Chwerthin Yw'r Ffesig Gorau
Gwasanaeth ar gyfer rhai sy’n gadael yr ysgol
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried wynebu heriau newydd gan chwerthin.
Paratoad a Deunyddiau
- Ar y bwrdd gwyn neu trwy gyfrwng PowerPoint, dangoswch ‘The Loch Ness Monster’s Song’ gan Edwin Morgan: gwelwch: http://www.scottishpoetrylibrary.org.uk/poetry/poems/loch-ness-monsters-song (gwiriwch amodau’r hawlfraint). Neu fe allech chi lunio cerdd debyg eich hun, a’i haddasu i fod yn destun mwy lleol.
Gwasanaeth
- Treuliwch beth amser yn dathlu bywyd y plant hynny sydd ar fin gadael yr ysgol i ddechrau gyrfa newydd mewn ysgol uwchradd.
Gall y plant gymryd rhan mewn sawl ffordd. Er enghraifft, fe fyddai’n bosib i grwp o blant ysgrifennu penillion i’w darllen yn y gwasanaeth. Gallai’r testunau fod yn bethau fel:
– Atgofion: ‘Wrth i mi feddwl am fy ysgol gynradd, rydw i’n meddwl am . . .’
– Llwyddiannau
– Y munudau doniolaf
– Y munudau ‘Wps!’ rheini. - Ystyriwch yr heriau newydd fydd yn eich wynebu yn y blynyddoedd sydd i ddod wrth i chi symud ymlaen i ysgol uwchradd – pynciau newydd, athrawon newydd, ffrindiau newydd ac adeiladau newydd. Fe fydd yr hen bethau cyfarwydd wedi cael eu gadael ar ôl. Fe fydd yn hawdd addasu i rai pethau, ond efallai y bydd rhai pethau’n ddieithr i chi ac yn gwneud i chi ddigalonni ychydig.
- Dangoswch eiriau’r ‘Loch Ness Monster’s Song’, (neu eich fersiwn eich hun) gan beidio dangos y teitl.
Dywedwch mai iaith newydd yw hon, y byddwch chi’n gobeithio y bydd y plant yn ei dysgu. Holwch pa iaith mae’r plant yn feddwl yw hi, all y plant awgrymu? Gofynnwch am wirfoddolwyr i ddarllen ambell linell.
Dyna i chi her! Fe allech chi wynebu heriau eraill yn yr ysgol uwchradd - pethau fel algebra, gwaith coed, agor llyffantod marw mewn gwers fywydeg, dysgu ieithoedd modern a hyd yn oed astudio iaith hynafol fel Lladin.
Nawr rhowch deitl y gerdd a ddangoswyd i’r plant. Ydi hynny’n gwneud iddyn nhw deimlo’n well? - Fe ddywedodd Dr Seuss ryw dro, ‘I like nonsense, it wakes up the brain cells.’ Roedd yn credu bod darnau dwli fel hyn yn deffro’r ymennydd.
Ac mae chwerthin yn gwneud mwy na hynny hefyd. Yn y Beibl mae’n dweud hyn: ‘Y mae calon lawen yn rhoi iechyd, ond ysbryd isel yn sychu’r esgyrn’ (Diarhebion 17.22).
Eglurwch mai un o’r pethau pwysicaf yr hoffech chi ei ddweud wrth y plant, wrth iddyn nhw ymadael, yw dweud peth mor bwysig yw chwerthin. Mae fel ffisig i ni ac i’r bobl sydd o’n cwmpas.
- Beth yw ystyr bod yn isel eich ysbryd? Mae’n golygu bod â chalon a meddwl sy’n byw a bod ar bethau negyddol. Mae’n golygu bod rhywun yn meddwl pethau fel:
– Dydw i ddim yn gallu ymdopi â’r holl waith cartref newydd yma.
– Does neb yn fy hoffi i yn yr ysgol newydd yma.
Os byddwn ni’n byw gyda’n pen i lawr, ac yn canolbwyntio ar y pethau negyddol, fe fyddwn ni’n sychu esgyrn pobl eraill yn ogystal â’n hesgyrn ni ein hunain! - Fe ddywedodd Mark Twain, ‘The human race has one really effective weapon, and that is laughter.’ Mae gan yr hil ddynol un arf effeithiol iawn, a chwerthin yw hwnnw.
Felly, pan fyddwch chi’n teimlo braidd yn isel eich ysbryd, ceisiwch chwerthin. Fe allech chi geisio darllen y gerdd hyd yn oed. Nawr, dyna i chi her!
Amser i feddwl
Treuliwch foment yn meddwl am eiriau Mark Twain: ‘The human race has one really effective weapon, and that is laughter.’ Mae gan yr hil ddynol un arf effeithiol iawn, a chwerthin yw hwnnw.
Os byddwch chi’n penderfynu treulio’r dydd heddiw gyda chalon lawen, sut byddai hynny’n gallu newid y diwrnod i chi?
Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch i ti am lawenydd a chwerthin.
Diolch bod chwerthin yn gallu codi ein hysbryd.
Gofynnwn i ti, wrth i ni ymadael ag un cyfnod yn ein bywyd
a mynd i mewn i gyfnod newydd,
y byddwn ni’n gallu ei wynebu’n hyderus, fel synnwyr o antur,
ac yn cofio peth mor dda yw gallu chwerthin.
Cân/cerddoriaeth
Ceisiwch lwytho i lawr fersiwn o’r gân ‘The laughing policeman’.