Un Gafod Syndod Mawr Wrth Gwrdd A Iesu
Nicodemus
gan Margaret Chapman
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 1/2
Nodau / Amcanion
Helpu’r plant i ddeall yr her a osododd Iesu i Nicodemus.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fyddwch chi’n chwarae rhan Nicodemus. Efallai yr hoffech hi wisgo rhywbeth am eich pen i ddarlunio’r cymeriad (chwiliwch ar y rhyngrwyd am luniau).
- Mae’r sgwrs rhwng Nicodemus a Iesu i’w chael yn Efengyl Ioan 3.1–16.
- Mae’r stori am y nadroedd gwenwynig yn yr anialwch i’w chael yn Numeri 21.4–9.
- (Dewisol) Casglwch nifer o luniau i’w dangos:
- silwét o rywun yn y nos
- llun wyneb rhywun sydd wedi cael syndod
- llun neidr ar bolyn
- llun Iesu ar y groes
- y geiriau canlynol o Efengyl Ioan 3.16 wedi eu hysgrifennu (er enghraifft, ar PowerPoint): ‘Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.’
Gwasanaeth
- (Chwaraewch ran Nicodemus yn ymgripio ar draws yr ystafell.)
Rydw i wedi trefnu i gwrdd â rhywun yn gyfrinachol - athro, o’r enw Iesu. Mae gen i ddiddordeb yn yr hyn sydd ganddo i’w ddweud. Ond fiw i mi adael i fy nghydweithwyr wybod, sef y Phariseaid. Dydi’r Phariseaid i ddim yn hoffi Iesu. Felly rydw i’n mynd i gwrdd â Iesu yn y nos. - Syndod! (Dangoswch y llun o wyneb rhywun sydd wedi cael syndod.) Pan siaradais i’n foneddigaidd gyda Iesu, fe wnaeth anwybyddu’r hyn oedd gen i i’w ddweud, gan awgrymu os oeddech chi eisiau cael eich derbyn i deyrnas Duw nad oedd pwrpas dim ond bod yn grefyddol. Yn hytrach, roedd angen i chi ddechrau o’r newydd eto, fel cael eich geni eto. Dyna syndod!
- Roeddwn i’n meddwl bod hynny’n swnio braidd yn hurt, felly fe ofynnais iddo, ‘Beth? Wyt ti’n awgrymu bod angen i rywun fynd yn ôl i mewn i fol ei fam a chael ei eni eto?’
Na! Fe eglurodd Iesu i mi beth oedd yn ceisio’i ddweud. Roedd yn dweud bod Duw’n dod i mewn i galon pobl, ac i’w bywyd, wrth iddyn nhw roi eu ffydd yn Nuw a meddwl am Dduw yn lle meddwl amdanyn nhw’u hunain. - Yr ail syndod! (Dangoswch lun y neidr ar bolyn, neu chwifiwch neidr blastig ar ffon.) Fe wnaeth Iesu fy atgoffa o rywbeth a ddigwyddodd ymhell yn ôl yn hanes ein pobl. Unwaith, roedd pla o nadroedd ac roedd llawer o bobl yn cael eu brathu gan y nadroedd gwenwynig ac yn marw. Fe ddywedodd Duw wrth Moses, sef arweinydd y bobl, am wneud cerflun o neidr allan o’r metel efydd a gosod y cerflun ar bolyn tal. Yna, roedd i fod i wahodd y bobl i ddod i edrych ar y neidr efydd ac fe fydden nhw’n cael eu gwella. Fe ddywedodd Iesu wrthyf fi, Nicodemus, y byddai ef ei hun, Iesu, yn cael ei godi, ac y byddai pawb fyddai’n edrych arno, ac yn bod â ffydd ynddo, yn cael eu derbyn i deyrnas Duw. Ac felly, y cyfan y byddai’n rhaid i mi ei wneud fyddai edrych ar Iesu a bod â ffydd ynddo.
Wel yn wir! Oedd Iesu’n mynd i allu gwneud hynny i bobl? Ac fe feddyliais i tybed ai hwn oedd y Meseia, yr achubwr, yr oedd Duw wedi addo ei fod yn mynd i’w anfon at y bobl ryw ddiwrnod. Ai hwn, Iesu, oedd y dyn hwnnw? - Yna, fe ddywedodd Iesu rywbeth hyfryd wrthyf fi, rhywbeth na wnaf i byth ei anghofio. Rydw i wedi ysgrifennu beth ddywedodd o, yma, fel y gallwch chi ddarllen ei eiriau gyda fi. Fe ddywedodd, ‘Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.’
Dyna i chi addewid hyfryd. Wyddoch chi, cyn i mi gwrdd â Iesu roeddwn i’n meddwl fy mod i’n ddigon da i gwrdd â Duw. Nawr rydw i’n sylweddoli mai’r ffordd i allu bod yn ddigon da i gwrdd â Duw yw bod â ffydd yn Iesu, ac nid dim ond meddwl eich bod yn ddigon da fel rydych chi. - Roedd gen i ofn beth fyddai’r Phariseaid yn ei ddweud pe bydden nhw’n gwybod fy mod i’n dilyn Iesu, felly mae’n ddrwg gen i gyfaddef, ond fe fues i’n dilyn Iesu yn y dirgel wedyn. Ychydig ar ôl hynny, fe wnaeth gelynion Iesu ei roi i farw ar y groes bren hon, ac fe gafodd y groes ei chodi i bawb allu gweld Iesu (dangoswch y llun o Iesu ar y groes).
Wedi i Iesu farw, fe wnes i sylweddoli mai’r peth lleiaf fyddwn i’n gallu ei wneud iddo fyddai helpu ei gyfeillion i’w gladdu. - A wyddoch chi beth ddigwyddodd? Dri diwrnod wedi hynny fe gododd Iesu o farw’n fyw! Wel dyna i chi beth yw syndod go iawn! (Dangoswch y llun o wyneb rhywun sydd wedi cael syndod.)
Erbyn hyn dydw i ddim yn dilyn Iesu yn y dirgel. Rydw i’n hapus iawn i ddweud wrth bawb fy mod yn ei ddilyn, ac yn falch o hynny.
Amser i feddwl
Rydyn ni’n meddwl mai dim ond trwy fod yn grefyddol a da y gallwn ni gael ein derbyn gan Dduw. Y newyddion da yn y Beibl yw bod Iesu yn hollol dda, ac fe ddaeth o’r nefoedd fel bod pawb sydd â ffydd ynddo ef yn gallu cael eu derbyn gan Dduw.
Gweddi
Annwyl Arglwydd Iesu,
diolch i ti am adael y nefoedd a dod i’n daear ni.
Diolch i ti am egluro i Nicodemus sut y gallai gael ei dderbyn gan Dduw.
Diolch i ti am farw ar y groes er mwyn dangos i ni faint mae Duw’n ein caru ni.
Dyddiad cyhoeddi: Awst 2012 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.