyn galw’r gwasanaethau brys. Does neb yn gwybod pryd y bydd yn rhaid i ni wneud hyn!
Nawr, gofynnwch i’r plant feddwl am yr holl ddynion a merched sy’n gweithio bob dydd fel hyn i achub eiddo a bywydau pobl eraill sydd mewn perygl.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am yr holl bobl sy’n gweithio gyda’r gwasanaethau brys,
sydd yno yn barod i’n helpu ni.
Wrth iddyn nhw, heddiw,
ateb galwadau gan bobl sydd mewn argyfwng ac yn bryderus,
helpa nhw i fod yn gysurlon ac i dawelu ofnau’r bobl hynny
ac i allu cyfarwyddo’r rhai sy’n dod i achub at y sefyllfa ar unwaith.
Cân/cerddoriaeth
Yna, canwch y gân 999 unwaith eto.