Yom Kippur
Dydd y Cymod
gan Manon Ceridwen Parry
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Dysgu am wyl Yom Kippur, a meddwl am ei themâu sy’n ymwneud â drygioni a maddeuant.
Paratoad a Deunyddiau
- Cefndir Yom Kippur yw’r diwrnod mwyaf sanctaidd o’r holl ddyddiau a gwyliau Iddewig. Mae’n digwydd ddeg diwrnod ar ôl Rosh Hashanah, ac mae’n nodi’r achlysur pan ddaeth Moses i lawr o ben Mynydd Sinai gyda’r ail set o orchmynion - y Deg Gorchymyn.
Yn ystod y cyfnod o ddeg diwrnod cyn Yom Kippur, bydd y bobl yn ceisio gwneud iawn am yr holl bethau maen nhw wedi’u gwneud o’i le yn ystod y flwyddyn flaenorol. Caiff y pethau hynny eu dadlennu wrth i Dduw agor ‘Llyfr Bywyd’ ar eu Diwrnod Blwyddyn Newydd (Rosh Hashanah), sef Dydd Barn Duw. Ar ddiwedd Yom Kippur (sy’n llythrennol yn golygu ‘Dydd y Cymod’), fe fydd Duw’n maddau i bawb sydd wedi edifarhau ac wedi newid eu ffordd o fyw.
Mae’r dydd, Yom Kippur, yn dechrau pan mae’r haul yn machlud un diwrnod ac yn parhau nes bydd yr haul yn machlud y diwrnod canlynol. Mae’n cael ei nodi trwy ymprydio (ymwrthod ag unrhyw fwyd na diod) yn achos yr holl oedolion, ar wahân i’r rhai sy’n wael ac yn oedrannus, a phum gwasanaeth yn y synagog. Mae hyd yn oed yr Iddewon sydd heb fod yn neilltuol o grefyddol yn cadw dydd Yom Kippur. - Lluniwch nodlyfr ‘Y Llyfr Da’ (nodlyfr gyda’r geiriau ‘Y Llyfr Da’ wedi eu hysgrifennu ar y clawr, neu wedi eu hargraffu mewn llythrennau bras ac wedi eu gludio ar y clawr).
- Meddyliwch am arferion eich ysgol, sy’n annog ymddygiad da, fel y gallwch chi gynnwys rhain yn y gwasanaeth, os ydyn nhw’n debyg i egwyddorion y Llyfr Da.
Gwasanaeth
- Siaradwch am y gwahanol ffyrdd y mae ysgolion yn annog ymddygiad da, er enghraifft, mae gan rai ysgolion system ‘goleuadau traffig’ (cardiau melyn neu goch i’r rhai hynny sy’n camymddwyn).
Anogwch y plant i sôn wrthych chi am ffyrdd y mae’r clybiau neu’r cymdeithasau y maen nhw’n perthyn iddyn nhw yn annog ymddygiad da. Neu, a oes gan y plant reolau gartref? - Siaradwch am ‘Y Llyfr Da’. Mewn rhai ysgolion, mae unrhyw aelod o’r ysgol, yn athrawon a phlant, yn gallu ysgrifennu yn ‘Y Llyfr Da’ a nodi enwau unrhyw un sydd wedi gwneud rhywbeth arbennig o dda, wedi gweithio’n galed, neu wedi dangos gofal arbennig dros rywun arall yn yr ysgol.
- Cyfeiriwch at Rosh Hashanah, yn enwedig os ydych chi wedi cynnal y gwasanaeth am Rosh Hashanah cyn y gwasanaeth hwn. Deg diwrnod cyn Yom Kippur yw dechrau’r Flwyddyn Newydd Iddewig. Ar y Diwrnod Blwyddyn Newydd (Rosh Hashanah) yn draddodiadol, fe fydd Duw’n barnu ymddygiad pawb yn ystod y flwyddyn flaenorol. Am y cyfnod hwnnw o ddeg diwrnod mae Iddewon yn ceisio ymddwyn yn arbennig o dda, gan fod yn gyfeillgar tuag at y bobl y byddan nhw wedi digio wrthyn nhw, neu wedi cweryla â nhw yn ystod y flwyddyn.
