Sialens I'r Tim
Gwasanaeth wedi ei seilio ar y Gemau Olympaidd, sy’n cadarnhau ac yn annog gwaith tîm.
gan The Revd Alan M. Barker
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Gwasanaeth wedi ei seilio ar y Gemau Olympaidd, sy’n cadarnhau ac yn annog gwaith tîm.
Paratoad a Deunyddiau
- Mae’r casgliad cyflawn o ddarnau 50 ceiniog Chwaraeon Gemau Olympaidd Llundain 2012 yn cynnwys 29 o ddarnau 50c yn darlunio: campau dwr; saethyddiaeth; athletau; badminton; boccia (un o gampau’r chwaraeon Paralympaidd); bocsio; pêl-fasged; canwio / neu rwyfo caiac; beicio; marchogaeth; cleddyfaeth; pêl-droed; gêm pêl gôl; gymnasteg; pêl law; hoci; jiwdo; pentathlon modern; rhwyfo; hwylio; saethu; taekwondo; tennis bwrdd; tennis; triathlon; pêl foli; codi pwysau; rygbi cadair olwyn; reslo.
- Fe fydd arnoch chi angen nifer o ddarnau 50c, yn ddelfrydol, rhai o’r casgliad sy’n dathlu Gemau Olympaidd Llundain 2012, os gallwch chi ddod o hyd i rai.
- Mae’n bosib dod o hyd i wybodaeth am y 29 darn 50c, a delweddau ohonyn nhw ar y wefan: https://www.royalmint.com/discover/uk-coins/coin-design-and-specifications/london-2012-coins/
- Ac mae golwg cyffredinol i’w gael ar: http://www.bbc.co.uk/news/uk-11527266
Gwasanaeth
- Dangoswch y darnau 50c sydd gennych chi. Nid yw pob darn yr un fath. Tra mae llun o ben y frenhines bob amser ar un ochr, sef y tu blaen (neu’r ‘head’), mae amrywiaeth o ddyluniadau i’w cael ar yr ochr arall, ar y gwrthwyneb (neu’r ‘tail’).
Er mwyn nodi’r Gemau Olympaidd, mae’r Mint Brenhinol (y ganolfan sy’n cynhyrchu ein holl ddarnau arian Prydeinig, a’r lle y caiff medalau swyddogol y Gemau Olympaidd eu cynhyrchu hefyd) wedi cyhoeddi a chynhyrchu Casgliad 50c Chwaraeon Gemau Olympaidd Llundain 2012. Mae 29 math gwahanol o ddarnau 50c, gyda gwahanol ddelweddau ar bob un, yn darlunio’r amrywiol chwaraeon sy’n digwydd yn y Gemau Olympaidd. - Tafluniwch rai o’r dyluniadau (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’) a gwahoddwch gymuned yr ysgol i nodi’r gwahanol chwaraeon a sgwrsio amdanyn nhw. Wrth eu trafod, efallai y bydd angen i chi gydgyfrannu gwybodaeth a phrofiad. Dyna beth yw gwaith tîm!
- Yn 2009, cynhaliwyd cystadleuaeth i ddylunio’r darnau 50c hyn. Mae pob un o’r 29 darn wedi eu cynllunio gan wahanol bobl, ac mae pob un yn adlewyrchu arddull a diddordebau unigol y dylunwyr. Un o’r darnau yn y casgliad yw darn sy’n darlunio athletau, wedi ei ddylunio gan Florence Jackson, a enillodd gystadleuaeth y rhaglen deledu Blue Peter pan oedd hi’n ddim ond naw oed. Dyma enghraifft arall o waith tîm – pobl yn gweithio gyda’i gilydd i gyrraedd nod y maen nhw’n ei rannu.
- Tra mae rhai o’r chwaraeon sy’n cael eu darlunio yn gystadlaethau tîm, mae rhai cystadlaethau eraill yn gystadlaethau unigol. Ac fe all rhai ohonyn nhw fod y ddau beth. Pa rai o’r chwaraeon canlynol (sy’n cael eu darlunio ar y darnau 50c) sydd bob amser, neu ran amlaf, yn gystadlaethau tîm?
pêl-droed; cleddyfaeth; hoci; pêl-fasged; jiwdo; athletau; codi pwysau; rygbi cadair olwyn. - Wrth fod yn rhan o dîm, mae’n rhaid i’r chwaraewyr gefnogi ei gilydd a helpu’r naill a’r llall. Fydd pob aelod ddim yn yr un safle, ac ni fydd pob un a’r un cyfrifoldeb. Fe fydd tîm da yn gwneud y gorau o wahanol gryfderau a galluoedd aelodau’r tîm.
Yn yr ysgol heddiw, ar ba adegau y bydd gwaith tîm yn bwysig?
Sut deimlad yw bod yn rhan o dîm?
Pam fod gwaith tîm yn rhoi her i ni?
Beth sy’n gwneud tîm cryf?
(Derbyniwch awgrymiadau a’u crynhoi.) - Gosodwch her i’r plant: gwahoddwch bob dosbarth i geisio dod o hyd i hynny sy’n bosib o’r darnau arian arbennig hyn (mae 89 miliwn wedi eu cynhyrchu a’u rhoi i’w defnyddio gan y bobl, ond mae’n anodd iawn dod o hyd i rai yn eich newid o ddydd i ddydd).
Tybed fydd unrhyw ddosbarth yn gallu dod o hyd i’r 29 cynllun? Wrth gwrs, mae rhai pobl yn gallu prynu set gyflawn o’r darnau 50c gan y Mint brenhinol, ond y rheol yn yr her yma sy’n cael ei gosod i’r plant heddiw yw dod o hyd i’r darnau, fesul un, wrth gael newid yn y siop ac ati. Efallai y bydd angen iddyn nhw ofyn i ffrindiau ac aelodau eu teulu eu helpu Dyna enghraifft eto o waith tîm!
Gofynnwch i bob dosbarth gadw cofnod o’r rhai maen nhw’n dod o hyd iddyn nhw drwy dynnu ffotograff o’r darnau. Byddai cyfle hefyd i blant unigol gasglu set o rwbiadau o’r darnau. - Pwysleisiwch y ffaith, bod cyfle i gymuned yr ysgol gyfan - trwy weithio mewn timau – ddod o hyd i ragor o’r darnau arian nag y byddai unigolyn yn gallu ei wneud ar ei ben ei hun. Ac er mwyn dod o hyd i’r nifer fwyaf o ddarnau arian, fe fydd angen i bob dosbarth gyfuno eu hymdrechion. Gwaith tîm yn wir!
Amser i feddwl
Fydd un darn 50c ddim yn prynu llawer, ond gall pentwr ohonyn nhw fod yn llawer mwy o werth.
Mae pedwar yn werth £2.
Deg yn £5.
Mae ugain yn gwneud £10.
Ac mae dau ddeg naw yn werth ... £14.50!
Gyda’i gilydd maen nhw’n werth llawer mwy!
Mae gwaith tîm yn beth felly.
Mae’n bosib i ni gyflawni llawer mwy gyda’n gilydd.
Rydyn ni’n gyfoethocach pan fyddwn ni’n rhan o dîm.
Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2012 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.