Dal I Fynd Fel Billy A Wilma
Gwasanaeth yn seiliedig ar y Gemau Olympaidd, er mwyn ysbrydoli’r plant i fod yn ddewr hyd yn oed os oes rhwystrau.
gan Guy Donegan-Cross
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Gwasanaeth yn seiliedig ar y Gemau Olympaidd, er mwyn ysbrydoli’r plant i fod yn ddewr hyd yn oed os oes rhwystrau.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fyddwch angen gwisgo hen dei/ hen sgarff, a dod â siswrn gyda chi i’r gwasanaeth.
- Er mwyn cael llun o Billy Mills, ewch i’r wefan https://www.stripes.com/olympic-champion-billy-mills-1964-1.422650
- Er mwyn cael llun o Wilma Rudolph, ewch i’r wefan https://www.biography.com/.image/t_share/MTE5NDg0MDU1MTE3NzI3MjQ3/wilma-rudolph-9466552-1-402.jpg
- Gwisgwch eich hen dei/ sgarff cyn y gwasanaeth.
- Er mwyn cael y clip fideo o Billy Mills, ewch i’r wefan https://www.youtube.com/watch?v=vs6G8NfEyVk&feature=related
- Ac er mwyn cael y clip fideo o Wilma Rudolph, ewch i’r wefan www.youtube.com/watch?v=igl8DmcKRhQ (neu chwiliwch am y clip ‘Wilma Rudolph, An Uphill Battle’.
Gwasanaeth
- Pwy sy’n teimlo’n ddewr? Pwy fyddai’n ddigon dewr i ddod i dorri fy nhei yn ei hanner gyda’r siswrn yma?
(Dewiswch wirfoddolwr sy’n barod i ddod ymlaen i dorri’r tei gyda’r siswrn.)
Dywedwch fod rhaid i rywun fod yn eithaf dewr i ddod ymlaen i dorri tei neu sgarff yr arweinydd/athro neu’r athrawes, ond roedd gan y ddau athletwr Olympaidd rydych chi’n mynd i sôn amdanyn nhw heddiw fwy o ddewrder na hynny o dipyn. - (Dangoswch y llun o Billy Mills.) Rhedwr oedd Billy a oedd yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn 1964.
Bu farw tad a mam Billy pan oedd yn ddim ond 12 oed. Pan ymgeisiodd Billy gyntaf am gael bod yn aelod o dîm rhedeg yr ysgol, ni chafodd ei ddewis. Fe fyddai’r rhan fwyaf o bobl wedi digalonni ar y pwynt hwnnw, ond fe ddaliodd Billly i ymgeisio nes iddo yn y diwedd gael ei dderbyn i’r tîm o redwyr a oedd yn cynrychioli’r ysgol.
Fe ddaliodd ati i redeg a chystadlu, ac yn y pen draw fe gafodd ei ddewis i fod yn aelod o’r tîm Olympaidd i redeg yn y ras 10,000 metr. Sut bynnag, doedd yr un a oedd yn hyfforddi’r tîm ddim yn credu y byddai gan Billy siawns o ennill ar y trac, felly wnaeth yr hyfforddwr ddim trefnu bod Billy’n cael pâr o esgidiau rhedeg. Fe fu’n rhaid i Billy ofyn am fenthyg rhai gan rywun arall!
Pan ddaeth diwrnod y ras, doedd fawr neb yn gwybod pwy oedd Billy. Pan oedd ar y lap olaf o’r trac roedd dau redwr o’i flaen. Ond yn yr eiliadau olaf, fe redodd Billy ymlaen yn sydyn gyda chyflymder anhygoel a phasio’r ddau a oedd o’i flaen, gan guro hyd yn oed ei gyflymder pennaf ei hun gymaint â 46 eiliad! Fe allwch chi wylio stori Billy, oddi ar y rhyngrwyd, yma (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’). - (Dangoswch y llun o Wilma Rudolph.) Cafodd Wilma Rudolph ei geni yn y flwyddyn 1940, ac roedd ganddi 21 o frodyr a chwiorydd.
Pan oedd Wilma yn bedair oed, fe gafodd yr afiechyd polio, ac wedyn roedd yn rhaid iddi wisgo ffrâm haearn am ei choesau i’w helpu i gerdded. Doedd hi ddim yn gallu symud ei choes chwith, ac fe ddywedodd doctoriaid wrthi na fyddai’n gallu cerdded yn iawn byth wedyn. Ond bum mlynedd yn ddiweddarach, pan oedd yn naw oed, fe dynnodd y fframiau oddi am ei choesau a dechrau ymarfer i fod yn athletwraig.
Yn y flwyddyn 1955, pan oedd Wilma’n 16 oed, roedd yn rhedeg yn y Gemau Olympaidd yn Awstralia, ac fe enillodd fedal efydd. Ond yn y flwyddyn 1960, yn Rhufain, fe synnodd Wilma’r byd i gyd trwy ennill tair medal aur a helpu’r tîm i ennill y ras gyfnewid. Cafodd ei galw ‘the fastest woman in history’ - y ferch gyflymaf mewn hanes - ac fe gyhoeddwyd stamp post gyda’i llun arno.
Fe allwch chi wylio stori Wilma, oddi ar y rhyngrwyd, yma (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’). - Fe allai Billy a Wilma, ill dau, fod wedi rhoi’r gorau iddi’n hawdd. Ond wnaethon nhw ddim. Fyddwn ni ddim i gyd yn ennill medalau ond, fel y ddau athletwr yma, fe allwn ni benderfynu dal ati gyda beth bynnag y byddwn ni’n ei wneud a pheidio â rhoi’r gorau iddi.
Amser i feddwl
Mae’r Beibl yn dweud bod byw eich bywyd i Dduw yn debyg i athletwr yn hyfforddi. Weithiau fe fyddwn ni’n teimlo bod pethau’n hawdd i ni, ond dro arall heb fod mor rhwydd, ond gyda Duw fe all pob un ohonom ni ddal ati.
Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch am Billy a Wilma.
Helpa ni i ddal ati pan fydd pethau’n anodd,
a helpa ni i beidio bod ofn wynebu her -
oherwydd rwyt ti gyda ni bob amser.
Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2012 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.