Diwrnod arbennig ar ddiwedd y deg diwrnod hynny yw Yom Kippur. Ar y diwrnod hwn mae pobl yn meddwl yn ddwys iawn am yr hyn maen nhw wedi ei wneud sydd ddim yn iawn, ac maen nhw’n gofyn i Dduw faddau iddyn nhw. Maen nhw’n gwneud hyn gartref ac mewn gwasanaethau arbennig (pump i gyd) yn y synagog. - Er mwyn eu helpu i ganolbwyntio ar eu gweddïau, fe fydd yr oedolion a’r plant hynaf (ond nid plant ifanc na phobl oedrannus na phobl sy’n wael) yn ymprydio: fyddan nhw ddim yn bwyta nac yn yfed unrhyw beth am y cyfnod o 25 awr.
- Eglurwch i’r plant mai’r rheswm pam rydych chi wedi dod â’r Llyfr Da gyda chi yw ei fod yn syniad tebyg i’r llyfr arbennig sy’n rhan o stori Yom Kippur. Enw’r llyfr hwnnw yw Llyfr Bywyd, ac yn ôl traddodiad pobl sy’n Iddewon, dyma’r llyfr lle mae Duw’n ysgrifennu yr holl bethau da, a’r holl bethau drwg, y mae pawb wedi eu gwneud yn ystod y flwyddyn a aeth heibio.
Ar Rosh Hashanah, y Diwrnod Blwyddyn Newydd Iddewig, mae Duw’n barnu sut mae pawb wedi bod yn ymddwyn, ac yn ystyried eu gweithredoedd da a’u gweithredoedd drwg (oes rhywun wedi gwneud mwy o bethau da na phethau drwg?). Mae’r Llyfr Bywyd yn debyg, mewn ffordd, i’n llyfr ni ‘Y Llyfr Da’, ond gydag un gwahaniaeth mawr – dim ond pethau eithriadol o dda sy’n cael eu nodi yn ‘Y Llyfr Da’. - Yn ôl y traddodiad Iddewig, ar ddiwedd Yom Kippur mae Llyfr Bywyd yn cael ei gau a’i gadw dan sêl, ac mae Duw’n penderfynu, yn ôl sut mae pob un wedi ymddwyn yn ystod y flwydd yn flaenorol, sut flwyddyn fydd y flwyddyn sydd i ddod i bob un ohonyn nhw.
- Er mwyn dathlu diwedd Yom Kippur a dathlu maddeuant Duw, mae Iddewon yn dod â’r ympryd i ben gyda gwledd fawr.
Amser i feddwl
Agorwch eich ‘Llyfr Da’, a gofynnwch i’r plant eistedd yn dawel a myfyriol.
Beth fydden nhw’n hoffi ei weld wedi ei ysgrifennu amdanyn nhw yn y ‘Llyfr Da’?
Efallai yr hoffen nhw feddwl am y pethau maen nhw wedi eu gwneud a oedd ddim yn iawn, a meddwl sut y gallen nhw unioni’r cam y maen nhw wedi ei wneud â rhywun.
Gweddi
Ein Harglwydd Dduw,
helpa ni i fod yn garedig, yn foneddigaidd ac yn gariadus ym mhob peth y byddwn yn ei feddwl, ei wneud, a’i ddweud.
Helpa ni i edifarhau pan fyddwn ni’n brifo teimladau pobl eraill,
a helpa ni i geisio gwneud iawn am hynny.
(Os gwnaethoch chi gynnal y gwasanaeth ar Rosh Hashanah - gwelwch y gwasanaethau eraill ar gyfer y mis hwn – yna, er mwyn helpu’r plant i wneud y cysylltiad rhwng y ddwy wyl, efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r weddi ganlynol sydd wedi’i chymryd o ddiwedd y gwasanaeth hwnnw.)
Gweddi ar gyfer Rosh Hashanah
Ein Harglwydd Dduw,
helpa ni i barchu eraill, a pharchu ein hunain.
Helpa ni i ofalu am eraill, a gofalu amdanom ein hunain.
Helpa ni i edifarhau pan fyddwn ni wedi gwneud cam ag eraill, a helpa ni i wneud iawn am hynny.
A gad i’n blwyddyn gael ei llenwi â melyster
i ni ein hunain, i’n ffrindiau ac i’n teuluoedd.
Cân/cerddoriaeth
Chwaraewch gerddoriaeth werin Iddewig nodweddiadol i’r plant – efallai yr hoffech chi ddysgu dawns gylch syml iddyn nhw er mwyn iddyn nhw fynegi eu llawenydd.